91热爆

Y Pry Marmaled

Episyrphus balteatus

05 Awst 2009

Mae hwn yn ymwelydd cyffredin iawn i'n gerddi ni tros fisoedd yr haf ond, gan mai ryw 10 i 15 milimedr ydi o o'i goryn i flaen ei gynffon, mae o'n un hawdd iawn ei ddiystyru. Hwn yw'r pryfyn bychan sy'n hofran eiliad, glanio ar flodyn i fwydo a saethu i ffwrdd i hofran eto ar flodyn arall.

Ar waethaf ei liwiau bygythol, mae o yn hollol ddiniwed - ac o fydd mawr i arddwyr hefyd, gan fod yr larfa yn bwytau cler (aphids).

Ambell flwyddyn, daw heidiau mawr o'r rhain trosodd o'r Cyfandir.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.