91热爆

Chwilen gladdu

Chwilen gladdu

Chwilen gladdu neu Chwilen bridd - Nicrophus investigator- Burying Beetle neu Sexton Beetle

Cyffredin - mae yna tua 60 gwahanol rhywogaeth o 'chwilod claddu' yng Ngwledydd Prydain (er nad yw pob rhywogaeth yn claddu eu prae, ar waethaf eu henw). Mae yna un arall sydd yn debyg iawn i hon, Nicrophus interuptus - mae hi tua'r un faint a N.investigator, ond mae yna dorriad amlwg yn y band oren uchaf ar blisgyn yr adenydd. Roedd yr unigolyn uchod, ddaeth i'r fei yn nhrap gwyfynod Galwad Cynnar ym Mhenrhyndaedraeth ddechrau mis Hydref, ryw chydig bach llai na hanner modfedd o'i thrwyn i'w chynffon (fel petai).

Caiff y chwilod yma eu henw oherwydd eu harfer o durio dan gyrff llygod, llyg neu adar bychain fel bod y corff yn suddo'n raddol i'w 'bedd' - mae yna son amdanyn nhw yn torri coesau ambell gorff i ffwrdd, er mwyn iddo fo ffitio'n well i'r twll. Twll gweddol gul ma'nhw'n durio, a byddant yn blingo'r corff hefyd fel rheol, iddo lithro'n hwylusach i'w le. Mae gan hon 锚n a choesau cryf iawn ar gyfer y gwaith yma.

Roedd arbennigwyr yn arfer credu mai ar gyrff marw yn unig roedd y chwilod claddu yn byw - ond erbyn hyn, credir fod ambell rywogaeth yn chwilio am gyrff y mae pryfetach wedi dodwy arnyn nhw, ac yn bwyta cynrhon y pryfaid, yn hytrach na chnawd y corff.

Ar ol taro ar gorffyn, yn aml, bydd par o'r Chwilod claddu yma yn cenhedlu cyn eu gladdu. Wedyn, ar ol y claddu, bydd y chwilen fanw yn torri twnel fydd yn arwain o'r corff at siambr bychan lle bydd hi yn dodwy, cyn dychwelyd at y corff i fwydo. Mae y chwilen wryw yn aros hefo hi yn aml iawn. Pan fydd y larfa yn deor, mae y fam yn eu bwydo ar gnawd y corff cyfagos, ond yn ei dreulio gyntaf. Yn fuan iawn, daw y larfa i allu bwydo ar y cyrff heb gymorth y fam.

Bywyd digon anghynnes efallai - o'n pyrspectif ni - ond ar y llaw arall, mae y rhain, fel aml i fwytwr celanedd arall, yn glanhau'r byd 'ma a byddai'n ddrwg iawn arnom ni hebddyn nhw !

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.