Uchod - nymff Lyffant y Gwair - diolch yn fawr i John Owen, Bethel, am y llun.
Un o'r cwestiynnau gafwyd ar Galwad Cynnar ganol Mehefin oedd 'Beth sydd yn achosi yr hyn 'da ni'n alw'n 'Poer y Gog' - nid y Gog, o bosib?'
A'r ateb yw, na: nymff (ffurf anaeddfed) pryfyn bychan elwir yn Llyffant y Gwair (Froghopper) sydd yn gyfrifol. Mae yna sawl gwahanol rhywogaeth o'r rhain, ond y mwyaf cyffredin yw Philaenus spumarius. Dim ond tri chyfnod sydd yna i fywydau y rhain (yr un fath a Sioncod Gwair a Gweision Neidr) sef, yr wy, y nymff, a'r oedolyn. Mae yr oedolyn, sydd rhwng 4 a 7mm o hyd, yn dodwy ryw 100 o wyau ddiwedd yr haf. Mae'r rhain yn deor yn y Gwanwyn canlynol. Mae'r nymff yn crafangio i lawr coesau planhigion megis y Lafant a Chlychau'r Gog ac yn bwydo trwy sugno'r medd. Er bod y nymff yn edrych yn debyg i'r oedolyn, nid oes ganddo adenydd, ac nid yw ei lygaid na'i goesau wedi datblygu yn llawn, Yn wahanol i'r oedolyn nid yw corff y nymff wedi ei orchuddio a haen o gwyr chwaith, haen sydd yn rhoi rywfaint o amddiffynfa i'r oedolyn,. Dyna pam mae'r nymff, yn creu'r poer o'u hamgylch fel amddiffynfa.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.