Diolch i Duncan Brown am y llun uchod.
Un o'r cwestiynnau mwyaf cyffredin ddaw i ni ar Galwad Cynnar yn ystod yr haf yw 'Lindys beth yw hwn ?' Fel rheol, fe fydd yna lun ynghlwm a'r cwestiwn, ond fe aeth Mr Owens o Dywyn, Meirionnydd, gam ymhellach a gyrru dau lindysyn i ni. Hawdd iawn, wedyn, oedd galw heibio Duncan Brown, a gofyn yr un cwestiwn iddo yntau. A dyma'r ateb :
Lindys Cwcwll y Pannog (Shargacucillia verbasci,'The Mullein' yn saesneg) ydyn nhw. Erbyn hyn, mae y ddau yma wedi ymgartrefu ym meithrinfa lindys Duncan; ac, maes o law, fe fydd yr oedolion yn datblygu ac yn cael rhyddid Waunfawr.
Gwyfyn bach brown a gweddol ddisylw yw Cwcwll y Pannog. Mae adennydd yr oedolion yn mesur ryw 44-52mm pan fyddent wedi'hymestyn i'w heithaf. A phan fydd y pryfyn yn gorffwys, mae'n edrych yn debyg iawn i ryw damaid bach o frigyn marw.. Caiff ei enwau Cymraeg, Lladin a Saesneg oherwydd mai'r Pannog (Verbascum neu Mullein) yw prif fwyd y lindys. Fe'u gwelir ar ambell blanhigyn blodeuog arall, megis y Gynffon Las (neu Goeden Fel , Buddleja davidii) hefyd.
Mae Cwcwll y Pannog yn weddol gyffredin dros ran helaeth o Loegr, ond yn llai felly yng Nghymru. Yma, fe'i gwelir fynnychaf ym Morgannwg, ar Benrhyn Gwyr, ac yn y Gogledd.
(Viking, 1984).Fe welwch luniau o'r oedolyn yn 'Field Guide to Moths of Great Britain and Ireland (British Wildlife Publishing 2003) a chlasur safonol Bernard Skinner, 'Colour Identification Guide to Moths of the British Isles'
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.