91热爆

Jac-y-Do

12 Mehefin 2009

Jac-y-Do

Corvus monedula

Jackdaw/Western Jackdaw/Common Jackdaw

Dyma adar sydd yn gyffredin iawn drwy'r rhan fwyaf o Ewrop, ac sydd i'w gweld ym mhob cynefin, fwy neu lai, o'r aberoedd a'r arfordiroedd i diroedd amaeth a llethrau mynyddig, ac hyd yn oed ymhlith brain eraill ar ambell i gopa. Mae'r rhain yn ddinesyddion amlwg o bob pentref, tref a dinas yn eu dalgylch hefyd, wrth gwrs, ac yn ddemocrataidd iawn eu dewis o drigfannau o dyrrau eglwysi cadeiriol i dai cyffredin ac adfeilion diwydiannol.

Ceir dau rywogaeth o Jac-y-Do; yr un gorllewinol, C. monedula, sydd yn gyfarwydd i ni yng Nghymru a thrwy Orllewin Ewrop, a Jac-y-Do Daurian, C. dauuricus, sydd i'w weld o Siberia i ganol Tsieina. Mae y ddau yn hynod debyg i'w gilydd, heblaw fod y rhannau sy'n lwyd ar y rywogaeth orllewinol bron yn wyn ar yr un dwyreiniol, a bod llygaid C. dauuricus yn dywyll.

Mae Jac-y-Do ymhlith y lleiaf o deulu'r brain, a'r lleiaf un yng Ngwledydd Prydain. Gellir ei ddisgrifio yn syml iawn fel bran fechan ddu, gyda gwegil ac ysgwyddau llwydion, cap du-loyw, llygaid golau pefriaidd, pen cymharol fychan, cynffon cymharol hir (i faint y corff), coesau a thraed duon, a phig du. Ar gyfartaledd, tua 33 i 34 cm o'i big i'w gynffon, ac mae'r ceiliogod yn dueddol o fod ychydig bach mwy na'r ieir.

Er mae hwn yw y lleiaf o'n brain; mae gyda'r mwyaf swnllyd, yn ddi-os, ac mae cawcian a checru'r Jacs (yn enwedig y rhai ieuainc) yn un o elfennau amlycaf tapestri swn ein trefi a'n pentrefi. Rydan ni wedi son tipyn am ddeallusrwydd teulu'r brain ar Galwad Cynnar o bryd i'w gilydd, a tydi Jac-y-Do ddim yn un i godi cywilydd ar weddill y teulu 'chwaith. Yn bowld ac yn swil 'run pryd, mae o wedi gweld y fantais o ddefnyddio aneddleoedd y ddynoliaeth i'w ddefnydd ei hun, ac wedi hen ddysgu cadw allan o'n cyrraedd ni 'run pryd!

Yn rhyfeddol, o ystyried ei enw drwg fel lleidr biniau a lloffwr tomenni sbwriel, mae tua 84% o fwyd Jac-y-Do yn lysieuol - yn hadau ac yn aeron, ac yn gnau ac yn ffrwythau. Ond, ar ol dweud hynny, gall y Jacs fwyta unrhywbeth, bron. Gall fwyta cywion adar llai, a wyau, a physgod a chreaduriaid y traeth a'r glasdraeth, gall fwyta trogod hefyd (o gefnau defaid e.e.), a phryfetach a chynrhon pryfetach, a chynrhon gwenyn meirch, crystiau hefyd, a chnau o gewyll bwydo titwod, a hadau o'r bwrdd adar, a chynnwys ein biniau sbwriel. Fe'u gwelwch, weithiau, ymhlith heidiau o wylanod yn bwydo ar forgryg pan fydd y rheinny'n hedfan. Sgolor pluog ac ydi o, mae ambell Jac-y-Do wedi cael ei weld yn mynd a chrystiau sychion a'u gollwng i byllau dwr, i'w mwydo a'u meddalu, cyn eu bwyta. Ond sgolor go ddi-chwaeth ydi o hefyd - ar binsh, fe all fwyta llyffantod

Gwyr pawb fod y Jacs yn nythu mewn cyrn simndda (hyd yn oed rhai sy'n dal i gael eu defnyddio) ac ym mhob math o dyllau yn nhoeau a muriau tai a hen adeiladau, boed nhw yn adfail neu'n dal mewn defnydd; ond fe'u gwelir yn nythu ymhlith gwylanod ac ati ar glogwyni'r arfordir hefyd, yn ogystal a chilfachau ar ochrau hen chwareli, tyllau mewn hen goed ar gyrion coedwig, ac unrhyw le arall sydd yn cynnig lloches glud a diogel iddyn nhw. Ym Mhenrhyndeudraeth, er enghraifft, mae nifer o nythod Jac-y-Do mewn cei dan groesffordd rheilffordd tren bach Ffestiniog - fe allech feddwl byddai'r wyau'n cael eu hysgwyd yn gwstard yn y fath le, ond na, mae o yn le tawel a diogel, a sych, ymhell o gyrraedd unrhyw reibiwr.

Nyth o frigau fydd o, wedi ei leinio a gwlan neu dameidiau o ddeunydd - neu unrhyw beth arall gweddol feddal a chynnes, o ran hynny. Mae aml i arddwr wedi gweld Jac-y-Do yn gwneud ymdrech fawr i falu tameidiau o'r 'fleece' ddefnyddir i orchuddio planhigion yr ardd a'u cadw rhag difrod barrug a rhew, ac yn cludo'r carpiau i'w nythod - a go brin y ceir deunydd cynhesach na hwnnw i leinio nyth.

Mae'r Jacs yn dechrau magu o Fis Ebrill ymlaen. Dydwir rhwng 4 ac wyth wy, fel rheol, a'r iar yn unig fydd yn gori. Caiff y cywion eu deor ymhen 17 i 19 niwrnod, ac fe fyddant yn hedfan ymhen tua 30 diwrnod ar ol hynny. Ac yn hel yn gangiau stwrllyd cyn clwydo pob noson dawel wedyn, nes taro ar gymar.

Cyw newydd adael y nyth sydd yn y llun uchod. Wrth iddo brifio, bydd plu llwydaidd yn ymddangos ar ei wegil, y cap du yn dod yn fwy amlwg ar ei ben, a'r llygaid gleision yna yn mynd yn oleuach a mwy glaslwyd. Ond fe fyddan nhw'n dal i befrio!

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.