91热爆

Siani Lwyd

Llygoden o aderyn.

Llwyd y Gwrych/Siani Lwyd

Prunella modularis

22 Mai 2009

Dunnock, Hedge Sparrow, neu Hedge Accentor yn Saesneg, Prunella modularis yw'r enw gwyddonol arno. Dyma lygoden o aderyn - neu felly mae o yn ymddangos i ni, beth bynnag. Fe'i gwelwch nhw, y ceiliogod a'r ieir yn edrych yn debyg iawn i'w gilydd, yn hela'u bwyd yn llechwraidd o amgylch godrau llwynni, dan blanhigion, ac nghilfachau a chysgodion yr ardd. Mae'n byw ar bryfetach, mwydod a chorynod.

Er fod Llwyd y Gwrych tua'r un maint ac Aderyn y To, ac er eu bod o liwiau gweddol debyg, ac ar waethau un o'r enwau Saesneg arnynt hefyd, mae Llwyd y Gwrych yn perthyn yn nes i deulu mawr y bronfreithiaid nac i Adar y To. Ond, fel gydag Adar y To, mae'n werth edrych yn fanylach ar yr adar bychain disylw yma, oherwydd mae y patrymau a'r lliwiau ar eu plu yn gyfoethocach a harddach o lawer na feddyliai rhywun ar yr olwg gyntaf.

Amcangyfrir fod yna tros ddwy filiwn o barrau o'r rhain yng Ngwledydd Prydain. Maent i'w gweld ar gyrrion coedwigoedd, gwrychoedd a thir amaeth, yn ogystal ac yn 49% o'n gerddi ni. Nid adar mudol mohonynt a phur anaml y byddant yn crwydro ymhellach na ryw gilomedr o'u nythod genedigol.

Galwad : ryw 'tsiiip' go wichlyd rhan amlaf.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.