91热爆

Cadwch olwg ar adar yr ardd

Esgob Coch Euplectes franciscanus

22 Mai 2009

Diolch i Valmai Matulla am yrru'r llun hwn i ni. Ei thad W.H.Hughes dynnodd o, ar Awst y drydydd 2004, yn yr ardd yn Nhrefor, Gwynedd. Ac mae o yn dangos na wyddom ni byth beth fydd yn troi i fyny yn ein gerddi ni i chwilio am damaid o fwyd.

Aderyn o ogledd yr Affrig yw'r Esgob Coch (Red Bishop, Grenadier Weaver). Mae ei diriogaeth arferol o yn ymestyn o Senegal i Etheopia a Tanzania, ac fe'i ceir yn Angola a De Affrica hefyd. Aderyn corsdir a glennydd llynoedd ac afonydd yw hwn, sydd yn byw ar bryfetach, hadau a blagur planhigion y gors

Sut daeth o i ymweld a gardd yn Nhrefor ? Wel, mae hwn yn aderyn poblogaidd iawn fel aderyn sioe ac fel aderyn caets, a'r tebygrwydd yw ei fod wedi dianc o gasgliad rhywun.

Ond, dyma ddangos y gall poblogaeth pluog cyffredin ein gerddi ni ddenu ymwelwyr gwahanol iawn i'w plith o dro i dro, a'i bod o hyd yn talu cadw golwg ar beth sydd yno.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.