Mwyalchen/ Aderyn Du Big Felen (Turdus merula) 'Blackbird'
Un o gerddorion mwyaf y byd pluog, ym marn llawer un. Bydd can soniarus, gyfarwydd y Ceiliog Mwyalchen i'w chlywed yn uchel ac yn gyson o ddiwedd y gaeaf i ddiwedd y tymor nythu. Ac os bydd rywbeth yn tarfu arno, bydd ei waedd 'larwm croch yr un mor uchel (ac effeithiol).
Er fod Mwyalchod yn adar cyfarwydd yn ein pentrefi a'n trefi ni erbyn hyn, datblygiad lled newydd yw hwn. Mor ddiweddar a 1804, roedd y naturiaethwr/arlunydd enwog, Thomas Bewick, yn disgrifio'r Big Felen fel 'aderyn swil y coed a'r llwyni'.
Mae yna gcofnodion o Fwyalchod dof yn byw ugain mlynedd, ac o rai gwyllt yn byw am un mlynedd ar bymtheg. Ond, eithriadau prin iawn yw y rhain, a'r gwir yw fod bywyd yn beryglus iawn,a brau , i Aderyn Du. Hyd yn oed yn niogelwch ymddangosol gardd swbwrbaidd gyffredin. Dengys ymchwil manwl fod tua 33% o boblogaeth blynyddol Mwyalchod gwledydd Prydain yn marw ac, fel gyda'r rhan fwyaf o adar ein gerddi, bydd Mwyalchen yn lwcus iawn os caiff fyw mwy na ryw dair mlynedd.
Gall yr Aderyn Du ddechrau cymharu a magu yn flwydd oed. Fel rheol, bydd Mwyalchod yn dechrau chwilio am safleoedd nythu o ddiwedd Chwefror ymlaen (er y gallant wneud hynny ynghynt os bydd amodau megis y tywydd yn ffafriol). Yn aml iawn, fe fydd y ceiliog a'r iar yn gwneud hyn gyda'i gilydd, ond mae'n bur debyg mai'r iar fydd yn penderfynnu ar leoliad y nyth. A'r iar fydd yn adeiladu'r nyth hefyd - er y bydd y ceiliogod yn cario deunydd iddi o bryd i'w gilydd. Gall yr adeiladu fod yn broses hir ac araf iawn, yn enwedig ar ddechrau'r tymor.
Dydwir rhwng 3 a 5 wy fel rheol - ond fe geir llai, neu fwy, mewn ambell nyth weithiau. A'r iar, unwaith eto, fydd yn gori, tra bydd y ceiliog yn amddiffyn y nyth a'r diriogaeth; ond, os digwyddith rywbeth i'r iar, yna fe all y ceiliog ori yn ei lle. Yn wahanol i rai adar cyffredin arall (fel y Titw Glas e.e.), mae y Fwyalchen yn dechrau gori ar ol dodwy'r wy cyntaf. Mae pob wy yn deor, yn ei dro, ar ol ryw 13 niwrnod. Ymhen pythefnos wedyn, fwy neu lai, mae y cywion yn dechrau deor.
Am ychydig ddyddiau, mae y cywion yn tueddu i lechu rywle yng nghyffiniau'r nyth, cyn dechrau dilyn yr oedolion o amgylch y lle yn crefu am fwyd. Dyma un o gyfnodau peryclaf eu bywydau, wrth gwrs - ac un llewyrchus iawn i gathod dof ! Ac o hyn allan, mae yr Aderyn Du yn un o nifer fechan o adar sydd yn rhannu'r ddysetswydd bwydo rhwng y ceiliog a'r iar - bydd un yn gyfrifol am rai o'r cywion, a'r llall am y lleill.
Fe all Mwyalchod fagu dau, tri, neu hyd yn oed pedwar nythiad mewn tymor.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.