Chwilen olew (Meloe violaceus). 'Oil beetle'
Roedd y creadur hwn yn ymbalfalu a baglu trwy'r glaswellt a'r deiliach ar ymyl y llwybr garw sydd yn arwain i lawr i Borth Ysgaden, ger Tudweiliog, ym Mhen Llyn. Clamp o chwilen yw hon, sy'n gallu bod ryw fodfedd o hyd o'i choryn i'w chynffon. Llysieuwyr yw'r oedolion, sydd yn byw ar weiriach a deiliach blodau gwyllt.
Gelwir y rhain yn 'chwilod olew' oherwydd eu dull o amddiffyn eu hunain. Gan na allent hedfan, na symud yn gyflym iawn, mae ganddynt y gallu i chwistrellu hylif tebyg iawn i olew tuag at eu gelynion.
Tir garw, arfordirol, fel hyn yw cynefin arferol chwilod olew. Fel rheol, fe'u gwelir rhwng misoedd Ebrill ac Awst
Mae cylch bywyd M.violaceus yn rhyfeddol. Bydd y fanw yn dodwy miloedd o wyau bychain mewn tyllau yn y ddaear a'r larfa ('larvae') - neu hynny ohonnyn nhw all oroesi, beth bynnag - yn dringo i bennau blodau i aros nes daw cacynen (cachgi bwn, 'bumble bee') heibio. Yna, bydd y cynrhyonyn bach yn sleifio liffd ar gefn y gacynen i'w nyth. Yn y fan honno, bydd yn bwydo ar larfa'r cacwn cyn trawsnewid, yn ei dro, yn chwilen.
Credir fod y rhywogaeth arbennig hwn, M. violaceus yn dal i fod yn lled gyffredin, ond mae pump o'r naw rhywogaeth o chwilod olew sydd yn gynenid i wledydd Prydain eisoes wedi mynd i ddifancoll. Dyna pam fod yr elusen, Buglife, ar fin lawnsio prosiect newydd i geisio nodi ble mae y chwilod yn dal i fyw. Fe gewch mwy o fanylion am y prosiect ar wefan Buglife
.Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.