91热爆

Llyffant Dafadennog

15 Ebrill 2009

Llyffant Dafadennog / Broga (yn y Gogledd) (Bufo bufo) 'Common Toad'

Amffibiaid

Mae gan y rhain asgwrn cefn a gwaed oer, gyda chroen llaith ond heb dafolau. Mae croen amffibiaid yn feddal a lysnafog, gyda chwarennau gwenwyn.

Mae'r mwyafrif yn byw ar y tir am trwy gydol y flwyddyn, ond yn mynd i'r d诺r i baru a chenhedlu.

Daw'r gair Amphibia o'r 17 ganrif, mae o yn golygu "byw mewn 2 le".

Brogaod, llyffantod, madfallod y d诺r a salamandrau yw'r amffibiaid mwyaf cyfarwydd.

Mae tua 3000 o rywogaethau o amffibiaid yn bodoli heddiw, ac maent i'w cael ar bob cyfandir heblaw Antarctica.

Bydd y rhan fwyaf yn dodwy wyau wedi gorchuddio mewn haen o jeli amddiffynnol. Wedyn, bydd y rhain yn deor yn benbyliaid cyn datblygu iyn oedolion. Mae'r penbyliaid yn anadlu trwy dagellau ac yn datblygu ysgyfaint a choesau wrth dyfu.

Gwaed oer sydd gan amffibiaid. Yn wahanol i'r mamaliaid, maent yn defnyddio'u hamgylchedd i reoli tymheredd eu cyrff.

Amffibiaid cyntefig oedd y creaduriaid cyntaf i adael y m么r a mentro i'r tir.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.