Ar ol treulio'u prae, mae tylluanod, fel pob aderyn ysglyfaethus, yn casglu'r blewiach a'r esgyrn na fedrant mo'u treulio yn beleni a'u poeri allan. Mae adarwyr a naturiaethwyr eraill, wedyn, yn gallu casglu'r pelenni a'u harchwylio nhw i weld a) beth yw bwyd yr aderyn, a b) pa famaliaid neu adar man sydd yn nhiriogaeth yr aderyn.
Pan aeth Sian Jones, un o Swyddogion Addysg Maes y Gymdeithas Gwarchod Adar (RSPB) ati i gasglu pelenni un Tylluan wen, dyma be gafodd hi ynddi - penglog Giach (Snipe) cyfan. Rywsut, roedd y ddylluan wedi llyncu pen yr aderyn, a'i chwydu o allan drachefn - ac, yn ol pob tebyg, roedd hi wedi goroesi'r profiad (yn wahanol iawn i'r Giach druan, wrth gwrs).
Cofiwch anfon unrhyw luniau diddorol i galwadcynnar@bbc.co.uk
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.