91热爆

Usnea florida

01 Ebrill 2009

Yn aml, ar Galwad Cynnar, fe fyddwn ni'n dweud nad oes yna'r fath beth a thymor llwm yn myd natur ac yn eich hannog chi i edrych ddwywaith hyd yn oed ar goed collddail yn y gaeaf. Mae rhisgl y rhan fwyaf ohonynt yn werth edrych arno eilwaith beth bynnag ond, ar ben hynny, mae amryw un yn cynnig llety i nifer o ffurfiau arall ar fywyd. Nid yn unig yr adar a'r mamaliaid bychain a'r pryfetach sydd yn chwilio am fwyd a lloches yn rhychau a chilfachau'r rhisgl neu yn turio a chrafu pren marw; ond y rhedynnau a'r mwsoglau, a'r llysiau'r afu (Liverworts) a'r cen hefyd, sydd yn troi aml i goeden yn ardd fyw.

Cen (Lichen) yw Barfau'r coed (Usnea florida), ac un gweddol gyffredin yng nghoedwigoedd gorllewinol Cymru a De-orllewin Lloegr, ond mae o yn brin yng ngweddill gwledydd Prydain. Mae o yn un hawdd ei anwybyddu hefyd, yn enwedig pan fo'r coed mae o yn tyfu arnynt yn eu dail. Ac, o bell, mae'n edrych fel cwml llwydlas ar y canghennau. Ond, fel gyda'r rhan fwyaf o'r cennoedd, mae'n werth edrych yn fanylach ar hwn, trwy chwydd-wydr os oes modd. Wedyn, fe gewch eich hyn yn edrych ar fyd arall, byd o siapiau rhyfeddol a ffurfiau diethr - bron na allech gredu fod hwn wedi dod o ryw blaned arall

Cyfuniad cyd-weithredol (symbiosis) o ffwng ac algae meicrosgobig yw cen. Mae'r ffwng yn rhoi ffurf a sylwedd, plisgen fel petai, i'r uniad; tra bo'r algae yn cynhyrchu'r siwgr sy'n bwydo'r ddwy elfen.

Ar un adeg, defnyddiwyd Barfau'r coed i drin clwyfau. Ac, fel mae petha'n mynd mewn cylchoedd weithiau, mae ymchwil ar y gweill y dyddiau hyn, i'w nodweddion gwrth-feiotig o. Mae o yn fwytadwy hefyd, ac yn ffynhonnell posib o fitamin 'C'; ond peth digon diflas ydi o, yn ol y son.

Apothecium yw'r term gwyddonol ar y platiau bychain cangheddog sydd yn ymddangos ar Usnea florida; dyma'r pethau tebycaf i ffrwythau gynhyrchir gan y cen. Yn yr rhain mae sporau microsgopic y cen yn datblygu mewn niferoedd mawr

Mae yna amrywiaeth mawr o gen i'w cael yng ngwledydd Prydain -bron i 1800- a llawer o'r rhain yn tyfu yng Nghymru, ac fe'u gwelwch nhw ym mhob math o gynefin o lan y mor i gopaon y mynyddoedd.

Credir ar goel gwlad fod presenoldeb cen o unrhyw fath yn arwydd o gynefin glan neu o lefel isel iawn o lygredd. Ysywaeth, nid yw hyn yn hollol wir, gan fod rhai mathau o gen yn oddefgar o gemegau fel swlffwr deiocsid, ocsid nitraidd, ac yn y blaen (yn wir, mae ambell un yn ffynnu arnynt). Mae yr hely, serch hynny, yn sensitif i lygredd ac fe ellir defnyddio y rhain fel arwyddion o lendid amgylchedd. Mae barfau'r coed, gyda llaw, yn sensitif iawn i swlffwr deiocsid. Os hoffech wybod mwy am gennoedd, yna cliciwch ar y cysylltiad ar y dde

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.