Newydd-ddyfodiad cymharol diweddar i Gymru yw'r Pila gwyrdd (Carduelis spinus) Daeth yma yn sgil y planhigfeydd conwydd blannwyd yn chwedegau y ganrif ddwytha. Fe'i ceir trwy wledydd Ewrop i gyd, ond yng ngwledydd Prydain, mae o ar ei fwyaf niferys yn yr Alban ac yng Nghymru
Aderyn gweddol fychan ydi o. yn mesur ryw 20 cm o hyd, a thua 12 cm o flaen adain i flaen adain. Felly, mae o fymrun llai na'r Nico a thua'r un maint a Thitw glas. Mae o dipyn llai, hefyd, na'r aderyn cyffredin tebycaf iddo, y Llinos werdd
Fel y gwelwch chi gyda llawer o adar eraill, mae y ceiliog dipyn mwy trawiadol ei liwiau na'r iar. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhywogaethau ble bydd y iar yn gwneud y cyfan o'r gwaith gori ar y nyth a lle bydd y gallu i beidio tynnu sylw rheibiwr ati ei hun yn hanfodol iddi. Ceiliog Pila gwyrdd yw hwn yn y lluniau hyn - dynnwyd ddechrau Ebrill, ac yntau yn ei liwiau paru. Yr argraff geir ohonno yw o aderyn bychan melyn, gwyrdd a du, un prysur, sionc ac aflonnydd iawn. Yn y tymor hwn, mae gan y ceiliog 'gap' du trawiadol, sydd ddim i'w weld yn y lluniau hyn ysywaeth. Mae yr iar, sydd a'r un lliwiau yn y bon, tipyn plaenach.
Hadau coed yn enwedig Gwern (Alder), y Fedwen a'r Conwydd yw ei brif fwyd, ond fe all fwyta hadau perlysiau hefyd, a rhai mathau o bryfetach. Yn yr ardd, mae'n bwydo ar gewyll hadau, a hadau niger yn enwedig.. Maent i'w gweld yn ein gerddi ni, fwyaf o ddiwedd Chwefror tan tua chanol Ebrill pan y bydd yna lai o fwyd i'w gael yn y coedwigoedd
Mae tymor magu y Pila gwyrdd yn ymestyn o ganol Ebrill tan tua diwedd mis Awst. Adeiladir y nyth gan yr iar, a hynny yn uchel mewn coed conwydd. Nyth bychan ydi o, a thaclus, wedi ei wneud o frigau a'i orchuddio gyda cen a'i leinio a phlu neu flew anifeiliaid. Dydwir rhwng 2 a 6 wy ac fe fydd y rheinny yn deor rhwng 11 a 14 diwrnod wedyn a'r cywion yn hedfan ymhen pythefnos ar ol hynny. Yr iar sydd yn gori'r wyau, ond bydd y ddau oedolyn yn bwydo'r cywion. Yn aml, fe fydd y Pila gwyrdd yn cynhyrchu dau nythiad mewn tymor.
Bydd yr adar sydd yn magu yng Nghymru yn aros yma drwy'r flwyddyn, mae'n debyg, ond daw heidiau trosodd o'r cyfandir hefyd yn ystod y gaeaf. Amcangyfrir fod yna tua 40,000 par yn magu yng ngwledydd Prydain pob blwyddyn.. Ar hyn o bryd, 'does yna ddim perygl amlwg i boblogaeth Brydeinig y Pila gwyrdd.
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.