Islwyn Ffowc Elis
Bu farw yn 2004, yn 79 oed
Cyfeirir at Islwyn Ffowc Elis聽fel un o awduron Cymraeg mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif.
Cafodd ei eni yn Wrecsam, a鈥檌 fagu ar fferm ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1947, ac yn 1951 enillodd y Fedal Ryddiaith.
Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman, yn 1953 ac mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau i ddewis Hoff Lyfr Cymraeg y Ganrif, y teitl hwn ddaeth i鈥檙 brig.
Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o nofelau eraill, gyda鈥檌 drydedd gyfrol, Yn 脭l i Leifior, a gyhoeddwyd yn 1956, yn ddilyniant i Cysgod y Cryman ac yn dilyn hynt a helynt yr un cymeriadau poblogaidd.
Disgrifiodd y nofelydd John Rowlands arddull Islwyn Ffowc Elis fel un 鈥榗yfareddol鈥 a 'llithrig' wrth siarad o鈥檌 blaid ar raglen Nia.
鈥淔o oedd yr un wnaeth wneud argraff arna i pan oeddwn i鈥檔 ifanc, yn hogyn ysgol ... pan ddaeth Cysgod y Cryman allan, ei nofel gyntaf.
鈥淩oedd hi mor newydd a ffres ar y pryd.
鈥'Doedd 'na ddim gymaint聽芒 hynny o nofelwyr [yn sgrifennu o鈥檌 flaen yn yr 20fed Ganrif] 鈥 Kate Roberts a T Rowland Hughes, dyna鈥檙 awduron, a oedd yn ymdrin a ryw fywyd braidd yn hen ffasiwn.
鈥淢ae wedi cyhoeddi ryw ddwsin o llyfrau. Mae na gymaint o amrywiaeth yn ei waith. Mae o鈥檔 boblogaidd ofnadwy,鈥 ychwanegodd.
Dolenni:
Clips
Hoff Awdur Cymru: Islwyn Ffowc Elis
John Rowlands fu鈥檔 canu clod Islwyn Ffowc Elis ar raglen Nia.