Bethan Gwanas
Awdur hynod gynhyrchiol
Mae Bethan Gwanas听wedi cyhoeddi 17 teitl yn ystod y degawd diwethaf, yn cynnwys ffuglen i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr.
Graddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth, ac yn 1985 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Ar 么l cyfnod yn byw mewn llefydd mor wahanol 芒 Bethesda, Caerdydd, Nigeria a Ffrainc, mae hi bellach wedi dychwelyd i Rydymain, yn ei hardal enedigol.
Enillodd Wobr Tir na n-Og ddwywaith, am Llinyn Tr么ns (2000) a Sg么r (2002).
Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw fy Ffrind (2004) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.
Hunangofiant yw ei chyfrol ddiweddaraf, Hanas Gwanas, a gyhoeddwyd yn 2012.
Y llyfrgellydd a鈥檙 beirniad Bethan Hughes fu鈥檔 canu clodydd Bethan Gwanas ar raglen Nia:
鈥... mae鈥檙 cwbl mewn arddull sydd mor rhwydd i鈥檞 ddarllen. Mae ganddi iaith mor naturiol a chyfethog. Mae鈥檔 gyforiog o eiriau Cymraeg 鈥榞o iawn鈥 - y Gymraeg sy鈥檔 cael ei siarad, yn arbennig yn ei hardal hi yn Sir Feirionnydd.
鈥淥nd nid peth hawdd ydi 'sgwennu rhywbeth sy鈥檔 hawdd i鈥檞 ddarllen 鈥 mae hynny鈥檔 gofyn am dipyn o grefft.
鈥淢ae鈥檔 awdur poblogaidd iawn. Mae hi'n llwyddiannus. Ac eto mi faswn i鈥檔 gofyn a ydy hi wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol am ei chyfraniad?
鈥淢ae tueddiad i ddiystyrru gwaith am nad ydy o鈥檔 ddigon 鈥榣lenyddol鈥 ond be sy' fwya pwysig? Llyfrau sy鈥檔 cael eu darllen gan ddarllenwyr go iawn neu blesio鈥檙 beirniaid a鈥檙 adolygwyr?鈥 gofynnodd.
Dolenni:
- 听
Clips
Hoff Awdur Cymru: Bethan Gwanas
Y llyfrgellydd a鈥檙 beirniad Bethan Hughes fu鈥檔 canu clodydd Bethan Gwanas ar raglen Nia.