William Thomas
Bass from England - 28 years old.
William Thomas from England
Performing O ruddier than the cherry from Acis and Galatea by Handel.
I was born in Hemel Hempstead and studied on the Opera Course at the Guildhall School of Music and Drama. I have received a number of major awards, including the 2018 Kathleen Ferrier award and 2021-22 Critics’ Circle Award for Young Talent (Vocal).
As a Jerwood Young Artist I sang the role of Nicholas in the British premiere of Samuel Barber’s Vanessa at the Glyndebourne Festival. I have sung Shepherd Pelléas et Mélisande for Garsington Opera and made my debut at the Vienna State Opera as Snug A Midsummer Night’s Dream.
In the 2022/23 season, I’ve sung Colline La bohème for Glyndebourne on Tour and the Seiji Ozawa Matsumoto Festival and Snug A Midsummer Night’s Dream in my debut for Opéra de Rouen Normandie.
On the concert platform, I have performed Handel’s Messiah with the Academy of Ancient Music/Laurence Cummings, Mozart’s Requiem with Glyndebourne on Tour, Handel’s St John Passion with the Antwerp Symphony Orchestra/von Steinacker and Narbal Les Troyens with the Monteverdi Orchestra/Sir John Eliot Gardiner.
In the future, I’ll be making debuts at the Royal Opera House, Covent Garden and Teatro alla Scala, Milan, as well as a return to the Opéra national de Paris.
In my spare time, I am a very keen tennis player. I adore skiing, going to the theatre and seeing our family dog, Flossy (Flosshilde in full - I insisted that she had a Wagnerian name). I learned piano from an early age and accompanying myself whilst singing songs brings me great pleasure, along with sight reading through opera and oratorio scores.
William Thomas
Bas, 28 oed, Lloegr
Cefais fy ngeni yn Hemel Hempstead a dilynais Gwrs Opera yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Rwyf wedi ennill nifer o wobrau mawr, gan gynnwys gwobr Kathleen Ferrier yn 2018 a Gwobr Talent Ifanc (Lleisiol) y Critics’ Circle yn 2021-22.
Fel un o Artistiaid Ifanc Jerwood, fe wnes i ganu rôl Nicholas yn y perfformiad cyntaf ym Mhrydain o Vanessa gan Samuel Barber yng Ng诺yl Glyndebourne. Rwyf wedi canu rôl Shepherd yn Pelléas et Mélisande ar gyfer Opera Garsington ac wedi rhoi fy mherfformiad cyntaf yn Opera Talaith Fienna fel Snug yn A Midsummer Night’s Dream.
Yn nhymor 2022/23, rydw i wedi canu Colline yn La bohème ar gyfer Glyndebourne on Tour a G诺yl Seiji Ozawa Matsumoto yn ogystal â Snug yn A Midsummer Night’s Dream yn fy ymddangosiad cyntaf gydag Opéra de Rouen Normandie.
Ar y llwyfan cyngerdd, rydw i wedi perfformio Meseia Handel gyda’r Academy of Ancient Music/Laurence Cummings, Requiem Mozart gyda Glyndebourne on Tour, Dioddefaint Sant Ioan gan Handel gyda Cherddorfa Symffoni Antwerp/von Steinacker a Narbal yn Les Troyens gyda Cherddorfa Monteverdi/Sir John Eliot Gardiner.
Yn y dyfodol, byddaf yn ymddangos am y tro cyntaf yn y T欧 Opera Brenhinol, Covent Garden ac yn Teatro alla Scala, Milan, yn ogystal â dod yn ôl i’r Opéra national de Paris.
Yn fy amser hamdden, rwy’n hoff iawn o chwarae tenis. Rydw i wrth fy modd yn sgïo, mynd i’r theatr a gweld ci’r teulu, Flossy (Flosshilde yn llawn - mi wnes i fynnu ei bod hi’n cael enw Wagneraidd). Dysgais ganu'r piano yn ifanc iawn ac mae cyfeilio i mi fy hun wrth ganu yn rhoi pleser mawr i mi, ynghyd â chwarae sgoriau opera ac oratorio ar yr olwg gyntaf.