Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd: Cywiro Camargraff
Y Tir Mawr
Mae hwn yn gwarfod pwysig,
Rwy’n gwisgo crys a thei
A fflip fflops a throns nofio,
Ond ni ddaw rhain i’r fei
Carys Parry 8.5
Ffostrasol
Mae’n flin gen i beidio cyfrannu
At wâc NHS Captain Tommy,
Mae’n dipyn o foi,
‘Nath e dipyn o sioe,
Ond nad ‘yn ni’n rhoi trwy ein trethi?
Gareth Ioan 8
Cynigion Ychwanegol
Nid oeddwn yn hollol o ddifri
Pan wnes y sylwadau am Jenny,
Rhaid diffodd y sain
cyn rhegi yn fain
Tro nesa bydd rhai yn fy nghorddi.
Na wir, dyw’n hoffer diogelwch
Ddim yn brin, bob un,
Medd dwy awyren ryfel isel
Wrth losgi’r awyr yn Ll欧n.
Mwynhawn “loc in”, roedd hwnw’n iawn,
‘Dwi ddim mor siwr an y “loc down”
Mae’n flin gen i sôn am resistance,
Am amperes a volts ac impedance;
Es ati’n rhy hastus o‘r hanner
Ddoe dd’wetha’ i lunio ‘Trydangerdd’.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘troi’
Y Tir Mawr
Mae haint heddiw’n troi lliw’r lli’n
Lasach mewn rhai camlesi.
Huw Erith 8.5
Ffostrasol
Yn y drin heb Dai Pen-dre,
Tri bardd sy’n troi y byrdde.
Iolo Jones 9
Cynigion Ychwanegol
At ddalen o’n gorffennol
Taerwn ni y trown yn ôl.
Troi o hyd yn gynt y rhod
O erfyn iddi ddarfod
Ar y brig trwy’r oriau braf,
Yr hirnos sy’n troi arnaf
Yn ein sêl i ladd gelyn
Ydyn ni’n troi du yn wyn.
(Wrth alw twmpath).
Troi llaw dde, troelli ddwywaith,
Ara’ deg! Fe awn ar daith*.Promenade
3 Limrig yn cynnwys y llinell “Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni”
Y Tir Mawr
“Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni”
Medd Nel wrth fynd mewn at yr Ieti
R’ôl twtsh o garati
Aeth hwnnw syth ati
I’w gorffen cyn iddi hi oeri
Huw Erith 8.5
Ffostrasol
Mae Boris yn ôl yn y tresi,
A Donald sy’n dal i daranu,
Mae Mark yng Nghaerdydd
Yn cynnal y ffydd;
Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni.
Iolo Jones 8
Cynigion Ychwanegol
Pan aethom â Nain ar sleids Disni
A’i strapio hi’n sownd ar y bynji
A’i gollwng o’r top
Mi waeddom, ‘Un drop –
Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni!’
“Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni”
Medd peilot y jet cyn ymroddi
I ruthro syth heibio
At ddrws cefn y Jymbo
Saliwtio, a neidio ohoni
“Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni
A’i mewn i gael gweld be sy’n drewi”
Ond yna aeth Martha
I’r toiled, a dyna(’r)
Tro d’wethaf y gwelais i Dewi
Cyn disgyn i’r Thing Gwneud Sosbenni
“Bydd popeth yn iawn, paid â phoeni”
Oedd arwyddair y dyn
Sydd i’w weld yn y llun
Y fo ydy’r un heb handlenni
Bydd popeth yn iawn paid a phoeni
Mae’n ddiogel i wneud y naid bynji
Mae’r rhaff ddigon hir
A d’wedyd y gwir
I gyrraedd y llawr yn reit handi.
Bydd popeth yn iawn paid a phoeni
Medd Efa wrth Adda tra’n chwynnu
Ger pâm y letysen
Yng nghanol Gardd Eden
Cei darten o afal ‘rol bennu.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Diwydiant
Y Tir Mawr
Hawdd i mi ddyheu ymhell
am ddaear ddi-jyrm, ddeuwell;
wyf froliwr swyddfa’r aelwyd,
heb faeddu mewn beudy bwyd,
heb fan wen i’r anghenus
nac ofyrôl y dasg frys,
heb gownter groser, neu’r gras
sy’ i swydd nyrs a heddwas,
nac yn weithiwr d诺r, o’i d欧
yn was na all ynysu.
Wyf ryddid lol, freuddwyd lac
yn fa’ma wrth fy iMac.
Myrddin ap Dafydd 10
Ffostrasol
Daeth haint ac er ein breintio
Yn y Glyn ry’m nawr dan glo,
 diwydiant ar antur
I nacáu a lleddfu’n cur:
Aerospace yn creu facemask,
Nid arf ond offer yw’r dasg;
Gynau glân, nid gwn a’i glec,
Yn patsio tyllau’u paycheque.
Ein cyfoeth fu ein covid
Â’i ddawn i’n gwneud ni’n ddi-hid.
Gofal yw’r gwir gyfalaf
Yn y Glyn a ninnau’n glaf.
Gareth Ioan 9
5 Triban beddargraff unrhyw gymeriad cart诺n
Y Tir Mawr
Diflanaist yn ddiweddar
i geg Caioti diolchgar
A’n ara’ deg fe est i lawr
Bib-bibia’n awr ‘ta’r uffar
Gareth Jôs 9
Ffostrasol
Fan hyn heb gath i’w flino
Mae Mickey Mouse yn huno
Heb gaws mewn trap yr ochor draw
Mewn twll na ddaw ohono.
Emyr Davies 8.5
Cynigion Ychwanegol
Daeth diwedd ar y miri
A’r campau gyda Jerry,
Mi est fel cythraul trwy’r cat fflap
I’r trap yn lle gorweddi.
Daeth einion a phiano
o’r awyr ar ei ben o
D’oes ddim dan haul roes iddo boen
S ‘na’m marw yn ei groen o
Ar ganol “Riba Riba”
ce’st hartan yn Sonora
Arafu wnest r’un fath a char
A sdopio’n Arizona
GoroeSaiSt lyncu hetar
a brechdan bom a Sbanar
A hoelion Saith a bonnat car
Ond tagaiSt ar SylfeSdar
Ei elyn, cowboy salw
A’i saethodd yn ei wddw,
Medd Tecsas Pete “The Bear is dead”,
Ma’ Superted di marw.
SGERBWD Dim calon, ond cymalau
Yn goesau ac yn freichiau
Ni fyddi waeth ble bynnag boet
Ond esgyrn oet i ddechrau
WIL CWAC CWAC ‘Rhen Wil sydd wedi’n gadel
Fe aeth i dir yr anwel
Y rheswm yw fod yn y llan
Fe aeth dan lori Mansel.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cadw Draw
Y Tir Mawr
Cân Hir Iawn
Roedd Ffwffw’r Bedwaredd yn cwnna a Maldwyn ‘di’w chloi hi mewn cell
I’w chadw rhag fwngrals y pentra a fyddai’n ei s’nwyro o bell.
Ei hach aethai’n ôl genedlaetha’ un llinell bonheddig a gwâr
Hen nain fu ar lin Cleopatra, ei thaid hi oedd ci rhech y Tsar
Bob blwyddyn ffarweliai a ffortiwn i gadw’i Mawrhydi yn iach
Roedd t欧 Arwel Fet fel pafiliwn, ond dyna fo, bechod, beth fach
Fe dalodd o grogbris amdani i Lordyn i lawr yn Sir Gaint
A’n wir d’oedd o ddim ‘di gwneud hyny i rhyw scragyn dau swllt gael y fraint...
Roedd Maldwyn yn barod ers acha’ i Ffwffw gael awydd am faich
Ac wedi gwneud paratoada i gadw’r holl hwrgwn hyd braich
Fe greuodd o ffosydd a ffensys , fe hongiodd weirs pigog di-ri
Rho’dd ddegau o drapiau maleisus o gwmpas y cwt ble’r oedd Hi
Rhyw ddau dri o ddrysau ddoi wedyn, yn drwm dan seciwriti locs
A reit ym mhen pellaf y dryslwyn gorweddai’r Un Bwysig mewn bocs
Bob dydd troediai Maldwyn yn bwyllog bob nos troediai’n bwyllog iawn iawn
I ddandwn a mwytho’r Fawreddog a morol fod popeth yn iawn
Un bora fe ruthrodd o allan fel tasa’ fo’n geffyl a throl
Y creadur di bron a chael hartan wrth sylwi fod chwydd yn ei bol
Pen dim roedd o’n meddwl am iawndal a Ffwffw’n y stof yn Nhy Coed
Yn bwydo naw rhacsyn o fwngral yr hyllaf a welodd o ‘rioed
Fe geisiodd anadlu’n hamddenol (drwy) wefysau crynedig a cham
Roedd bob un wan jac yn eithriadol a dim un yn debyg i’w fam
Aeth ati i stydio dyddiadau. Bu’n holi trigolion y plwy
A phori dros fân ystadegau i wybod sut ddiawl?, pryd? a phwy ?
Ei holl ymholiada’ fu’n ofer (ond) yr ateb a ddaeth ddêr an’dden
Pan sylwodd ar fymryn o boster yn breuo ar wal wrth ei ben
‘NOS IAU – AM UN NOSON YN UNIG ! O DIROEDD EGSOTIG BELIZE!
LOS PEROS Y CWN ACROBATIG’ a’u llynia nhw i gyd... Ar drapeze !
A’r syrcas ond canllath o’i dyddyn ei methu fu’n siom di bendraw
Ond hei, yn wahanol i Maldwyn, ni gadwodd yr Acrobats draw
Cân Fer Iawn
O’r toiled fe ddaw Guto efo’r ‘Cymro’ yn ei law
Er fy mod i bron a byrstio rydwi’n meddwl gadwa’i draw
Gareth Jôs 9.5
Ffostrasol
Rwy’n cadw draw o bob un sy’n llawn aroglau chwys,
A gwraig drws nesaf hefyd ’rôl iddi gael cawl pys,
A chadw draw wnaf innau wrth lunio perl o gân
Gan mod i’n byw mewn bwthyn a drws y bac tu bla’n.
Rwy’n cloi y drws a phaentiaf bob ffenest â phaent du,
Y rheswm sydd yn eglur, bardd tywyll iawn wyf i.
Yr awen ddaw yn ddryslyd, yn debyg gyda llaw
I’r rhai sy’n sgwaru halen pan fydd hi’n bwrw glaw.
Fe fyddwn ni yn erbyn rhyw Gogs ac enwau od
Ap hyn a rhyw ap arall, a darpar brifardd Pod.
Mae sôn ar draws y gogledd fod beirdd yn bethau prin,
Gan fod y beirdd o safon i’r south o Synod Inn.
Mae’n rhaid i chwi gyfaddef, pe bae ni’n digwydd cwrdd
Ymhlith eich miloedd ddefaid y mae ‘na ambell hwrdd.
‘Na pham rwyf i bob amser yn cadw draw o’r lle
A diolch i’r Creawdwr fy mod i’n byw’n y De.
Ond wedyn ‘rôl ystyried nad ydych heb eich dawn
Er nad yw iaith y gogledd fel ni â Chymraeg iawn
Ac eto o ail-feddwl, nid doeth yw cadw draw,
O gwrdd bydd Gogs a Hwntws yn si诺r o ysgwyd llaw.
Emyr Davies 10
7 Ateb Llinell ar y pryd
Y Tir Mawr
Yn ara’ deg rydw i
heddiw, ond mi ddof drwyddi.
0.5
Ffostrasol
Rydw i yn ara’ deg
Yn chwennych am ychwaneg.
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Neges
Y Tir Mawr
Annisgwyl, ar bnawn mor las
dan y garn ac uwch y d诺r,
oedd darllen ar waelod y garreg hon,
‘Y bedd hwn a wnaed gan ei g诺r’.
Teiliwr Llithfaen oedd hwnnw –
Un Wyth Saith Naw –
adawodd ei frethyn a’i nodwydd ddur
am forthwyl a ch欧n a rhaw.
Un gwanwyn diwedd byd,
am ei wraig a’i chist o goed,
cododd dri chwrs o feini i gynnwys
y bedair ar bymtheg oed.
Briwiodd ei ddwylo gwynion,
unionodd, â chrefft, ei boen,
lle heddiw mae clychau Ebrill,
cân adar a brefu oen.
Myrddin ap Dafydd 9.5
Ffostrasol
Mae’n Basg ac mae’r coed yn deilio,
yn ffrydio’u bod drwy flagur glas.
Mae helyg a chyll a masarn
yn gwisgo eu gogoniant
a’r drain yn goron wen am gae.
Ond drwy’r wig, drwy esgyrn coed
mae pla yn ymledu.
Daw’n ddistaw â chusan heintus
sy’n suro’r rhuddin i’r brig.
Edrychwch! Mor foel yw’r ynn uwch yr eiddew
a’u brigau’n crafangu’r haul.
Ond ar eitha’r onnen rhwng y parc a’r waun,
bob bore gwyn,
mae ceiliog du yn canu.
“Mae’n ddydd, mae’n ddydd”, meddai,
“Dewch i’w hawlio.
Mae’n ddydd i’w greu. Dydd i’w garu”.
Gareth Ioan 9.5
Cynigion Ychwanegol
Y criw ailgylchu –
ein gweithwyr hanfodol
– a’i lluniodd hi.
Ffilm o domen fwyd y sir,
wythnos ar ôl inni wagio’r
holl siopau yn wyllt,
pan gariodd ofn yr holl flawd
a llefrith a siwgr
i gwpwrdd yr hunan
nad oedd ganddo frawd.
Yna, ofn y dyddiad diogel,
a arllwysodd y cyfan
i’n buniau brown.
Ar ôl cwffio rhwng silffoedd
dros helfa’r hanfodion,
medd y criw ailgylchu,
dyma hi.
9 Englyn: Meddyg
Y Tir Mawr
Di-wely, di-gwsg yw’r dwylo – ger ffin,
ger y ffos yn tendio,
mynnu gofalu – a fo
ei hun yn y ffos honno.
Carys Parry 9.5
Ffostrasol
Dr Li Wenliang, Ysbyty Ganolog Wuhan
Ein cyfaill, trech fu covid un-deg-naw
Ond gwae nhw dy erlid;
Erys cof am dy ofid
A’r llais a fu’n herio’u llid.
Gareth Ioan 9
Cynigion ychwanegol
Un a roddodd ei moddion – yn addfwyn
I leddfu peryglon;
Heno’i hun yn glaf mae hon
O ofid am ei chleifion.