Cerddi Y Rownd Gyn-Derfynol
1 Trydargerdd: Neges yn Esbonio Absenoldeb o’r Gwaith
Y C诺ps
Rwy’n teimlo’n od ers codi, - yn welw,
A ngolwg yn blyri;
A nawr, yn fy ffordyn i,
Yr wyf yn hunan-brofi.
Iwan Bryn James 8
Y Glêr
Diolch am eich ebost.
Nid ydwyf wrth fy nesg.
Mi es wrth ateb ebyst
i deimlo’n ddigon llesg,
ac ni chewch ateb buan iawn:
mi es i chwarae am y pnawn.
Hywel Griffiths 8.5
Cynigion ychwanegol
Dwi’n gorwedd ’yn ngwely ben bora
A nesg i ddwy fetr ffordd yna.
Un eiliad a ‘BOOM!’
Sa’n wep i ar Zoom,
A chi lond y room. Well mi fama.
Nid wyf yn swyddfa COBRA :
Rwy’n llithrig, dyna’r drefn.
Ni chewch f’ymateb drannoeth,
Does gen i’m asgwrn cefn.
2 Cwpled caeth ar yr odl ‘awd’
Y C诺ps
Pylu fory’n inc ar fawd
Wna baner pob hen bennawd.
Huw Meirion Edwards 9.5
Y Glêr
Newyddion ffug! Gwerthu gwawd
Un opiniwn wna’r pennawd.
Osian Rhys Jones 9
Cynigion ychwanegol
Melys yw geiriau molawd,
Mwy na’u grym un gair o wawd.
Ystyr y geir divlastawd:
Gwneyd dim byd ar stryd yn Stroud.
Mewn ffydd gwelir mwy na ffawd
Yn asio’r holl fydysawd.
Apelia drwy bob pelawd,
Clyw'r 'how's 'at' rhwng bat a bawd.
Heddiw, mi wn gyfaddawd,
Dyna foi sy dan y fawd.
Nid yw’n bod ddim gormod gwawd
I un hirfaith gyfarfawd.
Rhydd y we ffordd i ddeuawd,
Canu’n well wnawn yn y cnawd.
Un jobyn trech na’r chwechawd,
Ebe rhai, guro’r tri brawd!
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid fi fydd y cyntaf na'r olaf’
Y C诺ps
Nid fi fydd y cyntaf na'r olaf
Wrth chwilio am wraig fu'n rhy araf
Ond rwy'n teimlo'n reit swanc
Er fy mod yn hen lanc
Mae gennyf lond banc o gyfalaf.
Dafydd Morgan Lewis 8.5
Y Glêr
Nid fi fydd y cyntaf na’r olaf
Eleni, yn wir, daroganaf,
Nid am fy rhoi’n ail
Gan feirniaid di-ail,
Ond am na fydd Steddfod – a dathlaf!
Eurig Salisbury 8.5
Cynigion ychwanegol
Nid fi fydd y cyntaf na’r olaf
I arwain llywodraeth, ond mentraf
Am ddanglo wrth fij*
Uwchlaw London Bridge
A chuddio mewn fridge: fe ragoraf.
*Bij. tr. meddal ‘Fij’. Talf. o Biji-bo. GPC: cal, cala, caly: Aelod dirgel gwryw, pidyn, gwialen.
Nid fi fydd y cyntaf na’r olaf
(am farciau) i ganmol i’r eithaf
Fy hoff fardd, Ceri Wyn,
Ond nid crafu mo hyn,
Cans feuryn, ti wyddost, fe’th garaf.
Nid fi fydd y cyntaf na'r olaf
i fynd â Thalyrna i'r eithaf,
ond wnaeth Ceri Wyn,
yn ei anterth, mo hyn:
Sdim cerpyn o ddillad amdanaf.
‘Nid fi fydd y cyntaf na’r olaf
I fynd,’ ebe Johnson yr hynaf,
‘Ymhell bell, yn wir,
I weld pa mor hir
Y ’stynnir fy stôr o gyfalaf.’
4 Cywydd Gofyn (rhwng 12 a 18 llinell)
Y C诺ps
Cywydd i ofyn barbwr
Mae’r drych yn fy mwrdro i
Dan watwar: ‘Ai dyn wyt ti?’
Mae yno gorun mynach
(Foel-llwyd fardd) fel lleuad fach.
Daeth, bob ochor i ’nghorun
(Ai hwn yw fy ngwallt fy hun?),
Fwng sy’n fwy a mwy bob mis,
Un nas trimiwyd ers trimis.
Anodd hercio’n ddi-hercan
Fel ellyll hyll hyd y llan.
Myn fy mhen er mwyn fy mhwyll
Farbwr, waeth pa mor fyrbwyll.
Rhoed i mi ei siarad mân
Lloerig, a’i wellau arian.
Goroeswn og ei rasal,
Ei BO a chwys dwy bâl
Ei gledrau i gael edrych
Ar ddyn di-fraw draw’n y drych.
Huw Meirion Edwards 9.5
Y Glêr
ar ran Mark Drakeford
Nid wy’n gofyn ar f’union
O grwc am y ddaear gron,
Na chreu ap i’w churo hi
Nac am aur neu gamwri,
Gofyn wyf a gaf, yn wir,
Ronyn o’r budd y breinir
Ein gwlad ag e: aelodaeth
O dîm yr UK, nad aeth
Heibio’i hen gydweithio, dwed,
Yn hirben a diarbed?
Bron na ddwedwn na wn-i
Ydyn nhw’n ein hidio ni.
Eurig Salisbury 9
5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Tri pheth sy’n peri chwerthin’
Y C诺ps
Tri pheth sy'n peri chwerthin,
Cael tapad yn Llanwrin,
Ynysmeudwy i gyd dan glo
A neb â cho' o'r Login.
Huw Meirion Edwards 8.5
Y Glêr
A’r haf yn nannedd drycin
O Ebrill i Fehefin,
O! rhowch imi at y dreth
Dri pheth sy’n peri chwerthin.
Eurig Salisbury 8.5
Cynigion ychwanegol
I Johnson, Trump, Farage a'u tebyg ...
Tri pheth sy’n peri chwerthin
Hyd ddagrau'n mis Mehefin,
Yw'r tri sy’n peri gyda'r tro
I’m wylo'n anghyffredin.
Tri pheth sy'n peri chwerthin,
Gweld UKIP fach fel hasbin,
Pob Tori mawr yn traethu’i rwtsh
A Glêr yn slwtsh ar winsgin!
Tri pheth sy'n peri chwerthin
yw Boris, Trump a Putin,
a... daliwch mlaen... tu fas y drws
mae bws a'i lond o blismyn..
Tri pheth sy’n peri chwerthin,
Cael hergwd ar benelin,
Gweld fod pawb a’u gwalltiau’n flêr,
A’r Glêr yn dawnsio gwerin.
Tri pheth sy'n peri chwerthin
Yn nhafarn Bancyfelin,
Sef faint yn fwy na’r Alban sy
O Lewod cry’n y gegin.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Problemau’r Ffodus
Y C诺ps
Rwy’n Gymro! Wrth gwrs fod gen i broblemau
Ar ôl saith can mlynedd o fyw mewn cadwynau,
Welsh Not am fy ngwddf, a boed haf neu boed aeaf,
Mae cymhleth y taeog yn fantell amdanaf.
Bob bore am ddeg, wrth yfed fy nghoffi,
Bydd fy meddwl yn troi at drychineb Cilmeri.
A gwelaf drwy’r ffenest fy Sais o gymydog,
Efo Brecsit ei gath, a Boris ei fwldog.
Trwy’r ‘lockdown’ fe fu yn ei ardd yn torheulo
Mewn trons Iwnion Jac, a hwnnw yn breuo.
Mae o yno’n breuddwydio’n orgasmig a helaeth
Am waedlyd orchestion yr hen Ymerodraeth.
Bu ei daid yn Dunkirk yng nghanol y brwydro,
Ac yn ei ddychymyg mae’r 诺yr yn dal yno.
Cas ganddo estroniaid, “Hen foreigners uffern”,
A fydd dim lle i’r ‘blacs’ yn ei Iwtopia fodern.
Mae’r Cymry’n ei olwg yn ddiddim a thila,
Sy’n codi y cwestiwn, ‘Be ddiawl mae’n ‘wneud yma? …
Fel Cymro fe wn am fy hang-yps trallodus.
Ond o ‘styried rhai’r mwlsyn drws nesa dwi’n ffodus.
Dafydd Morgan Lewis 9
Y Glêr
Dechreuodd y diwrnod yn ddiflas tu hwnt –
gwaharddiad ar deithio i’r t欧 haf ym Mwnt.
Mae ’nghartre mor fawr, ma’ fe’n anodd ei dwymo,
mae’r tamprwydd yn cyrraedd y llyfrau ’di’u rhwymo
â lledr, argraffiadau Gwasg Gregynog i gyd,
’sdim lle i allu parcio tri char ar y stryd.
Aeth dyddie heibio heb dâl gan y 91热爆,
ac mae steilydd y sbaniel yn codi ei ffi.
Doedd dim skinny flat white blas fanila organig
i’w gael yn y caffi, es i rywfaint o banig.
Gwrandewais dros ginio ar newyddion un,
dim byd ond galanas i ddiflasu dyn:
newid hinsawdd a newyn, sychder a hiliaeth,
ac yn waeth na hyn oll, dim Steddfod, ysywaeth!
Dim Platiad, dim adlen, dim Cyfansoddiade,
aiff y garafan druan ddim pellach na Llandre.
A nawr mae angen cân ddoniol a da,
O! ma’ bywyd yn anodd y dyddie ’ma.
Hywel Griffiths 9
7 Llinell ar y Pryd
Y C诺ps
Yn hunllefau ein llwyfan
O gôr i gôr, mud yw’r gân
0.5
Y Glêr
O gôr i gôr, mud yw’r gân
a baich yw llais un bychan.
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Maddau
Y C诺ps
Bu’n rhai wythnosau, erbyn hyn,
ers iddi giwio’n ôl y drefn
ar bob un bore Sadwrn blin
er mwyn cael arllwys pwys ei beichiau
trwy rhyw ridyll bach o sgrîn.
Yno, ar ei phen ei hun yng ng诺ydd ei Duw,
o olwg byd diddeall, y rhestrai’r
pethau bach i gyd: y geiriau croes,
y diffyg cydymdeimlad, dal dig, methu
canolbwyntio ar yr homili
a bwyta cig ddydd Gwener.
Wrth ymadael, mae’r wên o dan ei sgarff
sy’n gorchuddio’r pen yn awgrym, falla,
iddi hefyd faddau’n sagrafennol
iddi hi ei hun.
Yna, mae hi’n camu’n ôl i ganol torf y stryd
a’i sgarff i’w gwarchod, hefyd, rhag y glaw
sy’n crynhoi yn byllau budron.
Dafydd John Pritchard 9.5
Y Glêr
Rwyt ti’n llefain y glaw
a’th lygaid wedi chwyddo
â chefnforoedd dy ddadrith.
Nid fy mod yn dy weld.
Tybiaf nad ydw i ond weithiau’n synhwyro
dy sgrech ar y gwynt, dy siom mor drwchus â’r niwl.
Ac mae’n rhyfedd, tydi, Mam,
mai ti yw ein cyfrifoldeb ni –
y fi, a’m holl frodyr a’m chwiorydd – nid fel arall rownd?
Felly, y tro nesaf y bydd dy feddyliau’n gorwynt,
neu dy dymer yn derfysglyd wyllt,
tafla belydryn o faddeuant i’th blant.
Mi ddweda’ i wrth y lleill,
a dyrchafwn ein golygon, o’th ddaear faeth,
i weld dy gleisiau’n glir a minlliw hen gusan ar enfys newydd.
Osian Rhys Jones 10
9 Englyn: Arwr neu Arwres
Y C诺ps
(George Floyd)
Ni naddwyd cerflun iddo, – ni waeddodd
Ei haeddiant, ond eto,
Am i’w ble ddiddiwedd o
Droi’n gryndod, ry’n ni’n gwrando.
Huw Meirion Edwards 10
Y Glêr
Arwres
Enw? Oed? Ni chofnodwyd dim o hyn.
Does dim maen lle naddwyd
‘er cof’, oherwydd cofiwyd
yn ei lle’r holl ddynion llwyd.
Hywel Griffiths 10
Cynigion ychwanegol
(I ni, blant Nant Peris, Gerallt oedd dyn
clên Gwasg Gwynedd a fyddai'n chwarae
pêl-droed hefo ni ar iard yr hen ysgol
o dro i dro.)
Clywais sôn am ryw ddoniau neu'i gilydd,
a G诺yl yn llawn geiriau;
i ni, doedd ond awen iau
ddigywilydd y goliau