G诺yl Art That Made Us: Sut i gymryd rhan
7 Hydref 2021
Croeso i 糯yl Art That Made Us, partneriaeth gyffrous rhwng amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau ac orielau ynghyd â’r 91热爆 i gyd-fynd â darlledu cyfres fawr newydd sy’n archwilio ein hanes creadigol. Mae’r 糯yl – rhwng dydd Gwener 1-30 mis Ebrill 2022 – yn gyfle i gynulleidfaoedd archwilio’r creadigrwydd syfrdanol sy’n cael ei gynnal mewn casgliadau ledled y DU. Yma, cewch wybod sut y gall eich mudiad neu sefydliad gymryd rhan.
![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/256xn/p09yjxnh.jpg)
Cymryd Rhan
Mae G诺yl Art That Made Us yn hanes diwylliannol newydd mawr yn Ynysoedd Prydain, gan archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth o bwys wedi helpu i siapio ein stori greadigol. Mae’n olrhain naratif cyffrous a dadleuol, sy’n canolbwyntio ar waith celf a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnodau cythryblus: mudo cyson a’r goncwest yn ein hanes cynnar; trawma’r Pla Du yn yr Oesoedd Canol; cynnwrf crefyddol y Diwygiad; y Rhyfel Cartref; y Chwyldro Diwydiannol; twf syfrdanol y ddinas yn ystod y 19eg Ganrif a rhaniadau rhwng gwlad a thref; ac effeithiau rhyfel byd yn yr 20fed ganrif ar y cenedlaethau; diwylliant ieuenctid yn herio'r hen sefydliad a thwf cymdeithas amlddiwylliannol.
Bydd G诺yl Art That Made Us yn rhedeg ochr yn ochr â’r gyfres o ddydd Gwener 1-30 mis Ebrill 2022. Mae’r 91热爆 yn gweithio gyda detholiad eang o randdeiliaid o bob rhan o’r DU gan gynnwys Art Fund, Art UK, Cymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol, Libraries Connected, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cyngor Cyfarwyddwyr Amgueddfeydd Cenedlaethol a Chyngor Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yr Alban.
Rydym yn gwahodd amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau i drefnu digwyddiadau i archwilio hud creadigrwydd gan ddefnyddio eitemau yng nghasgliadau’r DU. Gall digwyddiadau gael eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallant gael eu trefnu o’r newydd neu gall sefydliadau diwylliannol roi lle i rai sy’n bodoli eisoes. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Culture24 a fydd yn rhestru holl ddigwyddiadau Art That Made Us ar Museum Crush. a fydd yn rhestru holl ddigwyddiadau Art That Made Us a
Eich sefydliad sy’n gyfrifol am gynnwys y digwyddiadau. Gallai fod yn ddadl neu’n brif araith, yn berfformiad neu’n weithdy ymarferol gan ddefnyddio eitem o’ch casgliad fel man cychwyn.
Rydym yn gobeithio cynnwys amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau o bob cwr o’r DU, ac rydym wrth ein bodd bod cynifer o sefydliadau eisoes wedi cytuno i gymryd rhan. Mae’r rhain yn cynnwys y Llyfrgell Brydeinig, Centre for Contemporary Art in Derry/Londonderry, Oriel a Stiwdio FE McWilliam, Amgueddfa a Gerddi Horniman, MOMA Machynlleth, Llyfrgell ac Archif Orkney, Amgueddfa ac Oriel The Potteries, Amgueddfa Forwrol yr Alban, Amgueddfa Fitzwilliam, Amgueddfeydd Derby a’r VacA a VacA Dundee. Gobeithio y gallwch ymuno â nhw.
I gymryd rhan, cofrestrwch fel Partner G诺yl Art That Made Us i gael mynediad at frandio a derbyn cylchlythyrau rheolaidd am yr 诺yl.
Mae’r gyfres yn llawn o straeon am arloeswyr, tarfwyr ar y drefn a gweledigaethwyr, a oedd yn ymateb i ddigwyddiadau mawr ac yn ailddiffinio ein celfyddyd a’i phosibiliadau. Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau diwylliannol o radd flaenaf y DU yn helpu i adrodd mwy fyth o straeon sy’n seiliedig ar eitemau yn eu casgliadau eu hunain.
Beth allwch chi ei wneud?
Mae G诺yl Art That Made Us yn gyfle i dynnu sylw at rai o’r trysorau yn eich casgliadau i atgyfnerthu bod celf a chreadigrwydd wrth galon ein bywydau i gyd.
Rydym yn gwahodd sefydliadau diwylliannol i drefnu digwyddiadau gan ddefnyddio eitem o’u casgliadau fel man cychwyn. Gall fod yn ddigwyddiadau newydd neu’n rhai sydd eisoes yn bodoli, a gallant ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Er enghraifft, gallech gynnig:
- Sgwrs ar wrthrych yn eich casgliad gan guradur, ceidwad, artist lleol neu wirfoddolwr
- Teithiau o amgylch eich casgliad
- Gweithdai neu ddosbarthiadau gydag artistiaid lleol neu grefftwyr sy’n gysylltiedig â gwrthrych penodol
- Arddangosfeydd o gynnwys wedi’i adeiladu o amgylch gwrthrych
- Perfformiadau mewn oriel
- Arddangosiadau o wrthrych, llyfr, artist neu awdur
Art That Made Us
Mae Art That Made Us yn gyfres ddogfen newydd o bwys sy’n archwilio ein hanes creadigol a gallwch ei gwylio ar 91热爆 Two yn Gwanwyn 2022.
![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/320xn/p09yk3y6.jpg)
Mae’r gyfres yn archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth o bwys wedi helpu i siapio ein stori greadigol. Gan ganolbwyntio ar waith celf a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnodau cythryblus, mae pob rhaglen yn edrych ar yr hyn maen nhw’n ei ddatgelu am drobwynt yn ein hanes.
Rhanddeiliaid yr 诺yl
Yn ogystal â , mae’r 91热爆 yn cysylltu â gr诺p allweddol o randdeiliaid i weithio gyda’r sector celfyddydau ar y lefel ehangaf ac i sicrhau bod yr 诺yl yn adlewyrchu amrywiaeth ein gwledydd.
Cofrestrwch i gymryd rhan yng Ng诺yl Art That Made Us
-
Cofrestrwch yma
Bydd angen i chi roi manylion eich sefydliad.
![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/256xn/p09yk79k.jpg)
Defnyddio archif y 91热爆
Bydd y 91热爆 yn anelu at ddarparu mynediad at ddetholiad o asedau archif i’w defnyddio gan Bartneriaid yr 糯yl ar thema eang ‘creadigrwydd’. Bydd y rhain ar gael i ychwanegu at eich digwyddiadau neu’ch cynnig digidol, drwy ddefnyddio cynnwys ar wefannau’r 91热爆 neu, mewn rhai achosion, ddeunydd penodol y gallwch ofyn amdano gan Archif y 91热爆. Bydd y cynnwys ar gael i’w ddefnyddio yn ystod cyfnod yr 糯yl.
Os oes darn penodol o gynnwys (radio, teledu, dogfennau neu ddelweddau) yr hoffech ei ddefnyddio o archif y 91热爆, byddwn yn ymchwilio i weld a oes modd sicrhau ei fod ar gael i chi ar gyfer eich digwyddiad G诺yl Art That Made Us. Ar ôl i sefydliadau gofrestru fel Partner, byddwn yn esbonio sut mae mynd ati i ofyn am y deunydd.
Bydd y 91热爆 hefyd yn anelu at weithio gyda phartneriaid dethol yr 糯yl i gynhyrchu straeon ac erthyglau penodol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan ddefnyddio cynnwys dethol o archif ac offer y 91热爆 yn MakerBox Ymchwil a Datblygu’r 91热爆 (/makerbox). Bydd syniadau ar gyfer straeon addas yn cael eu cyflwyno gan Bartneriaid yr 糯yl i’r 91热爆 a bydd y rhai a ddewisir yn gweithio gyda thîm Cynnwys a Phartneriaethau Archif y 91热爆 i greu erthyglau a phrofiadau ar-lein i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn defnyddio archif y 91热爆, cofrestrwch fel Partner yr 糯yl.
Dod yn Bartner yr 糯yl
- Cofrestrwch fel partner yma - bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd drwy ein Cylchlythyr, yn cael gwybodaeth am sut i ddefnyddio archif y 91热爆, ac yn cael mynediad at frand yr 糯yl
- Cytuno i’r Telerau ac Amodau
- Rhowch eich digwyddiad ar gronfa ddata fel y gellir ei restru ar Museum Crush, y llwyfan adrodd straeon cydweithredol
Offer MakerBox
Dewch â’ch straeon yn fyw gan ddefnyddio:
- Canvas (offeryn i greu amserlenni sgrolio, sy’n lliwgar a deniadol, yn gallu cynnwys amrywiaeth eang o asedau, gan gynnwys fideos, sain, gifs, delweddau a dogfennau)
- Storyformer (offeryn adrodd straeon hyblyg Ymchwil a Datblygu’r 91热爆 ar gyfer profiadau gweledol personol)
- Audio Orchestrator (offeryn sain gofodol Ymchwil a Datblygu’r 91热爆 sy’n trawsnewid mannau gwrando yn seinweddau tri dimensiwn drwy ddyfeisiau symudol)
Enghreifftiau o gynnwys archif wedi鈥檌 greu gan bartneriaid
-
Stori wedi鈥檌 chreu gan Wasanaeth Llyfrgell Gorllewin Sussex gan ddefnyddio 91热爆 Canvas.
-
Stori wedi鈥檌 chreu gan Amgueddfa Henffordd gan ddefnyddio 91热爆 Canvas.
-
Stori wedi鈥檌 chreu gan Live Life Aberdeenshire gan ddefnyddio 91热爆 Canvas.
More from 91热爆 Arts
-
Picasso鈥檚 ex-factor
Who are the six women who shaped his life and work?
-
Quiz: Picasso or pixel?
Can you separate the AI fakes from genuine paintings by Pablo Picasso?
-
Frida: Fiery, fierce and passionate
The extraordinary life of Mexican artist Frida Kahlo, in her own words
-
Proms 2023: The best bits
From Yuja Wang to Northern Soul, handpicked stand-out moments from this year's Proms