91热爆

Sioe Dic Penderyn i gynnig gobaith am swyddi newydd

Murlun Dic Penderyn a therfysg Merthyr1831 ar wal ger y fynwent lle mae corff Richard Lewis wedi ei gladdu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Murlun Dic Penderyn a therfysg Merthyr1831 ar wal ger y fynwent lle mae corff Richard Lewis wedi ei gladdu

  • Cyhoeddwyd

Gallai'r diwydiant ffilm fod yn opsiwn i weithwyr dur ym Mhort Talbot sy'n wynebu colli eu swyddi eleni.

Mae cwmni cynhyrchu newydd yn bwriadu creu ffilm am hanes merthyr y dosbarth gweithiol, Dic Penderyn, sydd wedi ei gladdu yn y dref.

Gobaith Calon Films yw creu swyddi lleol newydd mewn cyfnod o ansicrwydd sylweddol i'r rhai hynny sy'n cael eu cyflogi yn y gweithfeydd dur.

Fel rhan o'r cynllun, fe fydd Coleg Pen-y-bont yn cynnig hyfforddiant ar gyfer swyddi yn y diwydiant - fel adeiladwyr setiau ffilm, seiri a thrydanwyr.

Bydd cais yn cael ei wneud am gyllid ychwanegol gan fwrdd trawsnewid Tata Steel hefyd.

Dywedodd y cyfarwyddwr, Chris Crow mai'r nod yw creu "t卯m creadigol o'r safon uchaf" er mwyn adrodd stori "hynod bwysig".

Bydd y ffilm, Iniquity (Camwedd), yn adrodd hanes Richard Lewis, neu Dic Penderyn, a gafodd ei grogi ar gam, yn 么l yr hanes, am ei ran yng Ngwrthryfel Merthyr ym 1831.

Dechreuodd terfysgoedd yn y dre yn sgil heriau economaidd, a'r ffaith fod gweithwyr haearn yn teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn wael gan eu meistri.

Cafodd milwr ei drywanu yn ei goes ac er iddo fethu ag adnabod ei ymosodwr, cafodd Richard Lewis ei arestio a'i ddedfrydu i farwolaeth trwy grogi.

Cafodd ei ddienyddio tu fas i garchar Caerdydd.

Y gred yw mai ei eiriau olaf oedd, "o arglwydd, dyma gamwedd".

Bydd y ffilm yn rhan o ymgyrch ehangach i geisio sicrhau pardwn ar 么l marwolaeth i Richard Lewis.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y ddrama Iniquity (Camwedd) ei pherfformio ym Mhort Talbot ac ar lwyfan yng Ng诺yl Fringe Caeredin yn 2022

Yn ol cyd-sylfaenydd Calon Flims, Stuart Broad, yr uchelgais yw denu rhai o actorion mwyaf adnabyddus y wlad i fod yn y ffilm.

"Os ydyn ni'n llwyddo i gynhyrchu'r ffilm ac adrodd y rhan bwysig yma o'n hanes, rydw i wir yn credu y gallai gael effaith enfawr ar sinema Gymraeg," meddai.

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar bartneriaeth i ddarparu hyfforddiant ar gyfer swyddi lle mae modd trosglwyddo sgiliau o'r diwydiant dur i'r sector ffilm.

Dywedodd Aelod Seneddol Aberafan a Maesteg, Stephen Kinnock, ei bod hi'n bwysig bod amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i weithwyr a fydd yn cael eu heffeithio gan doriadau yn y gwaith dur dros y misoedd nesaf.

"Does dim amheuaeth gen i fod yna ddynion a merched yn y gwaith dur a fyddai'n gallu symud i weithio mewn maes fel y diwydiant ffilm," meddai Mr Kinnock.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd corff Richard Lewis ei gario o Gaerdydd i fynwent Eglwys y Santes Fair yn Aberafan

Mae Paul Wagstaffe yn un o filoedd o weithwyr a chontractwyr sydd eisoes yn gwybod y bydd yn colli ei swydd gyda Tata eleni.

"Mae gen i ddiddordeb mewn swyddi o fewn y diwydiant ffilm a theledu, naill ai fel adeiladwr setiau neu hyd yn oed yn y cefndir fel actor neu rywbeth debyg.

鈥淒ydyn ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd faint o waith fydd yna i ni dros y misoedd nesaf, felly mae'n rhaid i ni fod yn barod i droi ein sylw a'n dwylo at rywbeth arall ac edrych ar wahanol lwybrau," meddai Mr Wagstaffe.

Dywedodd gweithiwr dur arall, Aled Humphries, sydd hefyd yn rhan o fyd drama amatur Port Talbot: "Os mai dyfodol y diwydiannau trwm yw bod angen gwell technoleg a llai o bobl i gynhyrchu rhywbeth o鈥檙 un ansawdd a maint, yna mae hynny yn ffaith 'da ni'n gorfod delio ag ef.

"O ganlyniad, mae angen i ni ddod o hyd i gyfleoedd eraill i bobl a dwi'n credu bod edrych tuag at y diwydiant creadigol yn syniad arbennig."

Dywedodd yr actores, Karen Paullada, y byddai hi wrth ei bodd yn chwarae rhan mewn ffilm yn seiliedig ar stori dyn o dref enedigol ei theulu.

"Dydw i ddim yn meddwl bod llawer o bobl, fel fi, yn gyfarwydd 芒 hanes Dic Penderyn a beth ddigwyddodd iddo.

"Mae'n stori wir ac mae pobl yn caru straeon gwir oherwydd maen nhw'n gallu bod yn gyffrous a diddorol.

"Byddai鈥檔 wych bod yn rhan o rywbeth hefyd a allai, gobeithio, helpu鈥檙 gymuned hon, yn enwedig gan fod fy nhaid yn arfer bod yn weithiwr dur," meddai Ms Paullada.