91热爆

2,000 o weithwyr Tata am adael y cwmni yn wirfoddol

Banner undeb Unite yn cefnogi'r diwydiant dur, gyda ffwrneisi gweithfeydd dur Port Talbot yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd undebau yn cynnal pleidlais ar gefnogaeth y gweithwyr i'r amodau diswyddo gwirfoddol

  • Cyhoeddwyd

Mae dros 2,000 o weithwyr Tata Steel yn ne Cymru wedi gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.

Mae'r mwyafrif wedi'u lleoli ym Mhort Talbot, lle mae'r cwmni'n bwriadu cau ail ffwrnais chwyth ddiwedd mis Medi.

Dywedodd Tata Steel eu bod wedi dechrau asesu a oedd modd cau swyddi鈥檙 gweithwyr oedd wedi mynegi diddordeb mewn gadael y cwmni.

Mae disgwyl i'r cyntaf o鈥檙 2,800 o weithwyr i golli eu swyddi adael y busnes o fewn wythnosau.

Bydd aelodau鈥檙 undebau yn cael pleidleisio o blaid neu yn erbyn amodau diswyddo Tata Steel.

Yn 么l y cwmni, maent yn cynnig y telerau diswyddo gorau yn hanes y busnes.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gweithwyr yn derbyn isafswm o 拢15,000 dan yr amodau diswyddo

Bydd Tata Steel yn rhoi gwerth 2.8 wythnos o gyflog i weithwyr am bob blwyddyn o鈥檜 gwasanaeth, hyd at uchafswm o 25 mlynedd.

Yr isafswm y bydd unrhyw un yn ei dderbyn ydy 拢15,000, a bydd taliad ychwanegol - yn seiliedig ar bresenoldeb - o 拢5,000 i weithwyr sy鈥檔 gymwys.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel UK fod y cwmni yn asesu sut y gall dyheadau pobl gyd-fynd 芒 gofynion y dyfodol.

鈥淓r ein bod wedi gwneud ymdrech fawr i lunio pecyn cymorth i weithwyr a fydd yn helpu llawer o鈥檙 bobl hynny i bontio allan o鈥檙 busnes, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cadw ein gwybodaeth, ein sylfaen sgiliau a鈥檔 profiad craidd yn ystod y cyfnod heriol hwn,鈥 meddai鈥檙 llefarydd.

Mae鈥檙 tri undeb sy鈥檔 cynrychioli gweithwyr Tata Steel 鈥 Community, Unite a鈥檙 GMB 鈥 eisoes wedi cytuno i roi pleidlais i鈥檞 haelodau dros y cytundeb diswyddo.

Dywedodd y cwmni eu bod yn disgwyl i鈥檙 bleidlais ddigwydd 鈥測n fuan鈥.

Mae ffynonellau o fewn yr undebau yn disgwyl y byddai鈥檙 cytundeb yn cael ei gefnogi gan y gweithlu, wedi misoedd o drafod gyda鈥檙 cwmni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr ail o'r ffwrneisi chwith ym Mhort Talbot yn cau ym mis Medi

Bydd ailstrwythuro Tata Steel UK yn golygu bod 2,800 o swyddi鈥檔 cael eu colli ledled y DU.

Bydd tua 300 o鈥檙 rheini鈥檔 diflannu o weithfeydd Llanwern ger Casnewydd ymhen tair blynedd, a dydy鈥檙 garfan honno o weithwyr ddim yn rhan o鈥檙 broses diswyddo bresennol.

O'r 2,500 o swyddi sydd dan fygythiad eleni, mae鈥檙 91热爆 ar ddeall bod tua 300 i 400 mewn perygl o gael eu diswyddo'n orfodol.

Mae鈥檙 niferoedd yn debygol o amrywio wrth i鈥檙 cwmni a鈥檙 undebau ystyried y diddordeb mewn diswyddo gwirfoddol, ac yn ceisio symud rhai i rannau eraill o鈥檙 busnes.

Mae gweithwyr yn disgwyl i'r ail o鈥檙 ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot gael ei diffodd ar 28 Medi, fydd yn rhoi diwedd ar gynhyrchu dur o fwyn haearn yn ne Cymru.

Mae cwmni Tata Steel yn bwriadu adeiladu ffwrnais arch drydan gwerth 拢1.25bn, sy'n cynhyrchu dur drwy doddi metel sgrap.

Mae disgwyl i lywodraeth y DU ddod i gytundeb gyda Tata Steel ar ddechrau mis Medi i roi 拢500m tuag at y gost o adeiladu鈥檙 ffwrnais drydan.

Mae Llafur hefyd wedi ymrwymo 拢2.5bn yn ychwanegol tuag at ddyfodol gwneud dur yn y DU, ac mae undebau wedi galw ar y llywodraeth i ymrwymo rhywfaint o鈥檙 cyllid hwnnw i fuddsoddiadau eraill yn ne Cymru.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢500m tuag at gost ffwrnais drydan ar y safle

Mae adeiladu melin blatiau, neu dechnoleg debyg, i鈥檙 gweithfeydd ym Mhort Talbot yn rhan o鈥檙 trafodaethau hefyd.

Fe fydd hynny yn galluogi鈥檙 gweithfeydd i gynhyrchu pl芒t dur ar gyfer tyrbinau gwynt.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel fod y cwmni鈥檔 parhau i 鈥渨eithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth y DU i gwblhau trafodaethau鈥.

Dywedon nhw y byddai鈥檙 ymrwymiad i ddymchwel y ffwrneisi chwyth a buddsoddi mewn technoleg wyrddach 鈥測n lleihau ein hallyriadau carbon o leiaf bum miliwn tunnell y flwyddyn ac yn cefnogi sofraniaeth dur y DU.鈥

Ychwanegodd y llefarydd: 鈥淩ydym hefyd yn gweithio鈥檔 galed gyda鈥檔 cydweithwyr yn yr undebau llafur i gwblhau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ystod o faterion yn ymwneud ag ailstrwythuro busnes y DU a鈥檔 trawsnewidiad i ddur gwyrdd. Gobeithiwn y bydd ein partneriaid Undebau Llafur yn rhoi hyn i鈥檞 haelodau yn fuan.鈥

Pynciau cysylltiedig