91热爆

Bachgen 8 oed yn rhedeg 26 milltir er mwyn cefnogi'r digartref

Lewys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lewys eisoes wedi llwyddo i godi dros 拢2,000 i gefnogi elusennau digartrefedd

  • Cyhoeddwyd

Nid pob plentyn yng Nghymru fu鈥檔 treulio hanner tymor yn rhedeg bob diwrnod er mwyn codi arian ar gyfer y digartref.

Fe gafodd Lewys, wyth oed o dref Glyn-nedd, ei drist谩u cymaint o weld dyn digartref yn Abertawe nes iddo deithio siwrne o hanner awr yn 么l adref yn ei ddagrau.

Gyda chefnogaeth ei deulu, aeth ati i drefnu her o redeg milltir bob dydd, am 26 diwrnod, gan ddod 芒 chymuned Cwm Nedd at ei gilydd i鈥檞 gefnogi ar y ffordd.

鈥淥鈥檔 i wedi mynd i Abertawe i siopa' a nes i weld聽homeless guy, o鈥檔 i wedi rhoi聽meal deal iddo fe,鈥 meddai Lewys.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 drist, ac wedi teimlo fel o鈥檇d e鈥檔聽invisible.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Max Boyce ymhlith y rhai sydd wedi dod i gefnogi Lewys a'i ffrindiau

Ers dechrau ar 21 Hydref, mae plant yr ardal, ynghyd 芒 chwaraewyr timau chwaraeon lleol, wedi ymuno yn yr her o gwmpas strydoedd y dref.

Doedd brawd Lewys, Gethin, sy鈥檔 12 oed, methu credu鈥檙 gefnogaeth.

鈥淵 timau rygbi, y timau p锚l-droed, ma' nhw 'di bod yn dod hefyd,鈥 eglurodd.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 meddwl bod e鈥檔聽crazy a bydde鈥 fe ddim yn 'neud lot o arian, ond ma鈥 fe 'di 鈥榥eud聽loads a bod yn deg.鈥

Cefnogaeth yn ystod y gaeaf yn 'allweddol'

Bydd dwy elusen leol sy鈥檔 helpu鈥檙 digartref 鈥 un yn Abertawe a鈥檙 llall ym Merthyr Tudful 鈥 yn elwa.

Dywedodd Thom Lynch o elusen Matthew鈥檚 House yn Abertawe y bydd y cyfraniad yn amhrisiadwy yn ystod misoedd y gaeaf.

鈥淎r gyfartaledd, ry鈥檔 ni鈥檔 gweld 129 o bobl bob dydd,鈥 meddai.

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 gallu gwneud gwahaniaeth. Mae鈥檔 allweddol i ni, popeth ry鈥檔 ni鈥檔 gwneud, mae鈥檙 diolch i bobl sy鈥檔 cyfrannu i ni, sy鈥檔 codi arian i ni - pobl fel Lewys.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rhian, mam Lewys, ei bod yn derbyn negeseuon dyddiol gan bobl sydd am gefnogi Lewys gyda'r her

Gyda mwy na 拢2,000 eisoes yn y pot, mae mam Lewys, Rhian, yn falch iawn.

鈥淣i mor browd ohono fe a beth ma' fe'n neud,鈥 dywedodd.

鈥淢a' fe鈥檔 anodd i fynd mas bob dydd i redeg milltir, yn enwedig pan ti鈥檔 wyth oed a ma' coesau bach gyda ti!

鈥淣i mor browd, a mor browd o bawb sy鈥檔 dod - cymuned Glyn-nedd.鈥

Pynciau cysylltiedig