Her dyn i greu pidyn GPS enfawr i godi arian at Movember
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn bwriadu rhedeg 75 milltir (120 km) wrth iddo anelu at greu鈥檙 llun GPS mwyaf o bidyn mewn 24 awr.
Mae Terry Rosoman, 39 o dde Cymru, yn codi arian ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion, gan gyfaddef bod y si芒p wedi'i gynllunio i gael sylw pobl.
Dywedodd ei fod wedi dewis creu'r siap o amgylch Bannau Brycheiniog oherwydd "yn enwedig ar gyfer y demograffeg darged rwy'n anelu ato, nid yw dynion byth yn tyfu i fyny".
Mae Mr Rosoman, sydd wedi wynebu trafferthion iechyd meddwl o'r blaen, yn gobeithio y bydd ei her yn annog dynion mewn sefyllfaoedd tebyg i ddod o hyd i "heriau mawreddog sy'n fwy na chi'ch hun".
Nod ei her yw , elusen sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion, hunanladdiad, canser y brostad a'r ceilliau.
Bydd Mr Rosoman yn dechrau ac yn gorffen ei rediad yng ngorsaf rheilffordd y Fenni, Sir Fynwy, gan gychwyn am 17:00 GMT ddydd Gwener, ac mae'n gobeithio gorffen erbyn yr un amser ddydd Sadwrn.