Siom pobl leol am nad oes bwriad eto i enwi pont 拢46m newydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion tref Machynlleth yn galw am enwi'r bont newydd dros yr Afon Ddyfi yn swyddogol.
Fe gafodd y bont newydd ar yr A487, sy'n cysylltu de a gogledd Cymru dros y Ddyfi, ei hagor i drafnidiaeth ar 2 Chwefror.
Mae wedi costio 拢46m ac wedi cymryd tair blynedd i鈥檞 hadeiladu.
Mae'n cymryd lle'r hen bont ar Ddyfi oedd yn gul iawn i lor茂au ac yn aml yn gorfod cau oherwydd llifogydd.
Does dim enw swyddogol ar y bont newydd, ac yn 么l Llywodraeth Cymru does dim bwriad i'w henwi chwaith ar hyn o bryd.
Ond mae llawer yn lleol yn teimlo bod hi'n bwysig iddi gael enw addas, nid yn unig er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hen bont a'r un newydd ond i roi statws haeddiannol iddi.
Yn 么l Rwth Hughes, sy'n gynghorydd tref ym Machynlleth: "Mae cael enw ar y bont newydd dros y Ddyfi yn syniad gwych.
"Fydde rhaid cael enw Cymraeg sydd yn berthnasol i Fachynlleth.
"Dwi hefyd yn credu'n gryf mai pobl lleol fyddai'n cael y dewis yr enw."
Mae Alwyn Evans, sydd hefyd yn gynghorydd ym Machynlleth, yn "gwbl o'r farn y dyle hi gael ei henwi".
"Beth am Pont Maglona? Maglona oedd yr enw Rhufeinig ar Fachynlleth."
Mae cynghorydd sir Powys, Elwyn Vaughan, sy'n byw yn yr ardal yn teimlo y dylai gael enw Cymreig a Chymraeg.
"Dwi'n cynnig Pont Glynd诺r, mae'n enw sy'n clymu efo hanes y dre ac yn uno'r de a'r gogledd."
Ym Machynlleth yn 1404 y cafodd Owain Glynd诺r ei goroni'n Dywysog Cymru ac yno hefyd y cynhaliodd ei senedd gyntaf.
Daeth cynrychiolwyr o'r Alban, Ffrainc a Chast卯l yn Sbaen, yn ogystal ag o Gymru.
'Angen enw Cymraeg'
Dydy Rhodri Lloyd, sy'n byw ym Machynlleth, ddim am weld enw Saesneg neu ddwyieithog ar y bont.
"Yr unig beth faswn i'n ddeud ydy bod rhaid i'r enw fod yn un Cymraeg a Chymraeg yn unig fel nad oes ffrae fel sydd wedi bod rhwng Eryri a Snowdonia.
"Byswn i'n hoffi gweld unrhyw enw falle sydd yn defnyddio enw Glynd诺r neu Pont Bro Ddyfi gan fod y bont yn uno dwy ochr y fro at ei gilydd, ac yn gwneud defnydd o hen enw'r ysgol uwchradd, Ysgol Bro Ddyfi."
Mae Elen Mason yn byw yn y dref erbyn hyn ond fe gafodd ei magu ar fferm y Ffridd, sydd reit ar ben draw y bont newydd.
Ei hawgrym hi ydy "Pont y Ffridd, gan ei bod yn dod allan wrth Ffriddgate".
Yn 么l Elen, enwau'r caeau o dan y bont newydd yw'r Marian, D么l Gragen a D么l Sgin, "felly, beth am 'Bont y Marian' neu 'Bont Gragen' falle?"
Yn 么l Llywodraeth Cymru, does dim bwriad i enwi'r bont ar hyn o bryd.
Petaen nhw'n ei henwi'n swyddogol, mae'r llywodraeth yn dweud y bysen nhw'n gwneud hynny mewn trafodaeth gyda'r awdurdod lleol.
Yn 么l llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Llywodraeth Cymru a'r asiantaeth gefnffyrdd sy'n gyfrifol am y bont newydd felly byddai unrhyw benderfyniad yngl欧n 芒'r enw gyda nhw ac nid y cyngor sir."
Ychwanegodd: "Os yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu enwi'r bont, yna byddem yn eu hannog i gynnwys y bobl sy'n byw yn Nyffryn Dyfi fel y gallant ddweud eu dweud ar enw posibl."
Bydd y mater yn cael ei godi o flaen cyngor tref Machynlleth ddiwedd y mis.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022