Vaughan Gething ddim am sefyll yn yr etholiad nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn sefyll yn etholiad Senedd Cymru yn 2026.
Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd ei fod am ymddiswyddo fel prif weinidog, ar 么l pedwar mis yn y swydd.
Roedd Mr Gething wedi bod dan bwysau oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac am ddiswyddo un o'i weinidogion.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod Mr Gething 鈥渨edi bod yn aelod gwych o d卯m sydd wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi ac i eraill, hyd yn oed ar adegau o bwysau aruthrol yn y swyddi y mae wedi鈥檜 cyflawni dros bobl Cymru".
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
Dywedodd Mr Gething, sy'n cynrychioli De Caerdydd a Phenarth, wrth aelodau nos Sadwrn: "Fel Cymro gafodd ei eni yn Zambia, mae wedi bod yn fraint gwasanaethu yn llywodraeth Cymru am dros ddegawd.
"Mae'r cyfle i wneud gwahaniaeth ac i ysbrydoli pobl a symudiadau, ac i wneud gwahaniaeth, yn fraint arbennig.
"Mi fydda i wastad yn ddiolchgar ac yn falch o hynny."
Dywedodd ei fod wedi siarad gyda'r Prif Weinidog, Eluned Morgan i gadarnhau na fydd yn sefyll eto ac y bydd yn ei chefnogi hi o'r meinciau cefn.
Wrth ymateb i gyhoeddiad Vaughan Gething, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: 鈥淢ae Vaughan Gething wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol hanesyddol i Gymru o dan rai o鈥檙 amgylchiadau anoddaf."
"Mae Vaughan wedi cyflawni dro ar 么l tro ac wedi hyrwyddo achos datganoli yng Nghymru.
鈥淢ae wastad wedi bod yn aelod gwych o d卯m sydd wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi ac i eraill, hyd yn oed ar adegau o bwysau aruthrol yn y swyddi y mae wedi鈥檜 cyflawni dros bobl Cymru.
鈥淩ydw i鈥檔 gwybod y bydd Vaughan yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau pwysig i鈥檔 gwlad ni yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
鈥淒iolch Vaughan am bopeth rwyt ti wedi neud dros ein gwlad.鈥
Dywedodd y cyn-brif weinidog Alun Michael fod y newyddion yn "siom fawr".
"Mae Vaughan wedi dangos ei hun i fod yn ddawnus, yn arweinydd - ac fe welon ni hynny yn arbennig yn ystod Covid - a bydd yn golled fawr i'r Senedd bod o ddim yn sefyll y tro nesa'.
"Mae lot o bobl yn ei etholaeth yn ddig iawn am beth sydd wedi digwydd ac yn gefnogol iawn o Vaughan, a ddim yn hapus bod o'n sefyll i lawr.
"Ar yr ochr arall, dwi'n meddwl bod o wedi edrych ar y sefyllfa a phenderfynu bod o'n amser gwneud rhywbeth gwahanol.
"Mae 'na fyd eang tu allan i'r Senedd i ddyn mor ddawnus 芒 Vaughan - bydd lot o bosibiliadau yno iddo - a dwi'n si诺r y bydd o'n gwneud cyfraniad pwysig i gymdeithasau yng Nghymru mewn rhyw ffordd yn y dyfodol."
Daeth Vaughan Gething yn brif weinidog Cymru ym mis Mawrth 2024, ond cafodd ei gwestiynu dros gyfraniad i'w ymgyrch o 拢200,000 gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Roedd Mr Gething yn mynnu ei fod wedi dilyn y rheolau.
Roedd hefyd wedi gorfod amddiffyn neges a yrrodd yn ystod y pandemig, tra'n weinidog iechyd, yn dweud wrth gydweithwyr ei fod yn dileu negeseuon testun o gr诺p tecstio.
Roedd ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.
Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth yn dangos fod y negeseuon wedi dod o'i ff么n.
Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ddechrau Mehefin ac roedd ergyd arall i'w arweinyddiaeth ym mis Gorffennaf pan ymddiswyddodd pedwar aelod blaenllaw o'i gabinet.
Yn dilyn cyfarfod o aelodau'r blaid yn Senedd Cymru, fe gyhoeddodd y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.
Daeth eu hymadawiad wedi wythnosau o helbul gwleidyddol i Vaughan Gething, a gymerodd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford ym mis Mawrth.
Dadansoddiad
Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y 91热爆
Dwi'n meddwl bod hi wedi bod yn eglur yn yr wythnosau ers i fe ymddiswyddo fel prif weinidog na fydde 'na le i Vaughan Gething yn y cabinet ym Mae Caerdydd.
Mae Llafur eisiau rhoi'r holl helbul yma y tu cefn iddyn nhw ac os felly, pa fantais fydde 'na i Vaughan Gething i aros fel aelod meinciau cefn yn y Senedd?
Felly dwi'n meddwl mai fe sydd wedi penderfynu hyn - dyw e ddim wedi ei orfodi arno fe - ond y ffaith bod 'na ddim swydd iddo fe yn y cabinet sy'n gyfrifol am y penderfyniad.