91热爆

Gething yn 'gresynu' clywed pryderon am roddion

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn "gresynu'n fawr" o glywed y pryderon yngl欧n 芒 rhoddion i'w ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Mae'r Prif Weinidog wedi cael ei feirniadu'n hallt am dderbyn 拢200,000 gan gwmni sy'n eiddo i ddyn gafodd ei erlyn am droseddau amgylcheddol.

Mae bellach wedi gofyn i Bwyllgor Safonau Senedd Cymru "ystyried a chyflwyno cynigion" i ddiweddaru rheolau ar roddion i Aelodau o'r Senedd.

Dywedodd arweinydd gr诺p y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, nad oedd hynny'n ddigon.

Mae Vaughan Gething wedi mynnu o'r dechrau bod yr holl reolau cyfredol wedi'u dilyn gyda'r rhodd gan Gr诺p Amgylcheddol Dauson.

Ond mae rhai o aelodau ei blaid ei hun wedi mynegi pryderon am y mater.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y cyn-Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters ei bod hi鈥檔 鈥測sgytwol鈥 darganfod o ble roedd yr arian wedi dod ac y dylai Mr Gething ei roi yn 么l.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew RT Davies yn galw am ymchwiliad "llawn ac annibynnol" i roddion Mr Gething

Yn ei lythyr, at gadeirydd y pwyllgor - yr aelod Llafur Vikki Howells - dywedodd Mr Gething: 鈥淩wy鈥檔 cydnabod lefel y pryder ynghylch y rhoddion i鈥檓 hymgyrch fel rhan o ras arweinyddiaeth Llafur Cymru.

鈥淩wy鈥檔 gresynu鈥檔 fawr o glywed y pryderon sydd gan aelodau eraill, ac rwy鈥檔 trin y gwaith o geisio datrys hynny gyda mewnbwn cydweithwyr fel mater difrifol.

鈥淓r bod dadleuon y Senedd wedi dangos y derbynnir bod y penderfyniadau a wnaed yn cydymffurfio 芒鈥檙 rheolau presennol, mae鈥檙 cwestiynau ehangach, yr amheuon a鈥檙 pryderon a godwyd yn tanlinellu鈥檙 angen am gamau gweithredu sy鈥檔 ein galluogi i edrych ar ddiwygiadau sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol.

鈥淢ae鈥檔 bwysig ein bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y rheolau a鈥檙 prosesau sy鈥檔 ymwneud 芒 rhoddion gwleidyddol yn gadarn, yn dryloyw a bod ganddynt hyder y cyhoedd.鈥

Cofrestr o lob茂wyr?

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi "ystyried yn ofalus yr ystod o safbwyntiau a fynegwyd gan gydweithwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf" ac "wedi ystyried y llwybr gorau i ddatblygu diwygiadau ystyriol a all gael effaith barhaol".

Yn ei lythyr, mae'n awgrymu bod y pwyllgor yn ystyried rheolau ar "lefel adrodd a datgelu" ac "a ddylai fod cap ar roddion gan unrhyw un endid neu unigolyn".

Dywedodd Mr Gething y bydd hefyd yn gofyn i uwch was sifil i "ystyried argymhellion ar sut i gryfhau hyder y cyhoedd yngl欧n ag unrhyw wrthdaro buddiannau posib lle mae Aelod o'r Senedd hefyd yn aelod o'r llywodraeth".

Ychwanegodd yr hoffai weithio gyda'r pwyllgor i ailystyried dadleuon dros greu "cofrestr o lob茂wyr" yng Nghymru.

鈥淒rwy edrych ar yr arferion gorau sy鈥檔 bodoli mewn gwledydd eraill, gallai鈥檙 Senedd a Llywodraeth Cymru elwa o system fwy tryloyw sy鈥檔 helpu sefydliadau i ymgysylltu 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy鈥檔 ennyn hyder y cyhoedd yn y tymor hir,鈥 meddai.

Yn fuan ar 么l ei fuddugoliaeth ym mis Mawrth, gofynnodd Mr Gething i'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones adolygu'r rheolau ar gyfer gornestau yn y dyfodol.

Ddydd Mawrth fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wfftio cynnwys llythyr Mr Gething at y Pwyllgor Safonau.

鈥淣id dim ond swm y rhoddion, ond yn hollbwysig y ffynhonnell, sydd wedi poeni llawer o bobl ledled Cymru ac o fewn plaid Gething ei hun.

鈥淵r unig ffordd y byddwn ni鈥檔 gallu lleddfu鈥檙 pryderon hynny yw trwy ymchwiliad llawn, annibynnol i roddion ymgyrch Mr Gething.鈥