91热爆

Gething: AS Llafur eisiau ymchwiliad annibynnol

Beth WinterFfynhonnell y llun, Beth Winter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Beth Winter yn galw am ymchwiliad er mwyn "adfer hyder y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth"

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Llafur wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r rhoddion i ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru.

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Beth Winter na ddylai Mr Gething fod wedi derbyn yr arian, ac y "dyle fe wedi rhoi'r arian yn syth yn 么l".

Derbyniodd Mr Gething 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae'r prif weinidog wastad wedi mynnu bod y rhoddion wedi'u datgan a'u cofrestru yn y ffordd gywir, ac na fyddai'n dychwelyd yr arian.

Mae Mr Gething wedi gwrthod gorchymyn ymchwiliad annibynnol i'r mater, ond bydd adolygiad mewnol o roddion ymgyrch arweinyddiaeth i Lafur Cymru.

Y cyn-brif weinidog Carwyn Jones fydd yn arwain yr adolygiad, fydd hefyd yn edrych ar enwebiadau, cyfathrebu ag aelodau'r blaid a hyd y cystadlaethau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r prif weinidog yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le

Dywedodd Ms Winter, yr Aelod Seneddol dros Gwm Cynon, fod yna gwestiynau difrifol i'w hateb.

"Dydw i ddim yn mynd i ddod ar raglen deledu i amddiffyn Vaughan Gething," meddai.

"Dyle fe ddim fod wedi derbyn yr arian. Dyle fe wedi rhoi'r arian yn syth yn 么l.

"Fe dderbyniwyd yr arian gan rywun sydd yn euog o droseddau amgylcheddol, ac mae pob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb.

"Ni angen ymchwiliad annibynnol.

"Mae'n debyg i beth ddigwyddodd i fi, i fod yn onest, ar 么l y reselection process.

"Ro'n i wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol. Os does dim byd i'w guddio, gad i ni gael hynny."

Ni fydd Ms Winter yn ymgeisydd i Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf wedi i Gerald Jones gael ei ffafrio fel ymgeisydd y blaid ar gyfer sedd newydd Merthyr Tudful ac Aberd芒r.

Mae'r sedd newydd yn gyfuniad o etholaeth Mr Jones - Merthyr Tudful a Rhymni - ac etholaeth Ms Winter - Cwm Cynon.

'So ni moyn dilyn America'

Ychwanegodd Beth Winter nad oedd hi'n gyfforddus gweld yr arian yma, na chafodd ei wario ar yr ymgyrch, yn cael ei roi tuag at goffrau Llafur Cymru.

"Dylai'r arian fod wedi cael ei roi yn 么l pan ddaethon ni wybod bod o wedi derbyn yr arian. Dyle fe ddim wedi derbyn gymaint o arian.

"So' ni moyn dilyn yr hyn sy'n digwydd yn America, lle mai'r ymgeisydd sy'n gallu codi'r mwyaf o arian yn ennill yr etholiad oherwydd yr arian sy' 'da nhw. Mae hynny'n becso fi lot."

Mae Ms Winter hefyd yn cefnogi galwadau Plaid Cymru am osod cap blynyddol ar faint o arian y mae Aelodau o'r Senedd yn cael ei dderbyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hoffai Samuel Kurtz wybod beth yr oedd Vaughan Gething yn ei wybod am gwmni Dauson Environmental cyn derbyn yr arian

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad annibynnol, ac yn 么l yr aelod Ceidwadol o'r Senedd, Samuel Kurtz, mae sawl cwestiwn i'w ateb.

"Hoffwn weld pam fod Banc Datblygu Cymru wedi rhoi'r arian yma i'r busnes, a pam eu bod nhw'n meddwl fod hynny'n syniad da o ystyried be oedd wedi digwydd o'r blaen o ran torri'r gyfraith," meddai.

"Oedd y prif weinidog yn gwybod bod y cwmni yma wedi torri'r gyfraith pan wnaeth o dderbyn yr arian?

"Ac os na chafodd yr arian yma i gyd ei wario gan Vaughan Gething yn ei ymgyrch ef, bydd yr arian yn mynd i'r blaid lafur - a fydda nhw'n gyfforddus gyda derbyn yr arian yma?

"Mae sawl cwestiwn ar bob un lefel."

Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai ymchwiliad annibynnol yn "ddiwedd ar y mater" gan nodi fod "neb erioed wedi derbyn swm o arian fel 拢200,000 mewn etholiad mewnol yng Nghymru".

"Mae angen edrych ar yr effaith gafodd hyn ar y bleidlais arweinyddiaeth ac ar y prif weinidog newydd.

"Mae'n arweinydd nid yn unig ar Lafur Cymru, ond ar Gymru hefyd."