91热爆

A allai AI ennill y Gadair?

Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Eckley oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024: allai peiriant wneud y job yn y dyfodol?

  • Cyhoeddwyd

A fyddai鈥檔 bosib i beiriant greu cerdd sy鈥檔 ddigon da i ennill un o brif wobrau barddol yr Eisteddfod Genedlaethol?

Dyna un o鈥檙 cwestiynau sy鈥檔 cael eu gofyn yn y rhaglen AI: Y Gwalch neu'r Gwych ar Radio Cymru sy鈥檔 edrych ar le AI - deallusrwydd artiffisial - yn ein diwylliant, a鈥檌 effaith ar y Gymraeg a'n byd celfyddydol.

Cafodd y cwestiwn ei drafod mewn sesiwn ar faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn gynharach eleni sy鈥檔 amserol iawn wedi i鈥檙 Brifwyl wahardd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ei chystadlaethau llenyddol yn 2025.

Sut mae plismona鈥檙 rheol?

Mae rheol newydd cystadlaethau llenyddol y Brifwyl yn dweud na chaniateir 鈥渕eddalwedd sydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu neu gynorthwyo yn y broses o greu cyfansoddiadau鈥.

Mae鈥檙 rheol yn eglur felly 鈥 dim defnyddio AI i鈥檆h helpu i greu鈥檙 gwaith.

Ond sut mae'n mynd i weithio鈥檔 ymarferol?

鈥淏e' sy' falle鈥檔 anoddach gwneud ydi plismona y defnydd o鈥檙 rheol ac adnabod adegau pan fo rywun wedi defnyddio AI i ysgrifennu cerdd,鈥 meddai Gruff Prys, pennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr sy鈥檔 cyfrannu at wella safon y Gymraeg ar apiau AI fel Chat GPT.

鈥淏eth sy鈥檔 digwydd erbyn hyn ydi bod modd i bobl ddefnyddio AI nid i sgwennu rhywbeth yn ei gyfanrwydd ond fel arf i鈥檞 helpu nhw pan maen nhw鈥檔 styc efo llinell benodol.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eurig Salisbury: 鈥淢ae鈥檔 anochel i ryw raddau bod cerdd gan beiriant... yn mynd i gyrraedd y safon rywbryd.鈥

Mae鈥檙 Gadair yn cael ei rhoi yn yr Eisteddfod i fardd am gyfres o gerddi wedi eu sgrifennu mewn cynghanedd, sef patrwm o odli a chyfateb llythrennau a phwyslais mewn llinellau o farddoniaeth.

鈥淢ae set o reolau gan y gynghanedd,鈥 meddai鈥檙 bardd a鈥檙 beirniad Eurig Salisbury ar y rhaglen.

鈥淵n hwyr neu鈥檔 hwyrach ma鈥 ryw beiriant yn mynd i ddysgu sut i 'neud e, si诺r o fod. Os oes digon o eirfa a mae鈥檙 dechnoleg yn gwybod sut i ddefnyddio rheolau gramadegol yr iaith a鈥檙 gynghanedd, siawns gen i y bydd modd cael peiriant i greu cerdd gynganeddol.鈥

Ond mae鈥檔 gobeithio y bydd ffordd i stopio cerdd gan beiriant rhag cael ei chadeirio wedi ei dyfeisio cyn hynny.

Yn 么l y prifardd cadeiriol, Aneirin Karadog, mae鈥檔 rhywbeth mae o a鈥檌 gyd-feirdd yn pryderu amdano.

鈥淒ydyn ni ddim yn gwybod beth yw鈥檙 posibiliadau chwaith; y pethau da a鈥檙 pethau gwael,鈥 meddai.

鈥淵 cwestiwn sydd gyda fi yw: ydyn ni fel pobl eisiau bod yn creu achos ni sydd yn gweld y byd drwy lygaid pobl? Mae angen cadw鈥檙 elfen sanctaidd yna o weld y byd drwy lygaid sydd mewn pen o gig a gwaed, nid drwy lygaid digidol,鈥 meddai.

Yr Odliadur

Fe allech ddadlau bod beirdd eisoes yn defnyddio cymorth i farddoni, drwy ddefnyddio鈥檙 Odliadur er enghraifft, llyfr sy鈥檔 cynnig rhestrau o鈥檙 holl odlau posibl ar gyfer geiriau i helpu beirdd ddod o hyd i鈥檙 odl berffaith.

Mae bob amser yn ei boced i鈥檞 helpu pan fydd angen creu englyn ar frys meddai Eurig Salisbury. Ond dydi o ddim yn ei weld fel twyllo.

鈥淭i鈥檔 defnyddio鈥檙 pethe ma i greu yn y pen draw a fi鈥檔 gobeithio bydd posib defnyddio鈥檙 dechnoleg yma i wneud rhywbeth fel鈥檔a hefyd. Bod e wrth dy benelin di, bod e 鈥檔a wrth dy ymyl di i helpu pan mae angen. Y nod fyse peidio mynd yn ddibynnol arno fe.鈥

Mae Aneirin Karadog yn rhannu cyfrinach arall sy鈥檔 helpu cynganeddwyr: mae modd chwilio am eiriau 芒 chytseiniaid arbennig i ateb eich cynghanedd ar wefan Geiriadur Prifysgol Cymru drwy ddefnyddio asterisk lle dylai llafariad fod wrth chwilio.

鈥淥nd y dychymyg yw鈥檙 peth pwysig,鈥 meddai. 鈥淥s wyt ti鈥檔 cael AI i ddechrau meddwl am strwythur a chynllun a neges greiddiol dy gerdd, mae hwnna鈥檔 rhy bell.鈥

Beth fyddai鈥檙 pwynt?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Aneirin Karadog y Gadair yn Eisteddfod Sir Fynwy, 2016

Y cwestiwn mae Aneirin Karadog yn ei ofyn ydi a fyddai rhywun eisiau defnyddio deallusrwydd artiffisial i ennill cadair gyda cherdd nad ydyn nhw wedi ei hysgrifennu?

鈥淥s wyt ti wir yn gwybod nad ti sydd wedi ei sgrifennu fe, beth yw鈥檙 pwynt? Mae鈥檙 wobr yn hyfryd ond ti moyn dweud rhywbeth sy鈥檔 siarad 芒 chynulleidfa.鈥

A gyda chymaint o geisiadau gan gymdeithas yn dod i fardd, buan iawn byddai鈥檙 鈥榯wyll鈥 yn cael ei ddarganfod, meddai.

鈥楲lygad鈥 yr artist

Mae r么l y person yn dal yn ganolog meddai Clare Tanner, arbenigwr mewn technoleg realiti estynedig sy鈥檔 gweithio gydag elfennau gweledol AI fel mewn lluniau a fideo.

Hyd yn oed pan mae technoleg wedi cyrraedd lefel uchel o ddeallusrwydd a gallu, mae angen yr artist neu鈥檙 bardd dynol i wneud i bethau weithio.

鈥淢ae lot o bobl yn meddwl, 鈥極 mae AI yn mynd i gymryd ein jobsys ni鈥. Ond i ddweud y gwir, os wyt ti鈥檔 creu celf yn barod ti鈥檔 mynd i fod yn well am greu rhywbeth efo鈥檙 AI na rywun sydd ddim yn gwneud celf.

鈥淎chos rwyt ti hefyd efo llygad i鈥檙 peth a mae鈥檔 mynd i fod yn well i ti ddefnyddio鈥檙 AI achos ti鈥檔 gwybod sut i wneud y job yn barod. So mae o fel tool sydd yn dy helpu di.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

鈥楧im angen ofni鈥檙 dechnoleg鈥

鈥淢ae鈥檔 well gen i feddwl am y dechnoleg yma fel cyfle, fel rhywbeth positif,鈥 meddai Eurig Salisbury.

鈥淎r y cyfan, na, dwi ddim yn teimlo ei fod e鈥檔 fygythiad enfawr, ar hyn o bryd o leiaf.

鈥淕yda phob math o dechnoleg newydd ar hyd y canrifoedd mae pobl wedi ofni鈥檙 dechnoleg yna a wedi darogan gwae.

鈥淥nd y realiti yn y pen draw yw bod pobl yn defnyddio fe ac yn llwyddo i鈥檞 ddefnyddio mewn ffyrdd sy鈥檔 ddefnyddiol a dyna ni, mae鈥檙 perygl yna yn lleihau.鈥

Fe wnaeth cynhyrchwyr y rhaglen ofyn i beiriant Chat GPT greu llinellau o gynghanedd ar gyfer y rhaglen a gweld a fydden nhw鈥檔 plesio bardd fel Aneirin Karadog.

Gall y gwrandawyr benderfynu dros eu hunain pa mor lwyddiannus ydyn nhw fel barddoniaeth, ond o safbwynt y gynghanedd, dydy鈥檙 dechnoleg ddim wedi ei deall hi o bell ffordd, meddai鈥檙 prifardd... dim eto beth bynnag!