91热爆

Deallusrwydd Artiffisial: Breuddwyd neu hunllef?

  • Cyhoeddwyd

Mae deallusrwydd artiffisial, neu Artificial Intelligence (AI) yn y newyddion cryn dipyn ar hyn o bryd. Ond nid rhywbeth diweddar yw'r syniad o dechnoleg fel yma.

Mae'r ddelfryd o dechnoleg ddeallusol o'r fath wedi bod yn agos谩u ers blynyddoedd, ond fel mae'r hanesydd Syr Deian Hopkin yn ei egluro yma, doedd yna ddim ffordd o wybod sut fyddai'n edrych mewn gwirionedd...

Ffynhonnell y llun, Surasak Suwanmake

Mae AI wedi amlygu ei hun fwy-fwy yn yr ymwybyddiaeth gyffredinol. Yn 么l arbenigwyr gall y cyfrifiaduron deallus yma drawsnewid ein byd gwaith, gwyddonol a meddygol.

Mewn cynhadledd nodweddiadol ym Mharc Bletchley ddechrau鈥檙 mis, bu鈥檙 Prif Weinidog yn trafod y pwnc gydag un o arloeswyr y maes, Elon Musk, gan ddarogan dyfodol amwys a phryderus.

Ac mae鈥檙 datblygiadau鈥檔 cyflymu. Union flwyddyn yn 么l, cyhoeddwyd y rhaglen ChatGPT sydd yn medru creu dogfennau a chynnal sgwrs. Ers hynny mae dros 100 miliwn o ddefnyddwyr, 芒 gwerth y cwmni wedi cyrraedd $29 biliwn.

Ffynhonnell y llun, Leon Neal
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elon Musk yng nghynhadledd Diogelwch AI Llywodraeth y DU yn Bletchley Park, ddechrau Tachwedd 2023

Hen stori newydd

Ond nid yw鈥檙 syniad o ddeallusrwydd artiffisial yn newydd o bell ffordd. Roedd yna ddyhead am greu delweddau mewn hen chwedlau Groegaidd, ac yn y Canol Oesoedd bu sawl disgrifiad o eilun a fedrai siarad. A beth oedd Frankenstein, creadur Mary Shelley, ond dyn artiffisial?

Dechreuodd yr ymdrech i greu AI o ddifri mewn prosiect yng Ngholeg Dartmouth yn haf 1956, gyda鈥檙 gwyddonwyr yno鈥檔 darogan y byddai鈥檔 cymryd llai na chenhedlaeth i greu cyfrifiadur deallusol. Gwariwyd miliynau yn yr Unol Daleithiau ac yn Siapan cyn sylweddoli fod hyn yn orchest rhy gymhleth i dechnoleg y cyfnod.

O鈥檙 70au ymlaen roedd diddordeb mewn defnydd o gyfrifiaduraeth yn tyfu mewn amryw feysydd academaidd a masnachol.

Mae gennyf brofiad personol o ymwneud 芒'r math yma o waith. Yn 1972, pan oeddwn yn darlithio yn Aberystwyth, ac ar yr un pryd yn ceisio gorffen doethuriaeth, penderfynais y byddai鈥檔 syniad da i geisio defnyddio cyfrifiadur i brosesu gwybodaeth oedd gennyf.

Gan mai dim ond cyfrifiaduron mawr oedd ar gael, rhaid oedd defnyddio iaith gyfrifiadurol ac fe ddysges ieithoedd fel Algol 68 a Snobol, yn bennaf i gyfrif, rhestru a chymharu data. Nes ymlaen llwyddais i berswadio'r cwmni mawr, DEC, i ariannu cwrs ar gyfrifiaduraeth a鈥檙 dyniaethau ac yn 1984 llwyddodd dau ohonom i gynnal cynhadledd o dros 350 o haneswyr, o 34 o wledydd, a chreu cymdeithas rhyngwladol i hybu cyfrifiaduraeth ymhlith haneswyr.

Ffynhonnell y llun, Syr Deian Hopkin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Syr Deian Hopkin

Roedd hyd a lled eu diddordebau yn syndod; ar wah芒n i ddatblygu dulliau dysgu roedd yna brosiectau ymchwil mewn meysydd mor amrywiol ag amaethyddiaeth yn yr Hen Groeg, cyflogau a phrisiau yn Norwy, aelodaeth Senedd Frankfurt yn 1848 a chynnwys a gwerth masnach o borth Bryste yn y ddeunawfed ganrif a llawer mwy.

Ac roedd gan y llywodraeth ddigon o ddiddordeb i ariannu canolfannau i hybu鈥檙 defnydd o dechnoleg newydd, tra鈥檙 roedd y Llyfrgell Brydeinig yn rhagweld y llyfrgell ddigidol, ymhell cyn ei ymddangosiad; roedd hi鈥檔 gyfnod cyffrous i ni oll oedd yn rhan o hyn. Ac mewn prifysgolion ar draws y wlad crewyd cyrsiau perthnasol, un ohonynt yn Leicester yn orfodol i haneswyr!

'Y cyfrifiadur yn ysgrifennu'r traethawd...'

Ac eto roedd hyn yn bell o鈥檙 freuddwyd o gyfrifiaduron deallusol.

Roedd yna rai arbrofion; un ohonynt y bues yn ymwneud ag ef, oedd prosiect dan nawdd IBM i greu rhaglen a alluogai cyfrifiadur i farcio traethawd gan fyfyriwr. Yn anffodus roedd yn rhaid bwydo鈥檙 atebion disgwyliedig er mwyn i鈥檙 cyfrifiadur fedru ymateb, yr hyn a elwir yn 鈥Expect Command鈥. Roedd y dechnoleg yn rhy gyntefig. Doedd neb ohonom yn rhagweld mai cyfrifiadur fyddai鈥檔 ysgrifennu鈥檙 traethawd yn y lle cyntaf yn y dyfodol!

Ers hynny, mae鈥檙 byd technolegol wedi datblygu鈥檔 syfrdanol. Yn 么l 'Rheol Moore', datganiad gan yr arloeswr Gordon Moore yn 1965, byddai y nifer o elfennau ar gylched integredig (integrated circuit) yn dyblu pob blwyddyn ond y gost yn aros yn yr unfan, ac mae hyn wedi digwydd ers hynny. Ar yr un pryd mae prosesu cyfochrog yn golygu ymateb cyflymach i broblemau cymhleth iawn, tra mae maint cyfrifiaduron wedi tyfu鈥檔 syfrdanol.

Mae mwy eto ar y gorwel, yn enwedig mecaneg cwantwm (quantum mechanics) sy鈥檔 defnyddio elfennau is-atomeg i alluogi cyfrifiaduron sydd filoedd o filltiroedd o鈥檌 gilydd i gyd-weithio a hynny ar gyflymder digynsail; ond rhaid pwysleisio nad ydym yno eto!

Manteision i'r Gymraeg?

Eisoes mae rhaglenni cyfieithu, fel un Google neu Microsoft, wedi gwella鈥檔 rhyfeddol, a chan fod AI yn 鈥渄ysgu鈥 trwy ymarfer, medrwn ragweld camau breision eto yn y maes.

Yn ei dro, bydd yn haws o lawer i drosi llenyddiaeth Gymraeg ar gyfer cynulleidfa ehangach ac, wrth gwrs, y gwrthwyneb o鈥檙 Saesneg i鈥檙 Gymraeg. Os bydd gofyn am eirfa fwy coeth i drafod y pynciau technegol yn y Gymraeg, tybed a all AI ei hun awgrymu geiriau? Ac fe fydd dysgu鈥檙 Gymraeg ar gyfrifiadur yn haws hefyd.

Heriau rheoleiddio

Pan gyflwynwyd y wefan byd-eang yn 1991, doedd bron neb wedi rhagweld dylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Felly doedd fawr o s么n am reolaeth; rhyddhau gwybodaeth oedd amcan y dyfeisiwr Tim Berners-Lee, yn hytrach na鈥檌 chyfyngu.

Bellach rydym oll yn ymwybodol o鈥檙 peryglon ond mae鈥檙 ymdrechion i oruchwylio cynnwys safleoedd fel Twitter/X a Facebook wedi bod yn dra aneffeithiol hyd yma, ac yn dangos gwendid llywodraethau yn wyneb nerth a golud y cwmn茂au mawrion rhyngwladol.

Mae yna wers yma. Disgwylir y gall AI drawsnewid byd gwaith trwy ddysgu sut i gyflawni swyddogaethau, ond beth am y swyddi caiff eu dileu?

Gall AI chwyldroi ein meddyginiaeth a chyfoethogi bywyd yn gyffredinol. Ond a fydd hyn ar gael i bawb, neu ar gyfer y rhai all dalu? Ac os medrir creu gwybodaeth gredadwy, ble mae鈥檙 ffin rhwng gwirionedd ac anwiredd?

Ffynhonnell y llun, NICOLAS MAETERLINCK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r hanesydd Yuval Noah Harari o'r farn mai AI yw 'diwedd hanes dynol'

Yn y gynhadledd yn Mharc Bletchley rhybuddiodd un o arbenigwyr y maes, Yuval Noah Harari, y gallai cam-ddefnydd o AI danseilio'r gyfundrefn ariannol fyd-eang hyd yn oed, ac awgrymodd am oediad er mwyn creu rheolaeth ddiogel.

Yn anffodus ymddengys nad yw鈥檙 wers wedi ei dysgu eto. Roedd yn siom i lawer nad oedd s么n am unrhyw fath o rheolaeth neu oruchwyliaeth o AI yn Araith y Brenin.

Cytunodd 10 llywodraeth ym Mharc Bletchley i gydweithredu dros arbrofi鈥檙 dechneg ond dim mwy na hynny. Efallai fod y sialens yn rhy anodd, neu llywodraethau yn gyndyn i ymyrryd mewn byd tu hwnt i鈥檞 gafael.

Yn y cyfamser, mae鈥檙 sialens yn parhau; sut i sicrhau diogelwch y dechnoleg a sut i鈥檞 gyfeirio er budd pawb, yn enwedig mor anodd yw rhagweld y dyfodol technolegol. Efallai y medrwn greu cyfrifiadur i ddarogan?

Pynciau cysylltiedig