91热爆

Atal dweud: 'Ddylai neb orfod talu am help i siarad'

Lloyd CottrellFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth i鈥檙 amlwg fod gan Lloyd Cottrell atal dweud pan oedd yn 5 neu 6 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檔 annheg bod pobl yn gorfod talu am gymorth atal dweud, yn 么l arbenigwr yn y maes.

Yn 么l amcangyfrifon, mae rhyw 8% o blant a thua hanner miliwn o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn byw ag atal dweud.

Mae un therapydd iaith a lleferydd arbenigol yn rhybuddio bod nifer o bobl yn gorfod talu am gymorth oherwydd rhestrau aros hir yn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "triniaeth ar gyfer atal dweud yn aml yn llwyddiannus gyda phlant ifanc iawn, felly mae cael ymyrraeth gynnar yn bwysig".

"Mae croeso i rieni a gofalwyr gysylltu 芒鈥檜 meddyg teulu os ydyn nhw鈥檔 pryderu."

'Dim clem gan fy ffrindie'

Daeth i鈥檙 amlwg fod gan Lloyd Cottrell o Gasnewydd atal dweud pan oedd yn bump neu chwech oed.

Penderfynodd ei rieni dalu am gymorth preifat pan oedd yn ei arddegau cynnar.

Pan oedd e鈥檔 iau mae'n dweud bod "dim clem" gyda'i ffrinidiau "sut i ymdopi 'da phobl sy 'da atal dweud na sut i drin nhw".

A hithau'n Ddiwrnod Atal Dweud Rhyngwladol, mae'r cerddor 26 oed yn awyddus i addysgu eraill a cheisio gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd ag atal dweud.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lloyd Cottrell yn credu鈥檔 gryf y "dyle neb orfod talu am help i just siarad"

Mae鈥檔 credu鈥檔 gryf y "dyle neb orfod talu am help i just siarad".

鈥淓r bod llawer o gymorth ar gael, mae鈥檙 rhan fwyaf yn gostus iawn,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn bod y Llywodraeth yn sybsideiddio llawer mwy o gymorth er mwyn helpu pobl i reoli eu hatal dweud.鈥

Yn 么l Sian Thomas, therapydd iaith a lleferydd arbenigol, mae angen sicrhau rhagor o fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd i helpu鈥檙 rheiny sydd ag atal dweud.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sian Thomas, therapydd iaith a lleferydd arbenigol yn dweud "mai ffordd wahanol o siarad ydy atal dweud"

鈥淢ae gallu siarad, cymryd rhan yn eu haddysg a chymdeithasu mor bwysig ac yn rhan hanfoddol o ddatblygiad plentyn,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 annheg bod rhai pobl yn gorfod talu am rywbeth sy' mor hanfodol鈥.

Ychwanegodd: "Mae angen i ni addysgu pobl a helpu pobl i weld bod gwahaniaethau yn iawn ac mai ffordd wahanol o siarad ydy atal dweud ac nid nam lleferydd.

鈥淒wi鈥檔 credu bod angen newid y ffordd mae pobl yn meddwl am atal dweud ac mi fydd hynny鈥檔 gwneud i lawer deimlo fel eu bod nhw鈥檔 cal eu derbyn yn well o fewn cymdeithas.鈥

Ym mis Tachwedd 2019 bu'n rhaid i 13 person yng Nghymru aros mwy nag 14 wythnos am gymorth ond mae鈥檙 niferoedd wedi cynyddu ers hynny.

Ym mis Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i gyflymu profion ar gyfer ymyriadau therapi gyda鈥檙 nod o leihau rhestrau aros i rhwng wyth ac 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024.

Ond yn yr ystadegau diweddaraf ym mis Gorffennaf, bu'n rhaid i 277 aros mwy nag 14 wythnos am therapi lleferydd ac iaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae arbenigwyr iechyd yn gweithio gyda unigolion a/neu eu teuluoedd er mwyn penderfynu pa driniaeth neu gefnogaeth maen nhw ei angen.

"Mae'r cynllun Siarad Gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ceisio cryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i blant i ddatblygu eu lleferydd, eu hiaith a sgiliau cyfathrebu."

Ychwanegodd llefarydd bod "triniaeth ar gyfer atal dweud yn aml yn llwyddiannus gyda phlant ifanc iawn, felly ma cael ymyrraeth gynnar yn bwysig".

"Mae croeso i rieni a gofalwyr gysylltu 芒鈥檜 meddyg teulu os ydyn nhw鈥檔 poeni."

Pynciau cysylltiedig