91热爆

Atal dweud: Angen cynrychiolaeth bositif yn y cyfryngau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Arwel Richards wedi byw ag atal dweud trwy gydol ei fywyd

Rhaid gwella'r gynrychiolaeth o atal dweud yn y cyfryngau, yn 么l un sydd wedi byw 芒'r cyflwr trwy gydol ei fywyd.

Dywedodd Arwel Richards mai "punchline" oedd atal dweud ar y teledu pan oedd yn blentyn.

Siaradodd Mr Richards gyda Dros Frecwast ar ddiwrnod rhyngwladol ymwybyddiaeth atal dweud am yr angen i normaleiddio'r cyflwr.

Mae'r cyflwr yn effeithio ar 3% o bobl.

Mae deiseb gan gymdeithas atal dweud yn galw am ddiwedd i "absenoldeb atal dweud" yn y cyfryngau.

Yn 么l y trefnwyr, cymdeithas STAMMA, fe fydd pobl yn parhau i ymateb mewn ffordd "amhriodol" i bobl ag atal dweud os nad yw'r broblem yn cael ei datrys.

Atal yn 'mynd a dod'

Dywedodd Mr Richards fod atal dweud wedi bod ganddo trwy gydol ei fywyd. Er hyn, ni wnaeth dderbyn y peth tan oedd yn oedolyn.

"O'n i byti 10 mlwydd oed. Roedd problem gen i yn dweud 'r'... ond o'n i ddim nes o'n i'n 30 mlwydd oed wedi cyfaddef i'n hunan bod atal gen i.

"Mae lot o bobl gydag atal, maen nhw'n meddwl bod dim atal gyda nhw. Mae'n gyflwr sy'n cymryd lot o amser i gael ei sortio mas yn y pen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid gwella cynrychiolaeth er mwyn gwella ymateb pobl i glywed atal dweud, meddai STAMMA

Derbyniodd Mr Richards therapi iaith pan yn iau, ond dywedodd nad yw'r therapi bob tro wedi ei deilwra at atal dweud.

"Mae'n one size fits all," meddai.

Mae Mr Richards yn gallu rheoli ei atal dweud, ac mae cyfathrebu yn rhan allweddol o'i swydd.

Mae ei atal yn mynd a dod, dywedodd bod rhai diwrnodau lle nad oes modd iddo siarad o gwbl, ond bod llawer o'r bobl mae'n siarad 芒 nhw ddim yn ymwybodol o gwbl fod atal ganddo.

'J么c' oedd atal dweud

Yn 么l Mr Richards, mae'n bwysig fod yna gynrychiolaeth bositif o atal dweud yn y cyfryngau er lles plant sydd 芒'r cyflwr.

Yr unig esiampl "enwog" o gymeriad gydag atal pan oedd yn blentyn, meddai, oedd cyfres 'Open All Hours'.

"Roedd hwnna'n cael ei ddefnyddio fel punchline pob am yn ail frawddeg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pwyslais ar bwysigrwydd cynrychiolaeth bositif o'r cyflwr i blant

Ychwanegodd fod pobl yn dal i deimlo'i fod yn dderbyniol i wneud hwyl ar ben atal dweud, yn wahanol i gyflyrau eraill, gan ei fod yn anabledd anweledig.

Mae plant nawr yn dymuno gweld modelau r么l positif gydag atal, meddai, ac mae deiseb STAMMA yn gofyn: "Os mae pawb arall yn gallu cael eu cynrychioli ar y teledu, pam nad pobl sy'n atal?"

'Mae cymuned ar gael'

Mae Mr Richards yn gweithio'n agos 芒'r elusen STAMMA. Dywedodd eu bod yn ceisio helpu pobl ifanc ag atal dweud trwy ddangos bod cymuned ar gael i nhw.

Mae eu deiseb yn anelu at godi ymwybyddiaeth o atal dweud yn y cyfryngau nes ei fod yn cael ei drin yn yr un modd 芒 gwahanol acenion.

Dywedodd pennaeth STAMMA, Jane Powell, y byddai'r elusen yn monitro cynrychiolaeth atal dweud yn y cyfryngau a pha ymdrech sy'n cael ei wneud i sicrhau fod ystyriaeth i'r cyflwr yn eu prosesau recriwtio.

Pynciau cysylltiedig