Torri sesiynau actio a cherdd i bobl ifanc yn 'dorcalonnus'
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ddod â'u sesiynau hyfforddiant i bobl ifanc i ben yn "dorcalonnus ac yn syfrdanol", yn ôl rhiant.
Mae 340 o bobl ifanc yn rhan o CBCDC Ifanc - 182 o bobl ifanc yn astudio cerddoriaeth a 158 yn cael hyfforddiant actio.
Ond mae llefarydd ar ran y coleg yn dweud eu bod "wedi dechrau cyfnod o ymgynghori i ddod â gwasanaethau ieuenctid i ben" wrth i'r coleg "wynebu heriau ariannol sylweddol".
Dywedodd fod y coleg yn "cydnabod bod y cynlluniau yma'n achosi pryder i staff, myfyrwyr a rhieni" ond bod angen "gwneud rhai penderfyniadau anodd i sicrhau bod y coleg yn barod i wynebu heriau dros y blynyddoedd nesaf".
Maen nhw hefyd yn dweud y gallai'r cynllun effeithio ar bum aelod o staff yn ogystal â 112 o staff sy'n gweithio oriau amrywiol "sy'n rhoi eu hamser i ddysgu ein myfyrwyr dros y penwythnosau yn ystod y tymor".
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai
Ers mis Medi, mae mab yr actor a'r perfformiwr Alun Saunders, Dylan, yn mynd i stiwdio actorion ifanc y coleg yn wythnosol.
Dywedodd Alun wrth Cymru Fyw: "Dyma’r unig gyfle yn y byd i gynnig hyfforddiant a dysgu ar lefel conservatoire yn yr iaith Gymraeg ar draws y byd - allwn ni ddim colli’r ddarpariaeth yma."
Mae dros 2,000 o bobl wedi llofnodi deiseb ar y we yn galw ar y coleg i beidio parhau â'r cynllun.
Mae Alun Saunders yn poeni am effaith y cynlluniau ar y celfyddydau yng Nghymru.
"Fel actor a pherfformiwr sydd wedi gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, yn ogystal â bod yn riant ar un o fyfyrwyr ifanc CBCDC, mae’r toriadau arfaethedig yn dorcalonnus ac yn syfrdanol.
"Fel rhywun wnaeth hyfforddi fel actor yn CBCDC, sydd wedi dychwelyd i weithio fel mentor ac awdur, dwi wedi siomi’n anferthol yn y penderfyniadau a’r modd o weithredu.
"Er bo' pob teulu, busnes a sefydliad yn wynebu heriau ariannol ar hyn o bryd, weithiau mae angen i ni weithio’n galetach i ddarganfod syniadau a datrysiadau gwell i sicrhau ein bod ni’n gwneud y peth iawn."
'Penderfyniad hurt'
Mae dros 2,000 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb yn galw am wyrdroi'r penderfyniad.
Susan Hobkirk sydd wedi dechrau'r ddeiseb, sy'n galw'r penderfyniad yn un "hurt".
Fel cerddor proffesiynol, mae'n dweud bod y gwasanaethau yn "hanfodol er mwyn meithrin cerddorion talentog".
Dywedodd bod "cannoedd o blant yn dibynnu ar y gwasanaeth" a bod "nifer yn cael cefnogaeth ariannol i wneud hynny ac allan nhw ddim fforddio'r lefel yma o hyfforddiant fel arall".
"Mae eraill wedi benthyg offerynnau gan y coleg a bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu dychwelyd.
"Allith hyn ddim digwydd. Mae'n rhaid i ni wneud popeth allwn ni i wyrdroi'r penderfyniad hurt yma."
Mae Alun Saunders yn egluro bod rhieni wedi cael e-bost yr wythnos ddiwethaf i ddweud bod y coleg yn bwriadu dod â'r sesiynau i ben.
"Mae’n erchyll fod sefydliad mor uchel ei pharch - ein conservatoire cenedlaethol ni, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - wedi methu cyfathrebu’i heriau ariannol yn glir cyn gwneud penderfyniadau mor enfawr â thorri’r ddarpariaeth gelfyddydol ar gyfer ein pobl ifanc ni," meddai.
'Pwysau ariannol difrifol'
Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru eu bod "wedi dechrau cyfnod o ymgynghori i ddod â gwasanaethau ieuenctid i ben.
"Mae'r coleg yn wynebu heriau ariannol sylweddol, fel yr holl sector addysg uwch yn y DU.
"Mae'r sesiynau actio a cherddoriaeth i bobl ifanc yn bwysig i ni.. rydyn ni'n cydnabod bod y cynlluniau yma'n achosi pryder i staff, myfyrwyr a rhieni.
"Ar yr un pryd, rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r angen i wneud rhai penderfyniadau anodd i sicrhau bod y coleg yn barod i wynebu heriau dros y blynyddoedd nesaf.
"Mae'r sesiynau actio a cherddoriaeth i bobl ifanc angen cymhorthdal sylweddol gan y coleg oherwydd dydyn ni ddim yn cael cyllid uniongyrchol ar gyfer addysg oed ysgol gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil na Llywodraeth Cymru.
"Does dim modd parhau i gynnig y cymhorthdal o ystyried y pwysau ariannol difrifol arnon ni."
Hoffai Alun Saunders weld rhagor o drafodaeth am ffyrdd eraill o ariannu'r sesiynau i bobl ifanc.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Does dim sôn gan y coleg [yn yr e-bost] am sut fasen nhw’n bwriadu ceisio darganfod ffrydiau eraill i barhau i ariannu’r cynlluniau, ond llawer o eiriau gwag.
"Os oes ymrwymiad i’n pobl ifanc ni, wedyn ble mae’r call-to-arms? Y galw am gymorth a chefnogaeth?
"Fasai’r sefyllfa ariannol ddim wedi dod fel sioc annisgwyl mewn sefydliad sydd mor ddibynnol ar ffioedd cyson.
"Pam na allai’r coleg wedi sôn ar ddechrau’r flwyddyn fod heriau o’u blaenau a gwneud ymgynghoriad neu gyfarfod cyhoeddus?
"Nid budd ariannol mo prif elw y celfyddydau i’n cymdeithas ni, ac os yw sefydliad mor uchel ei pharch yn gwneud penderfyniad i droi cefn ar y genhedlaeth nesa’ o gerddorion ac actorion, heb sôn am y staff, yna pa obaith sydd?"
'Cyfrifoldeb i gynnig profiadau i bobl ifanc'
Mae'r coleg yn dweud eu bod yn "cydnabod bod gennym ni'r cyfrifoldeb i gynnig profiadau a hyfforddiant proffesiynol i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol o bob rhan o Gymru, ac i fanteisio ar y cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Fel nifer o gyrff yn y sector uwch ac yn y celfyddydau, byddwn ni'n edrych eto ar sut y byddwn ni'n cynnig hyfforddiant tra'n parhau i gyfrannu i'r celfyddydau, i gerddorion ac i bobl yn y byd theatr yng Nghymru," meddai llefarydd.
Ychwanegodd eu bod nhw'n "benderfynol o gynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn y byd cerddoriaeth a theatr" a'u bod yn bwriadu parhau i gynnal rhai gweithdai ar benwythnosau a chyrsiau preswyl.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn llwyr dderbyn bod pwysau ariannol ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac ar draws y DU ac rydym yn trafod gyda nhw'n rheolaidd ac yn adeiladol".
"Rydym hefyd yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd addysg cerddoriaeth.
"Mae ein Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, gwerth £13m, yn rhoi cyfle i bob plentyn 3-16 oed chwarae offeryn, canu a chreu cerddoriaeth.
"Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'n parhau'n bartner allweddol o ran gweithredu'r Cynllun Addysg Cerddoriaeth Cenedlaethol, yn enwedig o ran rhoi cyfleoedd i ddysgwyr symud ymlaen i chwarae offeryn neu ganu."