'Cyfnod anodd' yn wynebu'r byd theatr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr artistig sydd ar fin ymddeol wedi dweud wrth 91热爆 Cymru ei fod e'n rhagweld "cyfnod anodd" i fyd y theatr yng Nghymru.
Yn 么l Peter Doran, o Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, bydd hi'n cymryd "llawer o waith" i ddenu'r cynulleidfaoedd sydd wedi gadael y theatr yn sgil y pandemig.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r heriau" a bod Cyngor y Celfyddydau yn trafod y mater yn "rheolaidd" gyda'r sector.
Ychwanegodd llefarydd bod y sector wedi cael cefnogaeth "buddsoddiad digynsail" o 拢108m yn ystod y pandemig, a bod hynny wedi helpu i ddiogelu 2,700 o swyddi ledled Cymru.
Er gwaethaf ei bryderon, mae Mr Doran yn dweud bod Theatr y Torch wedi bod yn fagwrfa allweddol bwysig i awduron newydd fel Owen Thomas, oedd yn gyfrifol am y dram芒u Grav a Carwyn.
"Os nad oes llefydd fel hyn ar gael, dyw pobl ddim yn cael cyfleon. Fe all pobl ddod yma a gwneud camgymeriadau," meddai.
Mae Mr Doran, a gafodd ei eni yn nhref Penfro, yn gyfrifol am rai o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y Torch fel One Flew Over a Cuckoo's Nest a Grav, drama sydd yn dal i gael ei pherfformio, saith mlynedd ar 么l iddi gael ei llwyfannu am y tro cyntaf.
Wrth iddo baratoi i adael ei swydd, mae Mr Doran yn dweud bod Theatr y Torch, sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 45 oed, yn "allweddol bwysig" mewn "ardal sydd wedi gweld llawer o galedi ar hyd y blynyddoedd".
Ond mae'n bryderus am y dyfodol.
"Rwy'n falch nad ydw i yn dechrau mas nawr," meddai. "Rwy'n credu bydd hi'n anodd iawn dros y blynyddoedd nesaf.
"Mae'r pandemig wedi bod yn anodd iawn i ni. Mae mynd i'r theatr yn arferiad.
"Chi angen gweld y bobl unwaith y mis, nid dwywaith y flwyddyn.
"Roedd gyda ni gynulleidfa deyrngar, ond mae'r arferiad wedi cael ei dorri, ac mi fydd hi'n cymryd tipyn o waith i gael y bobl yma n么l yn rheolaidd."
'Dim gwobr ariannol'
Yn 么l Peter Doran, mae diffyg arian yn broblem hefyd.
"Rwy'n teimlo fy mod i wedi bod yn gweithio gydag union yr un faint o arian 芒 phan ddechreuais i.
"Hyd yn oed os ydych chi yn llwyddiannus, does yna ddim gwobr ariannol.
"Mae yna lawer iawn o dalent yng Nghymru. Ry'n ni yn cynhyrchu pobl ardderchog, ond mae ariannu'r celfyddydau yn anodd."
Ei gynhyrchiad olaf wrth y llyw yw drama yn seiliedig ar nofel fawr John Steinbeck, Of Mice and Men.
Yn 么l J芒ms Thomas, sy'n chwarae'r brif ran, mae'n "anrhydedd" i gael bod yn rhan o ddrama olaf Peter Doran.
"Pan wnaeth Pete ofyn i fi wneud o'n i'n teimlo bach o bwyse. Mae yna lot o gyfrifoldeb.
"Mae 'da fe'r talent 'ma i gael y gorau mas o bobl trwy gael nhw i ymlacio."
Mae Mark Henry Davies wedi bod yn actio'n broffesiynol am flwyddyn, a fe sydd yn chwarae rhan Lennie Small.
"M'ond graddio o coleg wnes i flwyddyn yn 么l, so o'dd Peter ar y bucket list i fi.
"Mae gweithio yn Theatr y Torch a cael bod yna reit ar y diwedd, yn ei ddrama olaf, wel mae hwnna yn deimlad sbesial."
'Rhyfeddol' treulio 46 mlynedd ym myd y theatr
Yn 么l Peter Doran, un o'r heriau mawr wrth lwyfannu cynhyrchiad fel Of Mice and Men yw diffyg staff technegol.
"Mae'n broblem enfawr. Mae'r Coleg Cerdd a Drama yn cynhyrchu staff cefn llwyfan, ond maen nhw i gyd yn mynd i weithio ar gynyrchiadau teledu a ffilm, sydd yn talu yn well.
"Dyw llwyfannu drama fel hon ddim yn rhwydd bellach, ac mae'n rhaid chwilio am d卯m."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod nhw wedi yn ddiweddar i hyfforddi pobl yn y diwydiannau creadigol.
Wrth iddo adael ei swydd, mae Mr Doran yn dweud ei fod yn edrych n么l gyda balchder ar y cynllun gwerth 拢6m i drawsnewid Theatr y Torch yn 2008, ac ar gynyrchiadau llwyddiannus.
"Rwy'n meddwl taw One Flew Over a Cuckoo's Nest oedd y cynhyrchiad mwyaf llwyddiannus. Mae pobl yn dal i siarad amdano.
"Grav sydd wedi para hiraf. Mae'r ddrama wedi bod i Efrog Newydd a Washington, ac ry'n ni mewn trafodaethau i fynd 芒 hi i Adeilaide yn Awstralia. Mae hi wedi bod yn siwrne anhygoel."
Dywed ei fod e'n teimlo'n ffodus iawn i fod wedi treulio ei yrfa gyfan, fwy neu lai, ym myd y theatr.
"Mae'n rhyfeddol fy mod i wedi treulio 46 o flynyddoedd ym myd y theatr, fel bachgen dosbarth gweithiol o Benfro. Rwy'n gobeithio y gall unrhyw un gyflawni'r un peth."
Olynydd Peter Doran yn y swydd fydd Chelsey Gillard. Bydd hi'n dechrau yn ei r么l yn yr hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022