91热爆

Lansio llinell gymorth iechyd meddwl 111 Cymru

Menyw ifanc ofidusFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gall pobl sy'n wynebu problem iechyd meddwl brys yng Nghymru bellach ffonio llinell gymorth am ddim y Gwasanaeth Iechyd.

Mae modd defnyddio'r gwasanaeth ar unrhyw adeg trwy ffonio 111 a dewis opsiwn dau.

Mae gweinidogion yn gobeithio y bydd yn opsiwn gwahanol i nifer sydd ar hyn o bryd yn mynychu adrannau brys ysbytai neu'n galw'r heddlu.

Mae'r gwasanaeth wedi bod yn cael ei ehangu'n raddol ers iddo gael ei lansio fis Tachwedd, a hyd yma mae wedi derbyn dros 15,000 o alwadau.

Bydd unrhyw un sy'n ffonio'r rhif yn cael eu trosglwyddo i aelod o'u t卯m iechyd meddwl lleol, sy'n gallu awgrymu gwasanaethau eraill os oes angen, neu roi cyngor dros y ff么n.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth gwerth 拢6m yn rhoi pobl mewn cyswllt 芒 "gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol" heb fod angen eu cyfeirio gan feddyg teulu.

Ychwanegodd y llywodraeth fod mwyafrif y galwadau sydd wedi'u derbyn hyd yma wedi cael eu datrys "drwy roi cyngor ar hunanreolaeth neu drwy eu hatgyfeirio at grwpiau trydydd sector lleol".

Cafodd lleiafrif o alwyr eu hatgyfeirio at wasanaethau gofal iechyd meddwl brys.

Mae dros 140 o staff yn gweithio i'r gwasanaeth, ond mae'r cyhoedd yn cael eu cynghori i alw 999 os oes yna fygythiad i fywyd.

Trawsnewid

Dywedodd dirprwy weinidog iechyd meddwl Cymru, Lynne Neagle, y bydd y gwasanaeth yn "trawsnewid y ffordd y mae'r GIG yn ymateb i faterion iechyd meddwl brys - a gall unrhyw un gael mynediad ato, ar unrhyw adeg, ac o unrhyw ran o Gymru".

鈥淩ydym yn gwybod bod angen i bobl siarad 芒 gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol weithiau fel y gallant siarad am eu problemau a chael y cymorth cywir p'un a yw hyn yn golygu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl y GIG, gofal sylfaenol, gwasanaethau gwirfoddol lleol neu gyngor ar hunanofal," meddai.

Pynciau cysylltiedig