'Pwy sy'n siarad 芒 Dad a gofyn os yw'n OK?'
- Cyhoeddwyd
Gyda bron i bedwar ymhob deg o dadau newydd yn poeni am eu hiechyd meddwl, mae yna ymdrechion i ddod 芒 thadau at ei gilydd - i sgwrsio a mynd am dro.
Mae gr诺p o'r fath eisoes wedi'i sefydlu ym Mhont-y-p诺l yn Nhorfaen ac wythnos nesaf fe fydd tadau ym M么n yn cael cyfle i gwrdd a dechrau cyd-gerdded hefyd.
Fe ddangosodd arolwg gan fenter gymdeithasol Dadpad fod 38% o dadau yn poeni am eu hiechyd meddwl ac maen nhw'n dweud y bydden nhw'n croesawu rhagor o gefnogaeth.聽
Dywed Llywodraeth Cymru bod ymdrechion ar y gweill i gynnig mwy o gefnogaeth a gwybodaeth i dadau a phartneriaid.
Fe all cyfarfod 芒 thadau eraill fod yn fuddiol iawn ym marn James Sutherland, un o drefnwyr Gr诺p Tadau M么n, sydd hefyd yn swyddog gyda 91热爆start Cymru - mudiad sy'n hybu lles teuluoedd.
"Ar hyn o bryd mae 'na gymaint o falchder efo tadau, maen nhw i fod yn macho a phob dim... Dan ni isio cael dros hwnna a jyst cael allan, cael chat bach a dwi'n gwbod mae'n fwy haws jyst sefyll efo rhywun ochor yn ochor, ddim yn wynebu nhw a jyst mynd am dro a chael free flow chat am beth bynnag maen nhw isio siarad am," meddai.
Mae Uned Cefnogi Teuluoedd M么n yn gefnogol iawn o'r gr诺p cerdded.
'Pwy sy'n siarad 芒 Dad?'
Cydlynydd Prosiect Braenaru'r Blynyddoedd Cynnar ar Gyngor M么n ydy Kimberley Coll ac meddai: "Dwi'n meddwl mai o wastad wedi bod yna [y straen] a dwi'n meddwl bod 'na sylw eithriadol r诺an yn cael ei roi a dwi'n cytuno y dyla 'na fod sylw ar hyn, a dwi'n meddwl wrth weithio efo'r teulu cyfan, dyna ydy'r best outcome i'r plentyn.
"Mae hynny'n ffaith ychwanegol, pobol yn gorfod mynd i'r gwaith yn fwy cynnar, felly mae 'na gymaint o ffactorau sydd yn gallu tarfu ar iechyd meddwl y tad neu'r fam, neu'r carer in general," ychwanegodd.聽
Mi fydd mab James Sutherland yn naw oed dros y dyddiau nesaf, ac fel pob tad arall, mae wedi dysgu ar hyd y daith.聽
"D诺ad 芒 phlentyn bach i'r byd... mae'n galed eniwe ond mae 'na lwyth o betha'n mynd efo fo.
"Ar 么l y ddwy wythnos yn bod adra efo'r mab bach, a'r tadau'n gorfod mynd n么l i'r gwaith a gadael y fam i wneud pob dim.
"Felly mae hwnna'n mynd i effeithio massive impact ar Mam fanna. Felly mae'n bwysig i iechyd meddwl Mam hefyd.
"Felly dwi'n meddwl Dad yn mynd allan i'r gwaith, gr锚t mynd yn 么l ato fo, ond pwy sy'n siarad i Dad? Pwy sydd yn gofyn 'Are you OK?'"
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn datblygu'r timau sy'n ymwneud 芒 maes iechyd meddwl rhieni yn y cyfnod cyn ac ar 么l genedigaeth plentyn, ac mae yna ymdrech i gynnig mwy o gefnogaeth a gwybodaeth i dadau a phartneriaid.
Ychwanegodd eu bod wedi'u hymrwymo i wella'r gwasanaethau hynny ac y byddan nhw'n ystyried pa gamau pellach y bydd eu hangen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2022