91热爆

Y gr诺p cerdded i ddynion sy'n helpu iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
James yn mwynhau'r awyr agoredFfynhonnell y llun, James Morgan

'Diolch am heddiw, ro'n i angen hynna'

Dyna'r ymateb sy'n codi calon trefnydd gr诺p cerdded sydd wedi ei sefydlu yng Nghaergybi i helpu gyda iechyd meddwl dynion.

I James Morgan - neu Rozzy i bawb sy'n ei adnabod - mae'r weithred syml o fynd am dro wedi ei helpu i ddelio 芒 thor-priodas yn ystod 2020, a hynny yn ei dro wedi arwain at greu'r gr诺p cerdded i roi cefnogaeth i ddynion eraill.

Ers sefydlu yn mis Hydref, mae'r gr诺p yn croesawu dynion sy'n dioddef gyda'u iechyd meddwl neu sydd eisiau rhywbeth i'w wneud a chwmni i'w cael nhw allan o'r t欧 a mynd am dro yn yr awyr iach yn ardal Caergybi.

"Mae 'na rai oedd 芒'u hiechyd meddwl yn hollol iawn ym mis Mawrth," meddai James, "ond pan mae'n fater o fyw drwy locdown pan mae'n rhaid i bobl aros adref, neu ynysu am fod y plant yn gorfod bod adref, mae'n tynnu pobl i lawr ac mae'n effeithio ar sut mae pobl yn teimlo."

Mae'r mathau o straen sydd wedi cyfuno i effeithio ar y dynion yn cynnwys mynd ar ffyrlo, diweithdra a wynebu cyfrifoldebau teuluol fel babi newydd ar 么l colli gwaith.

Torri'r diwrnod

Roedd y cyfnod clo cyntaf yn anodd i bawb ond fe chwalodd priodas James, sy'n 32 mlwydd oed, yn y cyfnod yma ac fe wahanodd ei wraig ac yntau ym mis Mai wedi 14 mlynedd gyda'i gilydd.

Roedd yn gyfnod anodd iddo, meddai, ond yn lle "eistedd o gwmpas yn meddwl am y peth" dechreuodd fynd i gerdded.

"Ro'n i'n ffeindio fod hynny'n help mawr. Roedd yn torri'r diwrnod, yn fy stopio rhag meddwl am y peth.

"Yn ystod y locdown cyntaf, pan ddywedon nhw y gallech chi fynd am dro mi fyddwn i'n mynd ar ben fy hun neu efo'r plant ac ro'n i'n tynnu lluniau.

"A phan es i n么l i'r swyddfa ym mis Mehefin mi ddywedodd ambell un eu bod nhw wedi gweld fy lluniau ac y bydden nhw'n awyddus i fynd am dro eu hunain. Felly mi dyfodd o'r fan honno."

Ffynhonnell y llun, James Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arfordir o gwmpas M么n yn cynnig digonedd o lwybrau i glirio'r pen

Cyfarfod i siarad

Dechreuodd fynd am dro o'r gwaith gyda'i gydweithwyr.

Mae James yn gweithio i MonCF, elusen a chwmni lleol a sefydlwyd i gefnogi ardaloedd mwyaf difreintiedig Ynys M么n ac sy'n helpu pobl leol i fagu sgiliau a chael gwaith.

Datblygodd ei syniad syml o fynd am dro i fod yn gyfle i helpu pobl eraill drwy ei waith gyda grwpiau cymunedol lleol.

"Roedden ni'n cynnal gr诺p llywio un diwrnod, ac yn un o'r rheiny dywedodd un ddynes yn y gr诺p bod ei mab yn mynd drwy amser anodd; roedd newydd golli un o'i ffrindiau i hunan-laddiad ac roedd hi'n teimlo fod y gefnogaeth i iechyd meddwl yn Ynys M么n yn wael iawn, a gofynnodd a oedd 'na rywbeth ar gael iddo fo?

"Felly wnes i gynnig beth am gr诺p cerdded lle allwn ni fynd am dro, unwaith yr wythnos a jyst siarad?"

"Felly mi wnaethon ni sefydlu'r gr诺p yma i ddynion ac mae'r ymateb wedi bod yn wych. Mae elusen Alzheimer's wedi ffonio i holi amdano fel rhywbeth allai helpu cleifion 芒 dementia ac rydyn ni wedi cael asiantaethau dros yr ynys yn cysylltu achos does 'na ddim byd yn benodol ar gyfer dynion."

Ond pam gr诺p ar gyfer dynion yn unig?

Ffynhonnell y llun, James Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dechrau cerdded yn golygu bod James wedi darganfod llwybrau newydd ym M么n ac yn Eryri

"Be' dwi wedi ei ffeindio ydy os oes gan ddyn broblemau iechyd meddwl, neu symptomau sy'n ei boeni neu unrhyw beth fel'na, wneith o ddim wir siarad am ei broblemau o flaen criw o fenywod.

"Felly wnaethon ni feddwl gwneud y gr诺p jyst i ddynion.

"Ond, oherwydd hynny, wnaeth un wraig gysylltu yn gofyn a fyddai hi'n cael dod am dro. Felly dwi wedi bod am dro efo hi fy hun a s么n wrthi am y syniad yma o gr诺p i ddynion a r诺an mae hi wedi bod mewn i'n gweld ni er mwyn sefydlu gr诺p cerdded i fenywod.

"Fe ddechreuodd jyst fel syniad ond mae faint o bobl sydd wedi cysylltu ac sydd eisiau bod yn rhan ohono fo, neu gyfeirio pobl ato yn wych - mae wir yn helpu."

'Siarad yr holl amser'

Dydi'r dynion sy'n cyfarfod ddim eisiau cael tynnu eu lluniau ond mae pedwar neu bump yn cyfarfod yn rheolaidd bob wythnos ac mae'r sgwrs yn llifo bob tro, meddai James.

"O'r eiliad rydyn ni'n dechrau tan y munud rydyn ni'n cyrraedd n么l mae 'na jyst sgwrs yn digwydd, pobl yn siarad efo'i gilydd; mae rhai yn siarad am eu problemau, eraill yn siarad am eu gorffennol, a rhai pobl yn siarad am beth maen nhw wedi ei wylio ar teledu.

Ffynhonnell y llun, James Morgan

"Ac maen nhw i gyd yn dweud 'diolch am heddiw, ro'n i angen hynna'. A dyna holl bwrpas y peth.

"Yn amlwg mae ymarfer corff yn help, ac yna'r sgwrsio, mae'r bobl sy'n dod yn gwybod y gallan nhw siarad a'i fod yn lle saff a does neb yn mynd i adael y gr诺p cerdded a mynd i ddweud beth maen nhw wedi ei glywed wrth rywun arall, mae jyst yn neis."

Gan mai tu allan mae'n digwydd mae'n rhywbeth maen nhw wedi gallu ei gynnal dan amodau anodd y cyfnodau clo drwy gadw at reolau Covid Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, James MOrgan

Maen nhw'n cyfarfod bob dydd Iau tu allan i un o dafarndai tref Caergybi ac wedyn yn trafod ble i fynd neu'n dilyn eu trwynau. Mae'r daith yn para tua dwy awr ac mae 'na baned ar y diwedd.

"Rydyn ni fel arfer yn mynd tuag at y m么r," meddai James, gyda thraeth Newry, Bae Trearddur a Phenrhos yn lefydd poblogaidd.

"I mi mae am edrych ar 么l ein lles - rydych chi'n teimlo'ch bod wedi gallu gwneud rhywbeth efo'ch diwrnod, mae'n gwneud i chi deimlo'n well, mae'n braf mynd allan a chael ymarfer corff. A r诺an mae'n braf gwybod ei fod yn helpu pobl eraill hefyd."

Hefyd o ddiddordeb: