91热爆

Katherine Jenkins: 'Hanfodol cefnogi'r celfyddydau Cymreig'

Katherine Jenkins
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Katherine Jenkins yn perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni - 18 mlynedd ar 么l perfformio ar lwyfan y pafiliwn am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'n hanfodol fod y celfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi, meddai'r gantores Katherine Jenkins.

Bu'n siarad tra'n ymweld 芒 phafiliwn Llangollen cyn ei chyngerdd i gloi'r Eisteddfod Ryngwladol yno ar 7 Gorffennaf.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i'r eisteddfod, gyda phroblemau ariannol a chostau cynyddol yn peryglu dyfodol yr 诺yl.

Cafodd digwyddiadau eu gohirio oherwydd Covid, ac roedd siom yn nifer y tocynnau a gafodd eu gwerthu llynedd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Fyswn i ddim yma heddiw os na fyswn i wedi cael yr holl gyfleoedd fel canwr ifanc," meddai Ms Jenkins

Ond mae Ms Jenkins yn rhan o'r criw fydd yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau ym Mehefin a Gorffennaf, er mwyn dod 芒 chynulleidfaoedd newydd i'r 诺yl.

Bydd Tom Jones, Nile Rodgers, Manic Street Preachers a Paloma Faith yn perfformio eleni.

Dywedodd Katherine Jenkins fod y celfyddydau, cerddoriaeth a theatr yng Nghymru yn rhan o'n "hunaniaeth genedlaethol".

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n hynod o bwysig ein bod yn parhau i wneud yn si诺r bod artistiaid y dyfodol yn cael eu cefnogi, fod plant yn cael profi'r pethau hyn mor ifanc.

"Fyswn i ddim yma heddiw os na fyswn i wedi cael yr holl gyfleoedd fel canwr ifanc.

"Dwi'n meddwl fod gwyliau, eisteddfodau, mor bwysig. Mae'n rhoi'r cyfle i bobl ddod at ei gilydd."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y mezzo-soprano ei bod "wrth ei bodd" i allu cefnogi'r eisteddfod wrth berfformio yma am y trydydd tro

Yn ddiweddar fe wnaeth y mezzo-soprano arwyddo llythyr i'r prif weinidog, Vaughan Gething, ynghyd 芒 phobl fel Syr Bryn Terfel a Michael Sheen, yn beirniadu'r toriadau i Opera Cenedlaethol Cymru (OCC).

Dywedodd ei bod "wrth ei bodd" i allu cefnogi Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wrth berfformio yma am y trydydd tro, 18 mlynedd ar 么l iddi berfformio ar lwyfan y pafiliwn am y tro cyntaf.

Eleni bydd yr Eisteddfod Ryngwladol - a gafodd ei sefydlu i hyrwyddo heddwch rhyngwladol ac ewyllys da yn dilyn yr Ail Ryfel Byd - yn 77 oed.

Mae disgwyl i 3,000 o gystadleuwyr gymryd rhan, o 30 o wledydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "trafferthion ofnadwy" wedi bod gyda'r eisteddfod, meddai Elen Roberts

Dywedodd y Cyfarwyddwr artistig, Dave Danford, eu bod wedi "mynd amdani" o ran cael artistiaid rhyngwladol, ond dywedodd bod yr eisteddfod wrth galon y cyfan.

"Mae wastad wedi bod yn bwysig i gael y cymysgedd rhwng y cystadleuwyr,

Dywed Elen Roberts sy'n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fod yna "drafferthion ofnadwy" wedi bod gyda'r eisteddfod "tua diwedd blwyddyn ddiwethaf".

Aeth ymlaen i esbonio bod yr eisteddfod wedi "mynd mewn i bartneriaeth efo cwmni Kyffin Taylor ac maen nhw wedi gallu dod ag artistiaid anferthol i'r dref i wneud y cyngherddau" a hyn er mwyn "ceisio achub yr eisteddfod".

Ond er yr enwau mawr fydd yn cymryd rhan yn yr eisteddfod, dywedodd eu bod wedi "bod yn ofalus iawn i 'neud yn si诺r bod yr eisteddfod ei hun" wrth wraidd y cyfan.

Dywedodd bod y ffaith bod "cymaint mwy yn dod atom i gystadlu" yn dangos llwyddiant eu hyrwyddo eleni.