91热爆

Gr诺p ffermio llywodraeth i ailedrych ar reol coed

Protest ffermwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi sbarduno protestiadau yn ystod y misoedd diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae gr诺p yn cael ei sefydlu i helpu Llywodraeth Cymru gyda system cymorthdaliadau i ffermwyr, gyda chais i ailedrych ar y rheol am orchudd coed.

Mae'r cynllun dadleuol newydd, sy'n gofyn i ffermydd gael coed ar 10% o'u tir i fod yn gymwys am arian yn y dyfodol, wedi sbarduno protestiadau yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig newydd, wedi cyhoeddi ei fod yn sefydlu gr诺p i weithio ar y cynllun yma a materion eraill.

Dywedodd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i "barhau i wrando" a "gweithio gyda" ffermwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Irranca-Davies wedi sefydlu gr诺p i weithio ar y cynllun cymhorthdal a materion eraill

Mewn datganiad ysgrifenedig ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn gwahodd undebau ffermio a grwpiau eraill 鈥渟ydd 芒 diddordeb mewn sicrhau diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru鈥 i fod yn rhan o 鈥淔ord Gron Gweinidogol ar yr SFS".

Ei dasg gyntaf fydd edrych ar "ystyried unrhyw syniadau eraill ac amgen ar sut y gellid defnyddio鈥檙 SFS i ddal a storio rhagor o garbon".

Mae llawer o ffermwyr wedi dadlau bod y cynllun cymhorthdal 鈥嬧媝resennol yn rhoi gormod o bwyslais ar goed fel ffordd o amsugno a storio carbon deuocsid.

Mae sefydliadau amgylcheddol yn dweud bod Cymru'n un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop a bod mwy o goed yn hanfodol i helpu ffermydd i addasu i heriau newid hinsawdd - megis mwy o law a hafau poethach, yn ogystal 芒 darparu cynefin i fywyd gwyllt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gofyn i bob fferm sicrhau bod 10% o'r tir 芒 choed arno er mwyn cael arian yn y dyfodol wedi bod yn hynod ddadleuol

Dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn fater "pwysig sy鈥檔 ennyn cymaint o deimladau" a'i fod yn disgwyl i'r rhai sy'n ymwneud 芒'r cyfarfod i "ganolbwyntio ar y dystiolaeth ar gyfer gweithredoedd i'n helpu i ddal a storio rhagor o garbon ac i ystyried maint y cyfle sydd yma yng Nghymru

Mae wedi addo cyhoeddiad pellach ar 14 Mai ar y "datblygiadau diweddaraf i鈥檙 SFS a sut dwi鈥檔 cynnig i bethau fynd yn eu blaen".

Fel mae'n sefyll, mae disgwyl i鈥檙 cynllun cymhorthdal 鈥嬧媙ewydd gael ei gyflwyno o fis Ebrill 2025.

'Rhaid i ni ei gael yn iawn'

Mae undeb NFU Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd gr诺p newydd yn cael ei sefydlu i asesu'r cynllun, gan ddweud bod eu llywydd Aled Jones wedi gwneud cais am sefydliad o'r fath tra'n cyfarfod y llywodraeth fis Chwefror.

鈥淩haid i ni gael yr SFS yn iawn," meddai Mr Jones wedi'r cyhoeddiad ddydd Gwener.

鈥淣i all teuluoedd sy'n ffermio na鈥檙 llywodraeth fforddio cael cynllun sy鈥檔 methu 芒 chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer yr economi wledig, bwyd, natur a'r hinsawdd.

"Rhaid i鈥檙 cynllun weithio i bob ffermwr 鈥 pob math o fferm, sector a rhanbarth, yn ogystal 芒 ffermwyr tenant a鈥檙 rhai sydd 芒 thir comin.

鈥淩haid i鈥檙 cynllun sicrhau sefydlogrwydd i fod yn sail i gynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd ffermio, ein cymunedau, ein hiaith a鈥檔 diwylliant ar gyfer ein cenhedlaeth ni a鈥檙 rhai sy鈥檔 ein dilyn.鈥

Dywedodd corff amgylcheddol WWF Cymru ei bod yn hollbwysig fod unrhyw gynlluniau i amsugno carbon yn "sicrhau manteision i鈥檙 hinsawdd, natur a lles anifeiliaid".

"Gall coed fod yn ffordd wych o sicrhau manteision lluosog ar i ffermydd oherwydd eu bod nid yn unig yn storio carbon ac yn creu cartref i natur, ond maent hefyd, yn darparu cysgod i dda byw, yn helpu i leihau llygredd afonydd, ac yn lleihau effaith digwyddiadau tywydd eithafol megis llifogydd," meddai llefarydd.

"Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu opsiynau ar gyfer dal a storio carbon ochr yn ochr 芒 choed, fel gwella iechyd y pridd, mae angen sicrhau bod y dystiolaeth yn seiliedig ar wyddoniaeth i鈥檔 helpu i gyrraedd ein targedau hinsawdd a natur a gwella lles anifeiliaid, gan sicrhau鈥檙 gwerth gorau am arian i鈥檙 trethdalwr."