'Dim oedi' cynllun amaeth ond gweinidog newydd 'yn gwrando'
- Cyhoeddwyd
Fydd dim oedi wrth gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 么l gweinidog materion gwledig newydd Cymru.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi i'r swydd fis Mawrth, mae Huw Irranca-Davies yn mynnu y gall y "materion cymhleth" wrth wraidd yr anghydfod gael eu datrys.
Mae protestiadau lu wedi bod yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth, sydd i fod i gael ei gyflwyno fis Ebrill 2025.
Y prif wrthwynebiad yw'r orfodaeth i dyfu coed ar 10% o'u tir, ac mae Mr Irranca-Davies yn dweud ei fod yn "edrych i weld pa syniadau eraill sydd allan yna".
Cafodd Huw Irranca-Davies ei benodi鈥檔 ysgrifennydd dros newid hinsawdd a materion gwledig fel rhan o d卯m newydd Vaughan Gething, gan gymryd lle Lesley Griffiths fu鈥檔 gyfrifol am amaeth am saith mlynedd.
Mae sylw mawr wedi bod ar y swydd yn ddiweddar gyda miloedd o ffermwyr yn protestio ar draws Cymru yn erbyn newidiadau i bolis茂au ffermio yn sgil Brexit, yn ogystal 芒 phryderon am TB mewn gwartheg a rheoliadau cryfach ar lygredd o amaeth.
Galwodd ffermwyr am ail-osod y berthynas gyda鈥檙 llywodraeth.
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Mai
Dywedodd Mr Irranca-Davies mai ei gyfarfod swyddogol cyntaf 芒鈥檙 prif weinidog newydd oedd gyda鈥檙 undebau amaeth, a dywedodd bod 鈥渃ytundeb ar lawer o鈥檙 fframwaith a鈥檙 ffordd ymlaen鈥.
鈥淩wy鈥檔 gwybod bod ewyllys da a llawer o syniadau da yn y gymuned amaethyddol ac eraill i鈥檔 harwain ni at ddyfodol gwell, mwy cynaliadwy i ffermio 鈥 cynaliadwy i fusnesau a鈥檙 amgylchedd,鈥 meddai.
Ond dywedodd bod galwadau i roi stop ar y cynllun neu oedi 鈥測 peth gwaethaf allwn ni wneud鈥.
鈥淏eth sydd rhaid i ni wneud yw cydnabod yr angen am sicrwydd i ffermwyr鈥, meddai.
'Neb yn gwrando'
Tri pheth sydd angen i'r gweinidog fynd i'r afael 芒 nhw yn 么l Garry Williams o fferm Blaencennen yn Sir G芒r - y polisi amaeth newydd, TB mewn gwartheg a rheoliadau llygredd afonydd.
"Mae cefn gwlad Cymru mor anhapus gyda'r llywodraeth ar hyn o bryd," meddai'r ffermwr, sy'n un o'r rhai wnaeth drefnu protestiadau yng Nghaerfyrddin.
"'Sdim amser 'da ffermwyr protestio, ma' digon o waith 'da nhw gatre," meddai.
"Ma' ffermwyr yn teimlo bod neb o ochr y llywodraeth yn gwrando arnyn nhw.
"Maen nhw ofn be' sy'n mynd i ddod yn y dyfodol. Maen nhw ofn am eu ffermydd nhw. Maen nhw ofn am eu hardal nhw, lle maen nhw wedi cael eu geni."
Wrth drafod yr angen i ffermwyr gael coed ar 10% o鈥檜 tir, dywedodd Mr Irranca-Davies bod y llywodraeth 鈥測n gwrando鈥 ac yn 鈥済weld pa syniadau eraill sydd allan yno鈥.
鈥淩han nesaf y broses yw mynd ymlaen gyda鈥檙 holl randdeiliaid eraill yng Nghymru 鈥 ble mae鈥檙 ffyrdd y gallwn ni symud ymlaen yn fwy creadigol mewn meysydd eraill er mwyn cyflawni鈥檙 un uchelgais,鈥 meddai.
Wrth drafod TB mewn gwartheg dywedodd Mr Irranca-Davies nad oedd bwriad ganddo gyflwyno cynllun lladd moch daear fel mae rhai ffermwyr yn annog.
Dywedodd ei fod wedi gwrando ar bryderon ffermwyr am reoleiddio llymach i daclo llygredd amaeth ac wedi gwneud newidiadau.
Ond mae鈥檔 mynnu bod afonydd glanach yn 鈥渉ollol hanfodol鈥.
Mae hynny'n newyddion da i Oisin Lowe-Sellers o Ymddiriedolaeth Afonydd Cymru, sydd am i unrhyw gynllun ffermio fod yn gynaliadwy i'r economi, y gymdeithas a'r amgylchedd.
Fel un sy'n gweithio tu allan mae'n ymwybodol iawn o'r holl law diweddar ac arwyddoc芒d hynny.
"Dyna be' 'da ni鈥檔 disgwyl i ddigwydd yn fwy aml," meddai. "Hefyd yn yr haf fydd 鈥榥a fwy o sychder o flwyddyn i flwyddyn.
"Felly mae o mor bwysig cael rheolaeth tir cynaliadwy yn ei le i sicrhau ein bod ni鈥檔 lleihau y risg o鈥檙 llygredd. Ond hefyd i gefnogi ffermwyr."
Mewn datganiad ar wahan ddydd Llun, dywedodd Mr Irranca-Davies y bydd "cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol" a bod angen gweithredu.
"Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau nawr i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.鈥
Yn siarad gyda'r 91热爆, mynnodd y bydd yn 鈥減arhau i weithio鈥 gyda鈥檙 ffermwyr.
鈥淥nd fy neges i ffermwyr 鈥 fel gyda nifer o鈥檙 heriau mawr yma sydd ganddom ni 鈥 yw y byddwn ni gyd yn elwa o wella safon ein hafonydd ni.
鈥淓drychwch ar enw da rhyngwladol Cymru wedi鈥檌 seilio ar les anifeiliaid, safonau cynhyrchu uchel a鈥檙 erwau gwyrdd, hyfryd tu allan.
鈥淢ae鈥檔 dod o鈥檙 hyn rydym ni鈥檔 gwneud i鈥檔 tir a鈥檔 hafonydd a phopeth arall,鈥 meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror