Galw ar Lywodraeth y DU i helpu'r sector awyrennauwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020
Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi cymorth i'r diwydiant hedfan yng Nghymru ar "raddfa fawr" yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
Dywedodd Mr Skates mai dim ond nhw sydd â'r adnoddau i helpu'r sector, sydd wedi cael ei tharo'n galed yn ystod y pandemig coronafeirws.
Daw hyn wrth i British Airways ddechrau proses ymgynghori ar 399 o ddiswyddiadau mewn tri safle yn ne Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.