Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreCyngor i hunan-ynysu os yn methu blasu neu arogli
Galw am gydweithio'n agos gyda chenhedloedd y DU i ddelio â'r coronafeirws
Mark Drakeford: Feirws wedi amlygu 'cryfder' datganoli
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read More91Èȱ¬ Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r diweddaraf am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.
Diolch am ddarllen. Arhoswch yn ddiogel. Hwyl i chi am y tro.
Mae aelodau o'r pumed llu yng Nghymru - Heddlu Trafnidiaeth Prydain - wedi bod yn cynorthwyo'u cydweithwyr yn Llundain heddiw oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r rheilffyrdd yn rhai o brif orsafoedd Llundain.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod porth ar y we fyddai wedi caniatau i bobl Cymru archebu prawf coronafeirws wedi costio tua £40,000.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r gwaith gan gwmni Amazon Web Services, ond maen nhw bellach wedi ymuno gyda chynllun ar draws y DU yn lle hynny.
Dros y penwythnos dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, nad oedd am "son am faint ydyn ni wedi gwario ar ddatblygu porth gwahanol ar unrhyw adeg".
Cyngor Caerdydd
Bydd y casgliadau wythnosol o ddeunydd y gellir eu hailgylchu a gwastraff bwyd oddi ar ymyl y ffordd yn dychwelyd yng Nghaerdydd o 1 Mehefin.
Ond mae’r casgliadau o wastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r arbrawf gyda photeli a jariau gwydr yn dal wedi’u gohirio nes y nodir yn wahanol.
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor: "Gofynnir i breswylwyr ddechrau defnyddio eu cadis bwyd brown ar ymyl y ffordd unwaith eto o'r dyddiad hwn, a gwneud yn siŵr bod eu holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn mynd i mewn i'w bagiau gwyrdd i'w casglu. Bydd gwastraff a gesglir yn y bin du neu fagiau streipiau coch yn cael ei gasglu bob pythefnos."
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Rwy'n deall y gall fod rhywfaint o bryder nad yw'r gwasanaeth cyflawn a gynigiwyd gennym cyn y cyfnod cloi yn ddigon parod i ddychwelyd eto, ond gofynnaf i bawb fod yn amyneddgar â ni."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd yn y gynhadledd ddyddiol oed yr Athro Jonathan Van Tamm, a dywedodd:
"Mae'n bosib y bydd rhaid i ni fyd gyda'r feirws yma am flynyddoedd lawer.
"Fydd dim dychwelyd i normalrwydd tan y bydd brechlyn i'r feirws yma, a rhaid i ni sicrhau bod unrhyw frechlyn yn driniaeth effeithiol."
Ychwanegodd Mr Raab na fyddai camau pellach i lacio cyfyngiadau yn Lloegr yn digwydd cyn 1 Mehefin.
Yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab sy'n arwain cynhadledd ddyddiol llywodraeth y DU heddiw.
Ei dasg gyntaf oedd cadarnhau bod 160 yn rhagor wedi marw gyda Covid-19 ar draws y DU.
Mae cyfanswm y meirw bellach yn 34,796.
Fydd Y Gelli ddim yn denu'r torfeydd eleni ond bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein.
Read MoreCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Gwynedd
Mae swyddogion o Gyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu edrych ar y grymoedd deddfwriaethol sydd ganddyn nhw, a hynny mewn ymateb i achosion lle mae pobl wedi teithio i ail gartrefi yn y sir yn groes i reolau Covid-19.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Yn sgil penderfyniad y Prif Weinidog yng Nghymru i beidio a deddfwriaethu ymhellach, ac yn sgil datganiadau yn y wasg leol gan yr heddlu am y diffyg hawliau sydd ganddynt i ymdrin â rhai sydd wedi dewis anwybyddu’r rheolau i beidio â theithio o’u cartrefi arferol i’w hail gartref, mae Prif Weithredwr y Cyngor wedi gofyn i’r Uned Gyfreithiol ystyried pa newidiadau deddfwriaethol fyddai eu hangen i gryfhau ein gallu i ymdrin â rhai sydd yn dewis anwybyddu’r rheolau yn y fath fodd.
"Pan fydd y wybodaeth hwnnw ar gael byddwn yn ystyried y gwahanol ddewisiadau o ran cryfhau’r ddeddfwriaeth a sut i fynd a’r mater ymlaen, boed hynny ar y cyd gyda chynghorau eraill neu ar ben ein hunain."
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae un o uwch swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud fod gogledd y wlad yn cyrraedd 'pegwn y pandemig' erbyn hyn.
Dwedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymuned y bwrdd iechyd:
"Mae'n ymddangos ein bod yn cyrraedd pegwn y pandemig yma yng ngogledd Cymru ac rydym nawr yn disgwyl gweld yr achosion yn gwastadhau.
"Mae hyn yn adlewyrchu'r patrwm o sut mae'r feirws wedi ymledu yng Nghymru a'r oedi yn yr ymlediad yma o dde ddwyrain o ogledd orllewin Cymru.
"Rydym wedi cymryd nifer o fesurau i sicrhau ein bod wedi ein paratoi'n dda ar gyfer cynnydd mewn nifer yr achosion o Covid-19, gan gynnwys cynyddu capasiti gwelyau yn ein hysbytai a sefydlu ein tri Ysbyty Enfys ar fyr rybudd.
"Fel mae pethau ar hyn o bryd nid ydym yn disgwyl y bydd angen y gwelyau dros dro yma am nifer o wythnosau."
Yng nghanol yr holl newyddion drwg sy'n codi yn ystod y pandemig cornafeirws, mae'n braf cael adrodd am ambell stori sy'n siŵr o godi gwên. A dyma un gan ITV Cymru - am hanes Max y Llama yn llamu i gynnig cymorth i drigolion pentref ym Mhenfro.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
91Èȱ¬ Cymru Fyw
Mae gweinidog iechyd Lloegr Matt Hancock wedi cyhoeddi yn San Steffan y bydd pawb yn y DU dros 5 oed sydd yn dangos symptomau o Covid-19 yn gymwys i gael prawf yn fuan.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, gweithwyr hanfodol, cleifion ysbytai a phreswylwyr a staff cartrefi gofal sydd yn gallu derbyn profion, ac mae'r un sefyllfa yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon.
Yn yr Alban a Lloegr, gweithwyr hanfodol, cleifion ysbytai a phreswylwyr a staff cartrefi gofal, pobl dros 65 oed a phobl sy'n gorfod gadael eu cartref i weithio sy'n gymwys i dderbyn profion.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae dyn 48 oed wedi ei garcharu am chwe mis heddiw am dorri gorchymyn llys ac am boeri ar heddwas.
Fe wnaeth Steven Paul Johnson ymddangos yn y llys Yr Wyddgrug yn gynharach.
Digwyddodd y troseddau ym Mangor yr wythnos diwethaf.