1 o bob 3 marwolaeth mewn cartref gofalwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020
Yn ôl ffigyrau diweddara y Swyddfa Ystadegau (ONS), mae 1,641 o farwolaethau yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â coronafeirws.
Mae'r ffigyrau wythnosol diweddaraf ar gyfer yr wythnos yn gorffen ar 1 Mai.
Roedd 281 o farwolaethau yn ystod yr wythnos yn ymwneud â Covid-19 - 30% o'r holl farwolaethau yng Nghymru.
Roedd un o bob tri o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal.