Galw am gyflog cyfartal i weithwyr gofalwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020
Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am dâl ac amodau gwell i weithwyr gofal.
Read More11 o farwolaethau dydd Gwener gan fynd â'r cyfanswm i 506
244 o achosion newydd - cyfanswm o 6,645 bellach yng Nghymru
Llywodraeth Cymru'n barod i barhau gyda chyfyngiadau hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu llacio mewn rhannau eraill o'r DU
Pryder y gall perchnogion ail gartrefi hawlio grantiau busnes oherwydd Covid-19
Ymchwil gan Brifysgol Abertawe'n awgrymu bod ymbellhau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl
Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am dâl ac amodau gwell i weithwyr gofal.
Read MoreMae negeseuon o ddiolch wedi bod yn ymddangos ar y ffyrdd yn ardal Casnewydd.
Cafodd y negeseuon eu paentio gan gwmni Roman Road Markings gyda chaniatad Cyngor Dinas Casnewydd.
Wrth i'r wlad barhau â'r arferiad o glapio am 20:00 bob nos Iau, dyma neges gan y gweithwyr sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn y coronafeirws. Rhys Jones, nyrs arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, sy'n gyfrifol am y lluniau.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i ddarparu eglurder am yr hyn sy'n digwydd mewn cartrefi gofal.
Wrth siarad ar Radio Wales y bore 'ma, dywedodd bod angen cynnal profion ar drigolion a staff, a hynny ar frys, a bod angen darparu offer PPE digonol i staff.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi £40m yn ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol, eu bod yn profi trigolion a staff oedd â symptomau a'u bod wedi darparu 10.4m o eitemau o PPE i weithwyr yn y sector gofal.
91Èȱ¬ Radio Wales
Mae epidemiolegydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod rhywfaint o dystiolaeth y gallai gwisgo mwgwd atal ymlediad Covid-19.
Nid yw'r DU yn argymell y dylai'r cyhoedd wisgo mygydau er bod hynny'n digwydd mewn gwledydd eraill fel Yr Almaen a'r Weriniaeth Siec.
Dywedodd Dr Chris Williams ar Radio Wale y bore 'ma: "Mae peth tystiolaeth y gallai mygydau atal ymlediad ymysg pobl sydd heb ddechrau dangos symptomau.
"Ond rhaid i ni ofalu nad yw pobl yn gweld hynny fel esgus i beidio ymbellhau'n gymdeithasol. Dylai pobl barhau i aros adre er mwyn gwarchod y GIG."
Post Cyntaf
91Èȱ¬ Radio Cymru
Ma Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn awyddus i edrych beth y gellir ei wneud i lacio'r rheolau ar fynd allan i'r awyr agored pan fydd yr estyniad ar y cyfyngiadau yn dod i ben ymhen tair wythnos.
Wrth siarad ar y Post Cyntaf, 91Èȱ¬ Radio Cymru, fe ddwedodd Mr Drakeford y byddai'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, a'r llywodraethau datganoledig eraill dros y tair wythnos nesa i weld beth mae modd ei wneud.
Ymchwil gan Brifysgol Abertawe'n dweud fod ymbellhau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl.
Read MoreLlywodraeth Cymru
Dyna oedd neges y Prif Weinidog Mark Drakeford ddoe, ac mae Llywodraeth Cymru'n ategu hynny'r bore 'ma.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
91Èȱ¬ Cymru Fyw
Mae cwpwl o Gaerdydd wnaeth anwybyddu cyngori beidio teithio i ail gartref yn Sir Benfro wedi cael eu dirwyo.
Cafodd y ddau eu stopio ger Caerfyrddin ddoe, fe welodd yr heddlu bod y car yn llawn dillad. Fe wnaethon nhw egluro'r rheolau i'r cwpwl a'u cynghori i droi am adre.
Hanner awr yn ddiweddarach fe gafodd y car ei stopio eto ger traeth poblogaidd yn Sir Benfro ac fe gafodd y ddau eu dirwyo a'u hebrwng allan o ardal Heddlu Dyfed-Powys.
91Èȱ¬ Radio Cymru
Cysylltwch drwy ffonio 03703 500500 neu ebostiwch post.cyntaf@bbc.co.uk - mae'r llinellau ar agor.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae pum cyngor sir yn galw am newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar roi grantiau i berchnogion ail gartrefi.
Dywed cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro fod rhai pobl yn manteisio ar arian sydd i fod i helpu busnesau bach yn ystod argyfwng Covid-19.
91Èȱ¬ Cymru Fyw
Mae'n ddydd Gwener, 17 Ebrill - croeso i'n llif byw dyddiol.
Rhwng nawr a tua 18:00, fe gewch chi'r holl newyddion diweddaraf am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thy hwnt.
Bore da i chi gyd.