Band Ieuenctid Beaumaris yn wynebu colli miloeddwedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020
91Èȱ¬ Cymru Fyw
Mae band pres o Ynys Môn yn wynebu colli miloedd o bunnoedd am hediadau i gystadleuaeth sydd wedi'i chanslo.
Roedd Band Ieuenctid Beaumaris wedi eu henwebu i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Band Pres Ewrop yn Palanga, Lithwania ym mis Mai.
Roedd wedi talu £9,050 fel blaendal am docynnau awyren i'w cludo yno, ond does dim modd cael yr arian hynny yn ôl am nad yw'r hediadau wedi'u canslo hyd yn hyn.
Mae cwmni awyrennau SAS yn mynnu y dylai'r band dalu gweddill yr arian am y tocynnau - £4,044 - gan wrthod cyfaddef bod yr hediadau'n debygol o gael ei chanslo.
Mae SAS yn dweud y byddai'r band yn cael ad-daliad llawn pe bai'r hediadau'n cael eu canslo.