91热爆

Crynodeb

  • Alun Cairns yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru

  • Daw wedi ffrae am yr hyn oedd Mr Cairns yn ei wybod am ddymchwel achos treisio

  • Mae'r 91热爆 yn deall y bydd yn parhau fel ymgeisydd etholiadol

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae'r llif byw yma yn dod i ben. Cliciwch yma i ddarllen y stori'n llawn a dilynwch y diweddara' am weddill y p'nawn ar ein gwefan.

  2. 'Angen gwersi am ddewis ymgeiswyr'wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, y dylai Mr Cairns gamu o鈥檙 neilltu fel ymgeisydd seneddol.

    鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn ei fod o鈥檔 sefyll i lawr, ddim jest o鈥檙 cabinet, ond fel ymgeisydd Aelod Seneddol,鈥 meddai.

    鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn eu bod nhw [Y Blaid Geidwadol] yn cael gwersi am bwy maen nhw鈥檔 dewis fel ymgeiswyr.

    "Dydyn ni ddim eisiau pobl fel Ross England fel ymgeiswyr naill ai i鈥檙 Cynulliad neu San Steffan.鈥

    Jane Dodds
  3. Davies yn deall penderfyniad Cairnswedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mynwy, David TC Davies wrth raglen Dros Ginio nad yw'n "ymwybodol o'r amgylchiadau o beth ddigwyddodd" ond ei fod yn deall penderfyniad Alun Cairns i ymddiswyddo.

    Pwysleisiodd bod y dioddefwr yn "bwysicach nag unrhyw un arall yn y sefyllfa", a'i fod yn "gobeithio allai hi gario ymlaen gydag ei bywyd nawr".

    "Mae hi wedi galw ar Alun i ymddiswyddo, mae Alun yn ymddiswyddo, mae Alun yn mynd i gydweithio gyda'r ymchwiliad."

    Pan ofynnwyd a ddylai Ross England ymddiswyddo fel ymgeisydd Cynulliad, atebodd na fyddai'n briodol i unrhyw un sefyll fel ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr os oedan nhw wedi achosi cwymp achos llys, "a 'dwi'n si诺r bod pawb yn y Blaid Geidwadol yn cytuno".

    Pan ofynnwyd a ddylai Mr Cairns dynnu'n 么l fel ymgeisydd Seneddol, atebodd: "Dwi ddim yn si诺r beth ddigwyddodd.

    "Yn amlwg, os unrhyw un ddim yn cwrdd 芒 safonau'r Blaid Geidwadol, dydyn nhw ddim yn gallu sefyll. Dwi ddim yn gallu dweud mwy na hynny."

    TC
  4. Burns: Dylai England ystyried ei sefyllfawedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae'r AC Ceidwadol Angela Burns wedi diolch i Alun Cairns am ei "ymroddiad" i Gymru.

    Fe wnaeth hefyd alw ar Ross England, y dyn wnaeth ddymchwel yr achos llys treisio, i ystyried ei sefyllfa.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Penderfyniad 'rhengoedd uwch y blaid'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd Golygydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru, Felicity Evans: "Mae penderfyniad wedi ei wneud, dwi鈥檔 amau yn rhengoedd uwch y blaid yng Nghymru, nad ydyn nhw am i鈥檙 mater yma fod yn un niweidiol.鈥

  6. 'Pam ei bod wedi cymryd cyhyd?'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson ei bod yn 鈥渋awn ei fod [Mr Cairns] wedi ymddiswyddo鈥.

    鈥淩oedd yr honiadau gafodd eu gwneud yn ddifrifol iawn,鈥 meddai.

    鈥淩wy鈥檔 meddwl bod cwestiynau angen eu gofyn yngl欧n 芒 pham ei bod wedi cymryd cyhyd iddo ddod i鈥檙 penderfyniad yma.鈥

    Swinson
  7. Talu'r pris am agwedd rhywun arallwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Guto Harri
    Cyn-bennaeth Cyfathrebu i Boris Johnson

    Yn siarad yn fyw ar Dros Ginio ar 91热爆 Radio Cymru heddiw, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Guto Harri:

    "Alun Cairns, y bai fan hyn oedd cefnogi rhywun arall oedd wedi gwneud rhywbeth gwael, does neb wedi awgrymu fod Alun Cairns ei hun ag agwedd fochaidd tuag at fenywod, felly mae'n talu'r pris am agwedd rhywun arall...

    "Mae hyn yn ddechrau gwael iawn i ymgyrch y Ceidwadwyr yng Nghymru, ac mae'n ddiweddglo gwael iawn i Alun Cairns."

  8. Achos yn 'taflu goleuni' ar y blaidwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae rhagflaenydd Mr Cairns yn y cabinet wedi dweud bod yr ymddiswyddiad "yn anffodus yn anochel".

    Dywedodd Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, ei fod yn "edrych yn anodd iawn" i Mr Cairns.

    "Mae wedi bod yn wythnos anodd iawn ers i'r holl fater ddod i'r amlwg," meddai, gan ychwanegu bod "sawl un yn brwydro mewn etholaethau agos yn teimlo'n bryderus iawn".

    Ychwanegodd mai "gwir ddioddefwr" yr achos ydy'r ddynes gafodd ei threisio.

    "Mae'n taflu goleuni ar y blaid yng Nghymru - dydyn ni erioed wedi cael AS benywaidd Ceidwadol. "Dyma'r math o stori wenwynig sy'n tynnu sylw'r cyhoedd."

    Crabb
  9. 'Rhaid gwneud rhywbeth'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Ar Dros Ginio, dywedodd yr Athro Laura McAllister bod pencadlys y Ceidwadwyr wedi penderfynu bod "rhaid gwneud rhywbeth" i osgoi niwed pellach i ymgyrch etholiadol y blaid. Gwrandewch ar ei hymateb i'n newyddion yn torri ar 91热爆 Sounds.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'England heb gyrraedd y safonau'wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mewn datganiad pellach y p'nawn 'ma, mae arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd wedi dweud bod yr achos yn "frawychus a gofidus".

    "Rwy'n cydymdeimlo 芒 phob dioddefwr o drais neu ymosod rhywiol," meddai Paul Davies.

    "Rwy'n disgwyl y safonau uchaf gan ymgeiswyr Ceidwadol i'r Cynulliad; mae'r achos llys yma yn awgrymu nad yw Ross England wedi cyrraedd y safonau yna."

  11. Cefnogaeth yn lleol i Cairns?wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ymddiswyddiad yn 'golygu dim'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd AC a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood bod ymddiswyddiad Alun Cairns "yn golygu dim" oni bai ei fod hefyd yn ymddiswyddo fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol "oherwydd does dim sicrwydd y byddai wedi mynd yn 么l i'w hen swydd yn dilyn yr etholiad beth bynnag".

    Wood
  13. Cairns oedd wedi gwasanaethu hiraf yn y cabinetwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Alun Cairns oedd yr aelod o'r cabinet presennol oedd wedi gwasanaethu hiraf, gan fod yn y swydd dan lywodraethau David Cameron, Theresa May a Boris Johnson.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Heb esbonio ei ymddygiad'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae llefarydd Llafur ar Gymru, Christina Rees, wedi dweud bod ei ymddiswyddiad "ymhell o gau pen y mwdwl".

    "Nid yw wedi esbonio ei ymddygiad na'r materion dwys gafodd eu codi gan yr e-byst gafodd eu rhyddhau ddoe.

    "Waeth fyth, dydy o na'r un Ceidwadwr Cymreig blaenllaw wedi ymddiheuro i'r person sy'n haeddu hynny fwyaf - y dioddefwr."

    Galwodd arno i ymddiheuro a sefyll i lawr fel ymgeisydd.

    Christina Rees
  15. Cairns yn bwriadu aros fel ymgeisyddwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae'r 91热爆 yn deall bod Mr Cairns yn bwriadu parhau fel ymgeisydd seneddol wedi ei ymddiswyddiad o'r cabinet, ond mae Golygydd Gwleidyddol y 91热爆, Laura Kuenssberg, yn dweud ei fod yn bosib na fydd y cynllun yna yn para yn hir iawn.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Dylai dynnu'n 么l o'r etholiad'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru: 鈥淩wy'n gobeithio y bydd ymddiswyddiad Alun Cairns fel Ysgrifennydd Cymru'n rhyw fath o gysur i'r ddynes wrth wraidd yr achos yma, sydd dal heb dderbyn ymddiheuriad gan y Blaid Geidwadol.

    鈥淢ae ymddygiad Mr Cairns wedi profi'r ddiamau nad yw'n ffit i fod yn weinidog. Gallech chi ddim fod 芒 rhan mewn ymgais i guddio dymchwel achos o dreisio a gobeithio osgoi cael eich dal yn gwneud hynny.

    鈥淒yw'r fath ymddygiad ddim yn gweddu gweinidog llywodraeth, nac Aelod Seneddol.

    "Dylai Mr Cairns fod yn anrhydeddus a thynnu'n 么l o'r etholiad 鈥 ac os nad ydy o'n gwneud hynny, dylai'r Blaid Geidwadol fynnu ei fod yn tynnu'n 么l.鈥

    Liz SR
  17. 'Penderfyniad cywir'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Dywedodd arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Cynulliad, Paul Davies: 鈥淢ae'n ddrwg gen i weld Alun yn ymddiswyddo heddiw fel Ysgrifennydd Cymru ond, dan yr amgylchiadau, dyma oedd y penderfyniad cywir iddo.

    "Mae Alun wedi datgan yn gywir y bydd yn cydweithio'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau.

    "Hoffwn ddiolch i Alun am ei wasanaeth i Gymru fel ein Hysgrifennydd Gwladol, ble mae wedi dod 芒 thollau Pont Hafren, a fydd yn gadael gwaddol parhaol i economi Cymru.鈥

    PD
  18. Ymunwch yn y sgwrswedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    91热爆 Radio Cymru

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Johnson yn diolch am waith Cairnswedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, wedi diolch am yr "holl waith" y mae Mr Cairns wedi ei wneud yn y swydd.

    Dywedodd y gallai fod yn "falch o dy record o gyflawni dros bobl Cymru".

    Llythyron
  20. 'Cydweithio 芒'r ymchwiliad'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Yn ei lythyr at Boris Johnson, dywedodd Mr Cairns ei fod yn ymddiswyddo o'r cabinet yn sgil y dyfalu am y "mater sensitif iawn yma".

    Ychwanegodd y byddai'n "cydweithio'n llawn" gyda'r ymchwiliad ac yn "hyderus" y byddai'r ymchwiliad yn ei glirio o "unrhyw gamymddwyn".

    Alun Cainrs