91热爆

Crynodeb

  • Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit y prif weinidog

  • Y cytundeb wedi ei feirniadu gan aelodau o bob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr

  • Ond Mrs May wedi gofyn wrth ASau gael "golwg arall" ar ei chytundeb

  1. Disgwyl i ASau Cymru wrthwynebuwedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    91热爆 Cymru Fyw

    Mae disgwyl i fwyafrif ASau Cymru bleidleisio yn erbyn y cytundeb Brexit heno, gan gynnwys:

    • 27 o ASau Llafur (mae Paul Flynn wedi bod yn absennol o D欧'r Cyffredin oherwydd salwch);
    • Y pedwar Aelod Seneddol o Blaid Cymru;
    • Dau o ASau Ceidwadol Cymru - David Jones a Guto Bebb.

    Mae disgwyl i chwech AS Ceidwadol gefnogi Mrs May - Alun Cairns, Stephen Crabb, Chris Davies, David Davies, Glyn Davies a Simon Hart.

    david jones a guto bebb
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    David Jones a Guto Bebb yw'r ddau AS Ceidwadol sydd wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi cytundeb y prif weinidog

  2. May: 'Dim ond un posibiliad sydd'wedi ei gyhoeddi 18:54 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    91热爆 Cymru Fyw

    Yn ei haraith ar drothwy'r bleidlais, mae Theresa May wedi dweud y byddai dau ddewis arall os oedd ASau yn gwrthod ei chytundeb Brexit.

    Y cyntaf, meddai, fyddai canslo Brexit neu gynnal refferendwm arall - rhywbeth mae hi'n dweud fyddai'n mynd yn groes i "farn ddemocrataidd y bobl".

    Byddai gadael yr UE heb gytundeb, ar y llaw arall, yn achosi trafferthion economaidd sylweddol.

    "Dwi ddim yn meddwl mai dyna beth wnaeth pobl Prydain bleidleisio drosto," meddai.

    Mae hi hefyd yn wfftio'r posibiliad o gynnal etholiad cyffredinol, neu ddychwelyd i Frwsel am gytundeb newydd.

    "Mae hynny'n gadael un posibiliad - pleidleisio dros y cytundeb yma."

    Yn gynharach fe gadarnhaodd Jeremy Corbyn y byddai Llafur yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb, gan ddweud ei fod yn "fargen wael i'r wlad".

    theresa may
  3. Brexit: Y siwrne hyd ymawedi ei gyhoeddi 18:44 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    91热爆 Cymru Fyw

    Cyn i ni edrych mewn manylder ar ddigwyddiadau heno, dyma grynodeb o Brexit hyd yn hyn.

    • Mae'n ddwy flynedd a hanner ers i 51.9% o bobl Prydain bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ac i Theresa May ddod yn brif weinidog.
    • Fe daniodd hi Erthygl 50 i ddechrau'r broses o adael, galwodd etholiad cyffredinol lle gollodd ei mwyafrif yn San Steffan, ac yna dechreuodd y broses ffurfiol o negodi gyda'r UE.
    • Rhai o'r pynciau mwyaf dyrys i'r llywodraeth oedd y taliad y bydd y DU yn ei wneud i'r UE wrth adael, hawliau dinasyddion ar 么l Brexit, a'r ffin yn Iwerddon.
    • Cafodd y bleidlais wreiddiol ar y cytundeb ei gohirio ym mis Rhagfyr, wrth iddi ddod i'r amlwg nad oedd gan Mrs May gefnogaeth.
    • Bydd yn rhoi cynnig arall arni heno, ond y gred yw na fydd hi'n cael cefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Seneddol.

    Os ydy Brexit yn eich drysu'n llwyr, neu mae gyda chi gwestiynau am beth fydd yn digwydd heno, darllenwch ein canllaw.

    San Steffan
  4. Beth fydd yn digwydd heno?wedi ei gyhoeddi 18:39 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    91热爆 Cymru Fyw

    Efallai eich bod yn gofyn, beth yn union sy'n digwydd yn San Steffan heno?

    Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y cytundeb Brexit, sydd wedi ei gytuno gan Theresa May a'i thrafodwyr, a'r Undeb Ewropeaidd.

    Cafodd y bleidlais ei gohirio ym mis Rhagfyr, wrth i Mrs May geisio sicrhau mwy o gefnogaeth gan ASau.

    Os oes gyda chi 'chydig o amser sb芒r heno, mae'r

    Os ydy mwyafrif o ASau yn cymeradwyo'r cytundeb, bydd yn gam enfawr tuag at adael yr UE ar 29 Mawrth 2019.

    Ond os nad ydy 320 aelod yn ei gefnogi, fel y disgwyl, yna mae'r camau nesaf yn llawer llai sicr.

    Theresa MayFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Noswaith ddawedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    91热爆 Cymru Fyw

    Noswaith dda a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i ni ddilyn pleidlais gan Aelodau Seneddol yn San Steffan ar gytundeb Brexit Theresa May.

    Byddwn ni'n dod a'r diweddaraf i chi o'r siambr yn ogystal 芒 dadansoddiad o'r datblygiadau yn ystod y noson.

    Gallwch chi hefyd wrando ar raglen arbennig 91热爆 Radio Cymru neu Newyddion9 drwy'r dolenni uchod, felly arhoswch gyda ni.