91热爆

Cyllideb Cymru: Torri ym mhobman oni bai am iechyd a threnau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Prif Weinidog: Toriadau cyllideb 'yn argyfwng'

Mae Llywodraeth Cymru wedi torri'n 么l ym mron pob rhan o'i chyllideb er mwyn gwario mwy ar y gwasanaeth iechyd a threnau.

Mae gweinidogion Mark Drakeford wedi gorfod canfod mwy na 拢600m er mwyn llenwi bwlch ariannol cyn mis Ebrill nesaf.

Yn ogystal 芒 thoriadau, maen nhw'n gwario arian wrth gefn ac yn gobeithio derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn San Steffan.

Dywedodd Mr Drakeford nos Fawrth bod ei lywodraeth wedi wynebu argyfwng cyllidebol.

Ffynhonnell y llun, SeneddTV
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe roddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ddatganiad i'r Senedd ddydd Mawrth

Mae disgwyl i gynllun adeiladu ysgolion golli arian - ond fe fydd gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cynyddu.

Mae hynny achos bod llai o docynnau na'r disgwyl yn cael eu gwerthu ar y rheilffyrdd.

Ers canol yr haf mae gweinidogion wedi treulio misoedd yn chwilio am arian i amddiffyn rheng-flaen gwasanaethau cyhoeddus.

Fe gyhoeddwyd canlyniad y broses gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth.

Mae chwyddiant wedi lleihau gwerth y gyllideb ac mae'r llywodraeth yn wynebu costau uwch na'r arfer ar gyfer cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

O ganlyniad, mae'r pwysau wedi cynyddu ar gyllideb 拢20bn y llywodraeth - cyllideb sy'n talu am wasanaethau datganoledig fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Bydd yr adran iechyd yn derbyn 拢425m yn ychwanegol, ond mewn cyfnod pan fo rhestrau aros yn uchel dros ben, mae swyddogion yn rhybuddio y bydd y gwasanaeth yn dal i wynebu penderfyniadau anodd.

Nid arian newydd i ehangu gwasanaethau yw hyn, meddai un, ond arian sydd ond yn caniat谩u i'r gwasanaeth barhau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adran sy'n ariannu Trafnidiaeth Cymru wedi cael mwy o arian er bod llai o deithwyr yn defnyddio trenau

Yr adran newid hinsawdd yw'r unig adran arall i weld cynnydd. Dyna'r adran sy'n ariannu'r cwmni rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru.

Mae pob adran arall yn cael eu torri.

Does dim newid i gyllid craidd cynghorau lleol, sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol ac ysgolion.

Yn eu cyfanrwydd, mae'r newidiadau werth mwy na 拢600m - swm sylweddol tu allan i'r broses gyllidebol arferol.

Mae 拢220m yn dod o doriadau gwariant, tra bod o leiaf 拢100m yn dod o gronfa arian wrth gefn.

Mae disgwyl i 拢150m yn ychwanegol ddod i Gymru drwy wariant iechyd yn Lloegr.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi gofyn i'r Trysorlys yn Llundain am ganiat芒d i dynnu hyd at 拢200m allan o'i harian cyfalaf - yr arian sy'n talu am adeiladu pethau, fel ysgolion - a'i wario ar redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd.

'Mae yn argyfwng'

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y 拢400m ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd a 拢125m i drafnidiaeth yn arian "i gadw pethau fynd".

"Mae yn argyfwng," meddai.

"Yn y maes iechyd maen nhw'n wynebu lot o bobl yn dod trwy'r drws bod dydd ac maen nhw'n ymdopi gydag effaith chwyddiant a chostau egni ac yn y blaen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mark Drakeford bod ei lywodraeth wedi "gweithio'n galed" i warchod gwasanaethau wrth benderfynu sut i wneud arbedion ariannol

Fe ddywedodd y bydd gwelyau newydd yn cael eu hagor yn y gwasanaeth iechyd dros y gaeaf, ond fe fydd llai ohonyn nhw na'r llynedd

Roedd y llywodraeth, meddai, wedi "gweithio mor galed" i warchod gwasanaethau a "chanolbwyntio ar y bobl mwyaf bregus yn y gymuned".

"Mae'n amhosib g'neud pethau fel hyn heb gael rhai effeithiau," dywedodd, "ond ry'n ni wedi gweithio'n galed i dreial tynnu nhw i lawr ble bydd ddim effaith mawr ym mywydau pobol."

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyllid yr wrthblaid, y Ceidwadwr, Peter Fox: "Rhaid dweud bod Cymru yn ei sefyllfa ariannol bresennol o ganlyniad uniongyrchol i reoli gwael iawn, gwneud penderfyniadau a chynllunio heb feddwl ymlaen digonol, wedi'i danategu gan athroniaeth wleidyddol sy'n arwain at adael Cymru yn eithriadol o fregus, yn enwedig i newidiadau economaidd byd-eang."

Gofynnodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru a oedd yr arian ychwanegol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn "gyfaddefiad nad yw'r gwasanaeth yn perfformio fel y dylai ac yn datblygu'n bwll diwaelod?"