91热爆

Toriadau'r llywodraeth: Beth mae'n ei olygu i fi?

  • Cyhoeddwyd
Bws

Fe fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei warchod rhag toriadau pan fydd newidiadau i wariant cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans hefyd ddweud bod arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a rhai gwasanaethau eraill yn cael ei amddiffyn.

Mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth fe fydd hi'n egluro ble mae'r fwyell yn disgyn.

Ag yntau'n dweud bod 'na ddiffyg gwerth 拢900m yn y gyllideb, gofynnodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wrth weinidogion chwilio am arbedion yn yr haf.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am amddiffyn y gwasanaeth iechyd, tra bod Plaid Cymru yn dweud nad ydy'r broses wedi bod yn ddigon tryloyw.

Beth fydd yr effaith arna i?

Mae Rebecca Evans wedi llwyddo i gadw manylion y cyhoeddiad yn gyfrinachol, er iddi ddweud yn ddiweddar bod toriadau wastad yn effeithio ar bobl fregus.

Er bod Mark Drakeford wedi gofyn i bob adran gyfrannu, fe ddywedodd taw gwarchod y gwasanaeth iechyd oedd ei nod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Rebecca Evans yn amlinellu ei chynllun i fynd i'r afael 芒'r heriau ariannol yn ddiweddarach

Ni fydd y prif gronfa o arian i gynghorau yn lleihau. Dyna'r arian sy'n talu am ysgolion, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel a llu o wasanaethau eraill.

Ond os ydy'r gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol yn ddiogel, fe fydd yn rhaid i adrannau eraill ysgwyddo mwy o'r baich.

Dydyn ni ddim yn gwybod ble fydd y fwyell yn disgyn. Ond mi all addysg bellach, y celfyddydau a gwasanaethau amgylcheddol gael eu heffeithio.

Pam bod hyn yn digwydd?

Er i wariant cyhoeddus godi, mae prisiau'n codi'n gyflymach.

Mae chwyddiant yn lleihau'r gyllideb, gan olygu bod gan y llywodraeth lai o arian i'w wario.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wrth i lai o deithwyr ddefnyddio trenau a bysiau, mae'n golygu bod llai o arian yn cyrraedd y coffrau

Mae'r un peth yn digwydd i bob aelwyd, felly mae'n rhaid i'r llywodraeth ganfod yr arian i gynyddu cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

Mae cost moddion ac ynni i ysbytai wedi cynyddu'n sylweddol - felly hefyd nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth ers y pandemig.

Hefyd, mae llai o deithwyr wedi dychwelyd i'r rheilffyrdd na'r disgwyl, felly mae'n rhaid i'r llywodraeth lenwi'r bwlch ariannol mae hynny wedi ei greu.

Am beth mae'r llywodraeth yn talu?

Mae unrhyw wasanaeth sydd wedi ei ddatganoli i'r Senedd yn cael ei ariannu gan gyllideb 拢20bn Llywodraeth Cymru.

Y gwasanaeth iechyd sy'n hawlio'r rhan fwyaf o hynny.

Mae canran fawr arall yn mynd i'r cynghorau lleol - a nhw wedyn sy'n gyfrifol am redeg ysgolion a gofalu am bobl mewn oed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Mark Drakeford greu adran newid hinsawdd fawr yn ei lywodraeth, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth ac adeiladu tai.

Ond dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gyfrifol am fudd-daliadau na'r heddlu. Maen nhw'n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU yn San Steffan.

Beth mae'r pleidiau eraill yn ei ddweud?

Mae'r Ceidwadwyr eisiau gwarchod y gyllideb iechyd.

Maen nhw hefyd wedi cyhuddo'r llywodraeth o wastraffu arian ar bethau fel y terfyn cyflymder 20mya ac ehangu maint y Senedd.

Yn 么l Peter Fox, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, fe ddylai'r llywodraeth fod wedi rhagweld beth oedd yn digwydd ac ymateb yn gynharach.

Dywed Llywodraeth y DU bod cyllideb Cymru ar ei lefel uchaf erioed.

Yn 么l Plaid Cymru mae'r llywodraeth wedi gadael pobl yn y tywyllwch, ar 么l i'r gweinidog cyllid ddweud taw nid 拢900m oedd cost yr arbedion sydd eu hangen wedi'r cyfan.

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, bod y broses wedi bod yn "rhwystredig".

Mae aros mor hir am gyhoeddiad wedi creu "llawer o bryder a 聽llawer o bwysau i wasanaethau cyhoeddus sydd ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf," meddai.

Pryd byddwn ni'n gwybod beth sy'n digwydd nesaf?

Fe fydd Rebecca Evans yn gwneud datganiad yn y Senedd ganol prynhawn ddydd Mawrth.

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Mae cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n dechrau ym mis Ebrill 2024, yn cael ei pharatoi.

Fis Rhagfyr fe fydd Ms Evans yn egluro sut mae hi'n mynd i wario'r arian.

Yr un fydd y pwysau ar y gyllideb, wrth i gostau barhau i gynyddu.

Pynciau cysylltiedig