'Orielau angen celf dosbarth gweithiol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Natalie Chapman o Lannon, Ceredigion yn galw am fwy o orielau celf yng nghefn gwlad a chyfleoedd i artistiaid dosbarth gweithiol.
Dywed Natalie: "Mae'n anodd cael eich gweld yn y byd celf os nad ydych yn dod o ddosbarth gwell ac mae'r cyfleoedd i arddangos mewn ardaloedd gwledig yn brinnach fyth."
Cafodd Natalie ei magu i rieni oedd yn gaeth i gyffuriau ac er ei bod yn artist proffesiynol erbyn hyn, roedd cael mynediad i gelf yn dalcen caled.
Mae ymchwil ddiweddaraf y mudiad International Body of Art sy'n annog cyfleoedd cyfartal i artistiaid yn dangos bod 31% o artistiaid proffesiynol dosbarth gweithiol wedi methu 芒 datblygu yn eu gyrfaoedd oherwydd eu bod heb gysylltiadau.
Mynediad i gelf
Yn ystod magwraeth Natalie yng Ngheredigion, roedd ei rhieni heb waith ac yn symud o gwmpas yn rheolaidd.
Am sawl blwyddyn roedd ei theulu'n byw mewn sgubor heb drydan ac yn defnyddio canhwyllau fel golau.
Wrth edrych yn 么l, mae'n teimlo'n ffodus bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi rhoi mynediad iddi at gelf.
"Dwi'n cofio nhw'n trefnu 'mod i'n mynd i weithdy gwneud pypedau dros y penwythnos. Pethau fel 'na, roedd yn anhygoel wrth edrych yn 么l.
"Ond fel arall, yn dod o 'nghefndir i, doedd dim pres, dim cyfle. Pobl sydd gyda phres sy'n gallu fforddio i fynd a'u plant i wersi ac ati."
Yn ddiweddarach a phan yn fam sengl i dri, fe ffoniodd Natalie Brifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a derbyn lle i astudio yno'n rhan amser.
Dywedodd: "Wnes i egluro fy sefyllfa, ges i fynd yno i ddiwrnod agored a dangos fy ngwaith a rhoddon nhw le i fi.
"Roedd hynny'n yn anodd achos do'n i methu cael gofal plant. Yn lwcus i fi, fe wnaeth fy ffrind gorau warchod i fi, felly wnes i wneud y cwrs am ddau ddiwrnod o'r wythnos dros chwe blynedd."
Gweithio am ddim
Er "i'w byd agor" tra'n gwneud y cwrs dan arweiniad tiwtoriaid oedd yn ei hannog, roedd ffeindio cyfleoedd i arddangos ei gwaith "yn her enfawr".
"Mae yna clique sydd yn anodd i wthio heibio.
"Be' oedd yn anodd i fi yn dod o ardal wledig oedd; mae llawer o'r orielau'n rhoi lle i ddarluniau tirwedd sy'n wahanol iawn i 'ngwaith i.
"Dwi'n dwyn oddi ar fy mhrofiadau personol yn fy ngwaith, ac yn portreadu pobl sy'n wynebu perthnasau anodd a heriau cymdeithasol.
"Roedd wir yn anodd i fi gael cyfleoedd. Ro'n i'n gwneud pethau am ddim er mwyn cael fy enw allan yna."
Pan agorodd oriel Canfas yn Aberteifi, cafodd Natalie gyfle i arddangos ei gwaith o'r diwedd, ond cyn hynny dywed iddi "ddibynnu ar adeiladau gwag".
Orielau angen amrywiaeth
Er yn artist llwyddiannus bellach, a'i gwaith yn cael ei arddangos ar draws de Cymru, mae Natalie eisiau gweld mwy o orielau Cymreig yn arddangos gwaith artistiaid dosbarth gweithiol.
Meddai: "Os ydych ond yn gadael i'r un math o bobl, sydd wedi'u hyfforddi'n dda i gael mynediad i gelf, yna rydych am gael yr un straeon ailadroddus yn cael eu dweud.
"Mae miliynau o blant yn mynd drwy brofiadau tebyg i beth wnes i, ac os nad yw gwaith celf yn dweud stori pawb yna beth ydy'r pwynt?"
Cyflog cyson
Mae'r artist abstract, Elfyn Lewis o Borthmadog, hefyd yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth i artistiaid dosbarth gweithiol.
Wrth dyfu i fyny roedd ei fam yn gweithio yn siop recordiau Cob a'i dad mewn amryw o swyddi gan gynnwys gweithiwr rheilffordd a gwerthwr pysgod.
Yn 么l Elfyn, "mae llawer o bwysau ar rieni i wneud yn si诺r bod eu plant yn gwneud dewis saff o ran gyrfa i dalu'r biliau".
"A'r anodda' ydy eich cefndir chi, yna dwi'n dychmygu ei bod hi'n anoddach fyth i rywun ddewis astudio celf, mae pwysau i ennill arian."
Mae Elfyn yn teimlo'n ffodus i'w athro celf, yr artist Rob Piercy, ei annog i fynd i astudio celf yn y brifysgol.
Yr her fwyaf iddo o hyd fel artist proffesiynol yw cael cyflog cyson.
Meddai: "'Fel artist, 'dach chi'n tueddu i ddal mwy nag un swydd ar y tro.
"Weithiau mae 'ngwaith i'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol bethau; cloriau llyfrau a recordiau ac ati, dwi'n gwneud cyfweliadau teledu, radio, gweithdai celf.
"Weithiau dwi'n cael fy nhalu ac weithiau dwi ddim."
"Dwi'n lwcus, mae gen i fy nheulu i ddisgyn yn 么l arnyn nhw os ydw i angen cefnogaeth ariannol, sydd ychydig bach yn pathetig fel dyn 54."
Hoffai Elfyn weld artistiaid yn cael eu cefnogi gan incwm sylfaenol cyffredinol.
"Mae yna dalent yng Nghymru, ond dwi'n poeni bod artistiaid ifanc neu bobl efo teulu ifanc methu creu gan eu bod nhw angen dal swyddi eraill.
"Felly dwi'n meddwl y byddai eu cefnogi nhw gyda chyflog byw yn help."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023