91Èȱ¬

Gadael gradd i wneud gyrfa mewn gemau

  • Cyhoeddwyd
Aron JonesFfynhonnell y llun, Aron Jones

Faint o ymarfer sydd angen ei wneud er mwyn dod yn un o chwaraewyr gemau cyfrifiadur gorau'r byd?

O leiaf 40 awr yr wythnos, meddai Aron Jones o Rydaman. A dylai wybod - mae Aron yn hyfforddi tîm o chwaraewyr proffesiynol, sydd bellach yn safle rhif 7 ar draws Ewrop.

"Mae e fel full-time job. Ti'n gorfod rhoi llawer o oriau mewn. Mae un o chwaraewyr fi [wedi chwarae] 8,500 awr nawr dros y gêm i gyd, mewn pedair blynedd. Mae hwnna bron yn flwyddyn o'ch bywyd!"

Rocket League yw gêm Aron - neu Eclipse, fel mae'n cael ei adnabod yn y byd rhithiol - sef gêm gyfrifiadur pêl-droed, lle mae ceir yn chwarae ar y cae, yn hytrach na phobl.

Fel mewn gêm o bêl-droed arferol, mae gan Aron, yr hyfforddwr, drosolwg dros y chwarae, ac yn cynghori ei dîm ar beth i'w wneud nesaf. Ond yn wahanol i bêl-droed, does yna ddim rhaid i'r chwaraewyr fod yn yr un lle ar yr un pryd, wrth gwrs:

"Mae tri o bobl yn y tîm, yn chwarae bob wythnos. Mae un Sais, un o'r Ffindir ac un yn dod o Iwerddon - felly ry'n ni ar draws Ewrop."

Mae'n gêm hynod boblogaidd, ac mae ffans i'w canfod ar draws y byd. Os bydd hi'n bosib teithio erbyn hynny, mae Aron yn croesi bysedd y bydd yn cael mynd i Bencampwriaethau'r Byd y flwyddyn nesa', i gystadlu mewn arena o flaen hyd at 30,000 o wylwyr a chefnogwyr.

Disgrifiad,

"Mae Dad dal ddim yn deall beth fi'n gwneud!"

Gadael y coleg i ddilyn breuddwyd

Gweithio tuag at radd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe oedd Aron, pan benderfynodd roi'r gorau iddi a cheisio - a llwyddo - creu gyrfa iddo'i hun ym maes Esports - chwaraeon sydd yn cael eu chwarae ar gyfrifiadur.

Roedd hyn yn sioc i'w rieni, oedd wedi disgwyl iddo raddio a dechrau ar yrfa yn y byd Ffiseg, ond maen nhw wedi dod i arfer â'r peth, meddai Aron, er efallai nad ydyn nhw'n hollol siŵr beth yn union mae'n ei wneud o ddydd-i-ddydd:

"Mae teulu fi'n hapus iawn nawr, nawr fi mewn e, ond yr amser cyn i fi gael swydd full-time gyda fe, oedden nhw'n ffeindio fe yn bit sketchy!

"Mae Dad dal ddim yn deall beth fi'n gwneud. Mae e'n gwybod bo' fi'n chwarae gemau, mae e'n gwybod dwi fel athro i chwaraewyr, ond dyna i gyd.

"Fi'n meddwl mae e'n wahaniaeth rhwng y generations."

Hyfforddi'r goreuon

Fel pob hyfforddwr da, mae Aron yn gwybod am beth mae'n edrych pan yn chwilio am chwaraewyr newydd i'w dîm. Mae gan chwaraewyr proffesiynol y rhywbeth bach ychwanegol 'na, meddai, a'r awch i lwyddo.

"Mae llawer o bobl yn chwarae yn dda yn y gêm, ond dydyn nhw ddim rili eisiau gweithio amdano. A ti'n gorfod edrych mas am bobl sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud yn dda iawn.

"Ti'n gallu gweld y gwahaniaeth rhwng dau berson - un sy'n broffesiynol, ac un sydd jest yn dda yn y gêm. Gyda rhywun proffesiynol, maen nhw'n edrych ar y bêl, mae'n mynd dros y cae, ti'n gallu gweld nhw, yn gwybod beth mae'r bêl yn mynd i'w 'neud cyn unrhyw un arall.

Ffynhonnell y llun, Aron Jones
Disgrifiad o’r llun,

Aron yn cadw golwg ar ei dîm. Ond wrth gwrs, nid oes rhaid i'r chwaraewyr a'r hyfforddwr fod yn yr un ystafell i chwarae gemau cyfrifiadur - sydd wedi golygu fod y chwarae wedi gallu parhau yn ystod cyfnod COVID-19

"Fel pêl-droed, mae llawer o bobl yn ceisio gwneud e fel gyrfa, ond dim ond canran bach iawn sy'n medru gwneud. Mae'n galed i mynd mewn, a ti'n gorfod rhoi llawer o waith i 'neud e."

Bellach, mae Aron wedi bod yn y swydd ers tua blwyddyn a hanner, ac wrth ei fodd ei fod yn gallu gwneud bywoliaeth o rywbeth oedd yn hobi iddo ar un adeg:

"Dwi ddim wir yn gallu dweud dim byd gwael amdano! Fi'n gallu gwneud beth fi'n hoffi a beth o'n i'n chwarae pan o'n i'n dod nôl o'r ysgol.

"Pan o'n i'n ifanc, o'n i'n chwarae pêl-droed, rygbi, gemau cyfrifiadur - mae popeth i fi yn competitive - bod y gorau, bod ar y top. Fi ishe gwneud yn well a gwell bob tro.

"Pan ni ddim yn gwneud yn dda, fi'n cael y drive i fynd i'r lefel nesa', a pan dwi ar y top, dwi dal ishe mynd i'r lefel nesa'."

Hefyd o ddiddordeb: